Creu asedau cyfryngau digidol gwell

URN: TECHDUDM2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â ffurfweddu nodweddion meddalwedd dylunio a delweddu i greu asedau cyfryngau digidol gwell. Mae ffurfweddu meddalwedd dylunio a delweddu i gynhyrchu asedau cyfryngau digidol gwell yn golygu diffinio anghenion cyfryngau digidol a nodi nodweddion meddalwedd y gellir eu defnyddio i gyfrannu at gyflawni'r asedau cyfryngau digidol terfynol sy'n ofynnol. Mae'n cynnwys ffurfweddu'r gwahanol feddalwedd a ddefnyddir ar gyfer creu a golygu asedau a ffeiliau 2D, fideo, animeiddio a sain, drwy ddefnyddio offer curadu cyfryngau digidol. Mae hefyd yn cynnwys. Mae hefyd yn cynnwys defnyddio offer meddalwedd dylunio a delweddu i drefnu a thrin gwahanol fathau o gyfryngau digidol yn aml mewn cyfuniad gan ddefnyddio dilyniannau symud, effeithiau goleuo ac offer a thechnegau eraill i gynhyrchu dyluniadau a delweddau anarferol neu anghyfarwydd ar adegau i fodloni gofynion. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen ffurfweddu meddalwedd cyfryngau digidol i gynhyrchu asedau cyfryngau digidol gwell i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi'r gofynion ar gyfer cynhyrchu'r asedau cyfryngau digidol yn gywir

  2. Cynllunio datblygiad yr asedau cyfryngau digidol i fodloni'r amserlenni gofynnol

  3. Defnyddio camerâu digidol a dyfeisiau cysylltiedig i gofnodi dilyniannau fideo yn gywir i'w storio fel ffeiliau cyfryngau

  4. Cymryd delweddau digidol drwy ddefnyddio camerâu digidol, ffonau clyfar a gwe-gamerâu i'w storio fel ffeiliau delweddau ddigidol

  5. Creu dilyniannau sain drwy ddefnyddio dyfeisiau gyda meicroffonau yn rhan ohonynt ac wedi'u cysylltu i greu ffeiliau sain

  6. Dewis offer priodol ar gyfer adolygu a golygu delweddau a ffeiliau cyfryngau digidol eraill yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

  7. Cyfuno gwybodaeth fideo a sain o wahanol ffynonellau ffeiliau i gynhyrchu ffeil asedau cyfryngau digidol integredig

  8. Cynnal rhagolwg o asedau cyfryngau digidol i brofi eu bod yn cwrdd â gofynion

  9. Nodi problemau gydag asedau digidol o ran eu hansawdd er mwyn eu datrys yn gywir

  10. Storio ffeiliau asedau cyfryngau digidol drwy ddefnyddio'r fformatau ffeil penodedig

  11. Cyfathrebu a dosbarthu ffeiliau asedau cyfryngau digidol i'r defnyddwyr terfynol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

  12. Cynhyrchu a dosbarthu dogfennaeth i roi disgrifiadau cywir o gynnwys asedau cyfryngau digidol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i nodi anghenion asedau cyfryngau digidol

  2. Y gwahanol fathau o asedau cyfryngau digidol sy'n ofynnol

  3. Sut i ddefnyddio meddalwedd cyfryngau digidol i greu, addasu a threfnu delweddau a ffeiliau cyfryngau eraill

  4. Yr hawlfraint a chyfyngiadau eraill sy'n berthnasol wrth ddefnyddio deunyddiau ffynhonnell mewn asedau cyfryngau digidol

  5. Ym mha gyd-destun y bydd yr asedau cyfryngau digidol yn cael eu defnyddio

  6. Sut i gyfuno gwybodaeth cyfryngau digidol mewn gwahanol fformatau ffeiliau

  7. Y gosodiadau y gellir eu haddasu gan ddefnyddio ar gyfer cymryd lluniau gwell

  8. Sut i osod a ffurfweddu meicroffonau mewnol ac allanol gyda dyfeisiau digidol

  9. Sut i weithredu dyfeisiau cyfryngau digidol gan gynnwys camerâu llonydd a fideo, ffonau clyfar, dyfeisiau tabled a meicroffonau i gymryd lluniau, dilyniannau fideo a sain

  10. Sut i olygu dilyniannau fideo drwy ddefnyddio meddalwedd cyfryngau digidol

  11. Sut i olygu dilyniannau sain drwy ddefnyddio meddalwedd sain

  12. Sut i ddefnyddio offer meddalwedd recordio a golygu fideo

  13. Sut i ddefnyddio offer meddalwedd recordio a golygu sain

  14. Sut i adolygu a golygu asedau cyfryngau digidol integredig sy'n cyfuno cynnwys fideo a sain

  15. Fformatau ffeiliau safonol y diwydiant a ddefnyddir ar gyfer delweddau, dilyniannau fideo a sain

  16. Y cyfyngiadau hawlfraint sy'n berthnasol i'ch ffeiliau asedau eich hun a chyfryngau digidol o ffynonellau eraill

  17. Sut i storio, adalw, mewngludo ac allgludo ffeiliau cyfryngau digidol gan gynnwys mewn fformatau ffeil eraill

  18. Sut i weld a oes problemau o ran ansawdd mewn delweddau, dilyniannau fideo a sain


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUDM2

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

Delweddau digidol, cyfryngau digidol