Anfon a derbyn negeseuon ebost
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag anfon a derbyn ebyst i gyfathrebu ag eraill drwy ddefnyddio rhaglen feddalwedd ebost. Mae hyn yn cynnwys cyfansoddi, golygu, anfon a derbyn ebyst ac mae'n cynnwys deall sut i ddefnyddio ystod o offer meddalwedd ebost hanfodol er mwyn anfon, derbyn a storio negeseuon yn rhan o weithgareddau cyfathrebu syml neu arferol. Mae'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag anfon a derbyn ebyst yn cynnwys cyfansoddi, fformatio a gwirio sillafu ebyst, anfon ebyst, a derbyn a rheoli ebyst sy'n cyrraedd. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen anfon a derbyn ebyst yn rhan o'u dyletswyddau. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen anfon a derbyn negeseuon ebyst i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Creu cyfrif ebost i anfon a derbyn ebyst
Ychwanegu dull diogelu â chyfrinair i gyfrif ebost i gynnal preifatrwydd a diogelwch
Defnyddio offer meddalwedd ebost i gyfansoddi a fformatio ebyst
Atodi ffeiliau i ebyst
Anfon negeseuon ebost i un cyfeiriad neu nifer o gyfeiriadau ebost yn unol â'r gofynion
Defnyddio llyfr cyfeiriadau ebost i storio ac adalw gwybodaeth gyswllt
Dilyn canllawiau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer defnyddio ebost yn foesegol ac yn gyfrifol
Agor ebyst a'u hateb yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Trefnu, storio a dileu ebyst sy'n cyrraedd i'w rheoli'n effeithiol
Ymateb yn briodol i broblemau cyffredin yn ymwneud ag ebost
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Y derminoleg a'r prif gysyniadau sy'n ymwneud ag ebyst
Yr angen i ddefnyddio cyfeiriad ebost priodol yn rhan o hunaniaeth ar-lein
Sut i ddefnyddio offer a thechnegau meddalwedd ebost i anfon a derbyn negeseuon
Sut i gadw'n ddiogel a pharchu eraill wrth ddefnyddio ebost
Sut i gyfansoddi, fformatio a gwirio sillafu ebyst
Sut i anfon ebost drwy ddefnyddio offer ebost ar gyfer cyfeiriadau gan ddefnyddio nodweddion 'To', 'cc', 'reply', 'reply all' a 'forward'
Sut i reoli ebyst sy'n cyrraedd mewn modd effeithiol
Sut i osgoi datgelu gwybodaeth bersonol yn amhriodol
Beth yw ystyr 'netiquette' (defnyddio'r rhyngrwyd yn briodol) yng nghyd-destun ebyst
Sut i barchu cyfrinachedd wrth ddefnyddio ebost
Sut i nodi pryd a sut i ymateb i ebyst
Sut i nodi pa ebyst i'w dileu, eu cadw neu eu harchifo a phryd i wneud hynny
Sut i nodi i broblemau arferol sy'n ymwneud ag ebost, ac ymateb iddynt, gan gynnwys maint negeseuon, negeseuon anniogel o SPAM, sothach, negeseuon cadwyn, neu ffynonellau 'gwe-rwydo'