Cynnal iechyd, diogelwch a lles wrth weithio gyda thechnoleg ddigidol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal iechyd, diogelwch a lles wrth weithio gyda thechnolegau digidol. Mae'n cynnwys pwysigrwydd polisïau a gweithdrefnau iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle technoleg ddigidol a'r cyfrifoldeb y mae'n ei roi ar bob unigolyn. Mae'n cynnwys defnyddio asesiadau risg mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles a defnyddio technolegau digidol ac offer sgrîn yn ddiogel. Mae hefyd yn cynnwys y gweithdrefnau ar gyfer ymateb i ddamweiniau a sut i drin sylweddau a deunyddiau peryglus sy'n gysylltiedig â thechnolegau digidol. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen gweithredu'n ddiogel, gan gynnal iechyd, diogelwch a lles wrth weithio gyda thechnolegau digidol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Perfformio asesiadau risg i nodi'r peryglon iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â defnyddio technolegau digidol i weithredu arferion gweithio diogel
Ymateb yn briodol i leihau risgiau posibl yn eich amgylchedd gwaith eich hunain ac arferion gwaith yn unol â safonau sefydliadol
Adolygu ac ymateb i beryglon a risgiau sy'n codi wrth weithio gyda thechnolegau digidol yn y gweithle yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cymryd rhagofalon i leihau risgiau iechyd a diogelwch i'ch hun ac eraill wrth symud offer technoleg ddigidol trwm neu beryglus neu eu gwaredu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cydnabod a lleihau effeithiau straen corfforol gweithio wrth sgrîn ac wrth weithio ar-lein
Cymhwyso dulliau penodedig i osgoi risgiau iechyd corfforol a seicolegol wrth ddefnyddio dyfeisiau digidol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Dilyn y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am beryglon sy'n gysylltiedig â thechnoleg ddigidol, risgiau neu ddamweiniau yn y gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch cyffredinol mewn cyd-destun TG
Y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer sicrhau iechyd a diogelwch yn y gwaith
Y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymateb i ddamweiniau yn y gwaith
Y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am beryglon, risgiau neu ddamweiniau yn y gwaith
Prif nodweddion polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch sefydliad
Prif gyfrifoldebau iechyd a diogelwch eich hun ac eraill yn y lleoliad gwaith technoleg ddigidol
Sut i gael gafael ar gymorth a gwybodaeth ychwanegol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles yn y lleoliad gwaith technoleg ddigidol
Pam mae'n bwysig asesu peryglon iechyd a diogelwch a achosir gan leoliad gwaith technoleg ddigidol
Sut i asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio technolegau digidol
Y materion lles sy'n gysylltiedig â gorddefnyddio technolegau digidol neu eu defnyddio'n amhriodol
Y camau y gellir eu cymryd i liniaru'r risgiau iechyd a lles sy'n gysylltiedig â thechnolegau digidol
Y risgiau iechyd sy'n gallu deillio o weithfannau neu amgylcheddau gwaith sydd wedi'u cynllunio'n wael