Defnyddio nodweddion ebost uwch
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio nodweddion ebost uwch i gynorthwyo'r broses o anfon a derbyn ebyst yn ogystal â sefydlu cyfrifon ebost newydd. Mae hyn yn golygu creu cyfeiriadau ebost newydd gyda darparwyr gwasanaethau ebost a sefydlu rheolau cyfrifon ebost ac ymatebion awtomataidd ar gyfer ebost. Mae hefyd yn cynnwys rheoli diogelwch ebost drwy ddefnyddio amgryptio. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen defnyddio gosodiadau ebost uwch i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gweithredu rhaglenni cyfrif ebost ar ddyfeisiau symudol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Addasu cwareli gweld ebost i deilwra sut mae negeseuon ebost yn ymddangos yn unol â gofynion sefydliadol
Creu amodau cychwyn ac ymadael meddalwedd ebost i awtomeiddio'r broses o gynnal ebyst
Newid i weithio all-lein pan nad yw'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd i gynnal cynhyrchiant ebost
Nodi pan fydd problemau ebost yn lleol neu'n gysylltiedig â darparwr y gwasanaeth i drefnu penderfyniadau effeithiol
Amgryptio negeseuon ebost sensitif neu breifat i gynnal preifatrwydd a diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut i ddewis a chofrestru gyda darparwr gwasanaeth ebost
Beth sy'n gysylltiedig â sefydlu cyfrif ebost newydd
Y dulliau trosglwyddo negeseuon yn well
Sut i sefydlu ymatebion awtomatig i ymateb yn effeithiol i negeseuon sy'n cyrraedd
Pam a sut i gadw'n ddiogel a pharchu eraill wrth ddefnyddio ebost
Sut i addasu gosodiadau cyfrif ebost i ddiwallu anghenion
Pam, beth a phryd i archifo negeseuon
Sut i leihau problemau ebost gan gynnwys cyfyngiadau mewnflwch, cyfyngiadau o ran maint ebyst, problemau gydag atodiadau a chyfyngiadau trosglwyddo
Diben amgryptio neges a phryd mae'n briodol ei ddefnyddio
Sut i amgryptio i gadw cynnwys ebost yn breifat
Sut i wella diogelwch wrth gyfathrebu drwy ebost
Sut i ffurfweddu systemau archifo negeseuon ar gyfer storio ac adalw ebyst yn effeithlon
Y ffactorau sy'n rheoli maint neges a chyflymder trosglwyddo