Ymgymryd â gweithgareddau dysgu a datblygu sgiliau digidol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â nodi a datrys problemau technoleg ddigidol arferol. Mae'n cynnwys datrys problemau cyffredin a gallu cyflawni ystod o weithdrefnau safonol. Mae'r rhain yn cynnwys gwirio prosesau sy'n cael eu cynnal, nodi defnydd o ddisgiau, cau ac ailddechrau yn ddiogel, edrych ar gôd gwallau, a gwiriadau bywyd batri ar ddyfeisiau di-wifr a phecynnau batri. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gorfod nodi problemau technoleg ddigidol arferol a'u datrys i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu'n rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi nodau dysgu personol i gynllunio anghenion hyfforddiant a datblygu priodol
Creu a chynnal cynllun gweithredu personol ar gyfer dysgu a datblygu digidol
Cysoni eich gweithgareddau datblygu eich hunain â blaenoriaethau sefydliadol yn unol â gofynion sefydliadol
Nodi a dilysu ffynonellau dysgu ar-lein sy'n bodloni gofynion datblygu
Ymgymryd â chamau dysgu a datblygu cyflawn yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Monitro a dogfennu cynnydd eich gweithgareddau dysgu eich hun mewn cofnod dysgu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwerthuso canlyniadau dysgu yn unol â chynllun gweithredu dysgu a datblygu personol
Cofnodi tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut i addasu eich amgylchedd dysgu eich hun mewn ffyrdd sy'n cynorthwyo'r broses ddysgu
Egwyddorion cynllunio datblygiad personol a ffyrdd o fynd ati
Ffynonellau dysgu sgiliau technoleg ddigidol
Manylion llwybrau dilyniant mewn disgyblaethau sy'n berthnasol i dechnoleg ddigidol
Sut i wneud dadansoddiad bwlch i nodi anghenion dysgu
Yr angen i nodi nodau a datblygu cynlluniau gweithredu i'w cyflawni
Yr angen i gysoni cynlluniau dysgu â blaenoriaethau sefydliadol
Sut i drosglwyddo gwybodaeth i senarios go iawn yn y gweithle technoleg ddigidol
Yr angen i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ym maes dysgu technoleg ddigidol
Yr angen i feithrin a rheoli ymwybyddiaeth o fwlch sydd gennych yn eich sgiliau technoleg ddigidol
Sut i werthuso canlyniadau dysgu
Yr heriau sy'n gallu codi wrth gynllunio cynlluniau gweithredu dysgu a datblygu a'u rhoi ar waith
Pwysigrwydd cynnal cofnodion cywir o gyflawniad