Creu a rheoli cyfrifon digidol ar-lein
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu a rheoli cyfrifon digidol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i'ch ffordd, cofrestru manylion cyfrifon newydd a rheoli cyfrifon. Mae'n cynnwys y camau sydd eu hangen i greu cyfrifon ar-lein ar gyfer ystod o systemau gan gynnwys bancio a chyllid ar-lein, cyfrifon manwerthu, gwasanaethau'r llywodraeth gan gynnwys cyfrifon treth a dysgu. Mae hefyd yn cynnwys gwirio a rheoli cyfrifon, diweddaru manylion a chau cyfrifon. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu a rheoli cyfrifon digidol ar-lein i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi gofynion cyfrifon ar-lein gyda rhanddeiliaid
Adolygu cyfarwyddiadau ymuno a gofynion data i drefnu paratoadau'n gywir ar gyfer cofrestru cyfrif ar-lein yn gywir
Cadarnhau diogelwch safle'r cyfrif ar-lein yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Sganio dogfennau adnabod yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cofrestru cyfrifon newydd yn ddiogel ac yn unol â chyfarwyddiadau'r darparwr
Gosod mynediad at gyfrif ychwanegol yn ddiogel ar ddyfeisiau symudol yn unol â gofynion sefydliadol
Profi bod mynediad at gyfrif yn gweithredu'n gywir
Monitro a rheoli manylion cyfrif yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cynhyrchu ac argraffu crynodebau ac adroddiadau cyfrifon yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Prif egwyddorion gosod a gweithredu cyfrifon digidol ar-lein
Ble i gael gwybodaeth am gyfrif gan gynnwys cyfarwyddiadau ymuno
Y wybodaeth sydd ei hangen i gyflwyno cais i gofrestru cyfrif ar-lein
Sut i goladu gofynion gwybodaeth ar gyfer cofrestru
Sut i sganio a storio dogfennau adnabod gan gynnwys pasbortau a thrwyddedau gyrru
Sut i wirio sganiau dogfennau adnabod i fodloni gofynion lanlwytho ffeiliau
Sut i ddewis a lanlwytho ffeiliau adnabod yn rhan o broses cofrestru cyfrifon ar-lein
Sut i lenwi ffurflenni cofrestru ar-lein manwl
Yr angen i wirio a chadarnhau manylion cofrestru cyfrif
Sut i gadarnhau diogelwch gwefan cyfrif ar-lein
Beth yw ystyr dilysu aml-ffactor
Y dulliau a ddefnyddir i gadarnhau hunaniaeth yn rhan o ddull dilysu aml-ffactor
Sut i osod mynediad at gyfrif ar ddyfeisiau symudol
Pwysigrwydd defnyddio cyfrineiriau unigryw cryf ar gyfer cyfrifon ar-lein
Pwysigrwydd profi dulliau mewngofnodi a mynediad at gyfrifon
Sut i gau cyfrif ar-lein
Sut i gynhyrchu ac argraffu crynodebau statws cyfrif a thrafodion