Llenwi ffurflenni a thrafodion digidol ar-lein yn ddiogel
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â llenwi ffurflenni a thrafodion digidol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys llywio, llenwi a chyflwyno ffurflenni ar-lein a ddefnyddir i fewnbynnu gwybodaeth at ystod o ddibenion. Mae'n cynnwys cofrestru ar gyfer gwasanaethau a chyflwyno data drwy ddefnyddio ffurflenni cais. Mae hefyd yn cynnwys dilysu data i wirio bod y ffurflenni data a gyflwynir o'r math cywir ac yn gywir. Mae hefyd yn cynnwys llenwi ffurflen a'i chyflwyno yn rhan o drafodiad ar-lein, gan gydymffurfio â gwiriadau dilysu, a darparu taliadau ar-lein drwy ddefnyddio systemau talu ar-lein. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai y mae angen iddynt lenwi ffurflenni digidol ar-lein a thrafodion i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cytuno ar ofynion i lenwi ffurflenni, cofrestriadau a thrafodion ar-lein gyda rhanddeiliaid
Llenwi ffurflenni ar-lein yn gywir
Cadarnhau diogelwch safleoedd cofrestru a thalu ar-lein cyn cyflwyno data a phrosesu trafodion talu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Perfformio trafodion talu ar-lein yn ddiogel
Cyflwyno cyfeiriad gywir drwy ddefnyddio offer chwilio côd post sydd wedi'u mewnosod mewn ffurflenni ar-lein
Prosesu archebion arferol a thaliadau eraill yn ddiogel drwy ddefnyddio dull talu cymeradwy
Cofnodi manylion talu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Monitro negeseuon ebost sy'n cyrraedd i gadarnhau manylion archebion a thalu a derbynebau
Cadw derbynebau a anfonir ar ffurf atodiadau ebost mewn ffolderi penodol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Y derminoleg a'r cysyniadau sy'n ymwneud â ffurflenni a thrafodion ar-lein
Sut i nodi'r gwasanaethau digidol sydd eu hangen i gynllunio ffurflenni ar-lein ac anghenion trafodion
Y botymau safonol, y rheolyddion a meysydd mewnbynnu data a ddefnyddir mewn ffurflenni ar-lein
Sut i fewnbynnu testun a data rhifol gan ddefnyddio ffurflenni ar-lein
Sut i ddefnyddio offer chwilio côd post cyfeiriadau
Beth yw ystyr dilysu data
Y gwiriadau dilysu safonol y gellir eu cynnal wrth fewnbynnu data ar-lein
Beth yw ystyr dilysu aml-ffactor
Dulliau safonol y diwydiant a ddefnyddir i gymhwyso dilysu aml-ffactor
Sut i nodi gwefannau talu diogel
Sut i wneud taliad ar-lein drwy ddefnyddio dulliau talu safonol
Sut i gadw derbynebau ac atodiadau ebost eraill mewn ffolderi
Yr angen i gadw cofnodion cywir o daliadau a wnaed a chadarnhad o archebion a derbynebau a dderbyniwyd
Sut i groeswirio ebyst yn erbyn archebion a thaliadau i ddod o hyd i dderbynebau