Cynllunio a rheoli gweithgareddau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a rheoli'r defnydd o weithgareddau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol i helpu i gyflawni amcanion sefydliadol. Mae'n cynnwys cynllunio'r defnydd o dechnolegau digidol ar gyfer cydweithio, cyn mynd ati i'w sefydlu a'u haddasu i ddiwallu anghenion. Mae'n cynnwys trefnu cynnwys rhwydweithio cydweithio a chymdeithasol; ymgysylltu â rhwydweithiau ar-lein, fforymau a chymunedau yn unol â chanllawiau sefydliadol. Mae hefyd yn cynnwys gweithio'n rhan o dîm rhithwir i gynhyrchu ac archifo canlyniadau y cytunir arnynt. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen cynllunio'r defnydd o rwydweithiau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio'r defnydd o gynnwys digidol a negeseuon ar-lein drwy ddefnyddio cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol i fodloni gofynion sefydliadol
Rhoi'r defnydd o blatfformau ac offer cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol ar waith i ddarparu gwasanaethau busnes ar-lein yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cymryd rhan mewn rhwydweithiau, fforymau neu gymunedau ar-lein i gynorthwyo datblygiad gwasanaethau busnes
Monitro gweithgareddau rhyngweithio ar-lein drwy ddefnyddio cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol i reoli gweithgareddau darparu gwasanaethau busnes
Nodi risgiau diogelwch seibr a rhoi gwybod amdanynt wrth ddefnyddio offer cydweithio yn unol â chanllawiau sefydliadol
Rhyngweithio â chydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol yn unol â chanllawiau moesegol, proffesiynol a diogelwch sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Y defnydd o gydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol i gyflwyno gwasanaethau busnes
Y manteision y gall technoleg ddigidol eu cynnig i wasanaethau busnes a gyflwynir drwy blatfformau cydweithio ar y cyfryngau cymdeithasol
Y ffyrdd y gall sefydliadau fesur effeithiolrwydd cyflwyno gwasanaethau busnes drwy gydweithio ar y cyfryngau cymdeithasol
Y gwahanol fathau o blatfformau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol y gellir eu defnyddio i ryngweithio â chwsmeriaid
Sut i nodi negeseuon gan gwsmeriaid ar blatfformau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol ac ymateb iddynt
Y rheoliadau, y polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol sy'n rheoli'r defnydd o ryngweithio â chydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol a sut i'w cymhwyso
Sut i asesu'r risgiau diogelwch seiber a chynnal diogelwch data wrth ddefnyddio platfformau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol
Pwysigrwydd hybu ymddiriedaeth wrth gydweithio a'r ffyrdd y gellir gwneud hyn