Cynhyrchu asedau cyfryngau digidol gwell
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu asedau cyfryngau digidol gwell i'w defnyddio fel cynnwys digidol mewn rhaglenni ar-lein a chysylltiedig. Mae cyfryngau digidol yn cynnwys cyfuniad o destun, sain, delweddau llonydd, animeiddio, fideo, neu gynnwys rhyngweithiol eraill. Mae'n cynnwys cynllunio a dewis meddalwedd priodol i greu asedau. Mae hyn yn cynnwys adolygu'r gofynion ar gyfer yr asedau cyfryngau digidol sydd eu hangen i nodi mathau a chwmpas, a chyflwyno cynigion ac amlinelliadau i gytuno ar gynnwys gofynnol. Mae'n cynnwys defnyddio meddalwedd i fewngludo a chreu dyluniadau cyfryngau digidol ar gyfer delweddau, fideo a dilyniannau sain. Mae hefyd yn cynnwys defnyddio offer meddalwedd i wella goleuadau a chynhyrchu effeithiau arbennig. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen cynhyrchu asedau cyfryngau digidol uwch i'w defnyddio fel cynnwys digidol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cytuno ar ofynion asedau cyfryngau digidol gyda'r cwsmer i ddatblygu cynllun cynhyrchu
Nodi'r platfformau meddalwedd digidol sydd eu hangen i gynhyrchu'r asedau cyfryngau digidol penodedig
Cyflwyno syniadau, cyflwyniadau a chynigion i gwsmeriaid i gymeradwyo cynnwys yr asedau cyfryngau digidol i'w ddatblygu
Creu a storio'r ffeiliau asedau penodedig o ddelweddau digidol, fideo, sain a thestun yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Defnyddio effeithiau goleuo a hidlyddion i gynhyrchu'r delweddau penodedig ac asedau fideo
Golygu a diwygio asedau cyfryngau digidol i gynhyrchu'r fformat penodedig a mathau o ffeiliau
Cyhoeddi asedau cyfryngau digidol fel gwefannau cynnwys yn unol â gofynion sefydliadol
Nodi a chywiro problemau o ran ansawdd er mwyn sicrhau bod asedau digidol a gynhyrchir yn bodloni manylebau cwsmeriaid
Dosbarthu ffeiliau asedau cyfryngau digidol i gwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Pa ddyluniadau neu ddelweddau sydd eu hangen yn rhan o brosiect cyfryngau digidol
Sut mae'r cyd-destun yn effeithio ar y ffordd y dylai dyluniadau a delweddau cyfryngau digidol gael eu paratoi
Sut i recordio fideo, lluniau, graffeg a sain o fformatau amrywiol, wrth baratoi ar gyfer golygu
Sut mae'r dull golygu yn effeithio ar gynhyrchu'r cynnwys
Sut i storio asedau cyfryngau a chael mynediad at atynt yn ddiogel
Sut i archifo a chadw delweddau i'w defnyddio yn y dyfodol
Sut y gall unrhyw hawlfraint neu gyfyngiadau eraill fod yn berthnasol i'r defnydd o ddyluniadau neu ddelweddau eich hunain ac eraill
Esbonio pryd a sut i gyfuno gwybodaeth drwy ddefnyddio fformatau ffeiliau priodol
Sut mae fformat ffeil yn effeithio ar ansawdd delwedd, fformat a maint
Sut i ddewis fformatau priodol ar gyfer cadw dyluniadau neu ddelweddau
Sut i ddefnyddio asedau cyfryngau digidol ar dudalennau gwe
Sut i gyfathrebu asedau cyfryngau digidol y gellir eu cyflwyno
Y rheoliadau hawlfraint ac eiddo deallusol sy'n berthnasol wrth ddefnyddio asedau cyfryngau digidol
Cymhwyso safonau hygyrchedd y we mewn perthynas â delweddau cyfryngau digidol, dilyniannau fideo a sain
Y fformatau a'r safonau cynnwys digidol sy'n addas ar borwyr gwe i gael mynediad ar-lein
Anawsterau o ran cydnawsedd rhwng cyfuniadau o ddyfeisiau mewnbwn a meddalwedd sain neu fideo
Sut i ddadansoddi effaith maint a fformat y ffeiliau a phryd i ddefnyddio dulliau codio a chywasgu gwybodaeth
Y ffactorau technegol sy'n effeithio ar gynhyrchu asedau cyfryngau digidol