Creu delweddau digidol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio meddalwedd dylunio a delweddu i greu a rheoli delweddau digidol. Mae creu delweddau digidol yn golygu cynhyrchu graffeg a chael gafael ar ddelweddau ffotograffig i gynhyrchu delweddau cyfryngau digidol a'u cadw mewn fformat ffeil priodol i'w defnyddio mewn dogfennau ac ar-lein yn y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys rheoli delweddau gan ddefnyddio offer meddalwedd cyfryngau digidol i drefnu, trin a golygu dyluniadau a delweddau gan gynnwys ffotograffau a graffeg drwy ddefnyddio offer a thechnegau meddalwedd safonol i gynhyrchu cynnwys cyfryngau digidol arferol. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu, golygu a rheoli delweddau digidol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cynllunio'r camau sydd eu hangen i gynhyrchu'r delweddau digidol gofynnol 
- Creu graffeg newydd drwy ddefnyddio meddalwedd cyfryngau digidol safonol y diwydiant 
- Tynnu lluniau safonol drwy ddefnyddio gosodiadau diofyn camerâu digidol, ffonau clyfar a gwe-gamerâu yn ôl yr angen 
- Mewngludo lluniau o gamerâu digidol, ffonau clyfar a gwe-gamerâu 
- Defnyddio sganiwr i fewngludo graffeg a lluniau 
- Derbyn, gwirio a storio ffeiliau delweddau drwy ddefnyddio cyfathrebiadau digidol a dyfeisiau storio digidol cludadwy 
- Llwytho delweddau digidol ar feddalwedd cyfryngau digidol i'w golygu 
- Cyfuno gwahanol fathau o ddelweddau neu o wahanol ffynonellau i gynhyrchu delweddau digidol integredig 
- Storio, adalw a rhannu ffeiliau delweddau digidol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 
- Trosi ffeil delwedd ddigidol yn fformatau gofynnol yn unol â safonau sefydliadol 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i nodi'r delweddau cyfryngau digidol sydd eu hangen 
- Y gwahanol gyd-destunau ar gyfer defnyddio dyluniadau cyfryngau digidol gan gynnwys arddangos ar sgrîn, cyhoeddi ar wefan, dogfennau digidol, argraffu copi caled a ffeil ddigidol 
- Yr hawlfraint a'r mathau o ganiatâd sy'n berthnasol i ddefnyddio cyfryngau digidol wedi'u mewngludo neu eu hailddefnyddio 
- Y ffynonellau a ddefnyddir ar hyn o bryd i gael gafael ar ffeiliau cyfryngau digidol 
- Y fformatau ffeil cywir i'w defnyddio ar gyfer cadw a chyfnewid delweddau cyfryngau digidol a gynhyrchir 
- Sut i dynnu lluniau digidol drwy ddefnyddio camera digidol, ffôn clyfar neu ddyfais gwe-gamera 
- Sut i fewngludo lluniau digidol o gamera digidol, ffôn clyfar neu ddyfais gwe-gamera 
- Sut i sganio a mewngludo delweddau, graffeg, neu luniadau drwy ddefnyddio sganiwr digidol a meddalwedd 
- Sut i baratoi delweddau drwy ddefnyddio nodweddion safonol ar gyfer golygu delwedd gan gynnwys maint, tocio, lleoli ac effeithiau goleuo 
- Sut i gyfuno ffeiliau cyfryngau digidol gan gynnwys cymysgu, lapio, trefnu a grwpio 
- Y gwahanol fformatau ffeil a ddefnyddir ar gyfer dyluniadau digidol a delweddau ffotograffau 
- Sut i storio ac adalw ffeiliau cyfryngau digidol, y problemau arferol sy'n gallu codi gyda chyfryngau digidol o ran ansawdd a sut i'w datrys