Gwerthuso gwybodaeth ddigidol

URN: TECHDUDI3
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso gwybodaeth ddigidol ar-lein er mwyn gallu ei chymhwyso ar gyfer ystod o raglenni. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a gafwyd ar-lein am gynhyrchion a gwasanaethau i gynorthwyo'r gwaith o wneud penderfyniadau, dod o hyd i ffeithiau ar gyfer gwaith, astudio a defnydd personol er mwyn gallu defnyddio gwybodaeth ddigidol yn llwyddiannus at ddibenion ymarferol. Mae gwerthuso gwybodaeth ddigidol yn cynnwys gwerthuso'r ffynonellau ar-lein a'r wybodaeth ei hun. Mae hyn yn cynnwys gwirio'r ffynhonnell, yr awdur a'r dyddiad yn ogystal â pha mor berthnasol a gwrthrychol ydyw. Mae hefyd yn cynnwys graddio canlyniadau gwybodaeth i'w cymhwyso a rhestru gwybodaeth yn ôl perthnasedd. Mae hefyd yn cynnwys mireinio ymholiadau chwilio yng ngoleuni optimeiddio peiriannau chwilio sy'n gallu camarwain canlyniadau chwilio. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen gwerthuso gwybodaeth a'i ffynonellau a gwella gweithgareddau chwilio, storio ac adalw gwybodaeth i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwerthuso gwybodaeth o chwiliadau ar-lein i bennu pa mor gywir, dilys a chyfredol yw'r wybodaeth.

  2. Datblygu a mireinio ymholiadau chwilio i gael canlyniadau gwell

  3. Archwilio ffynonellau gwybodaeth ar-lein fel bod cwmpas y chwiliadau ar-lein mor eang â phosibl

  4. Cynhyrchu canlyniadau chwilio wedi'u graddio i gymharu cynhyrchion, gwasanaethau a chanlyniadau chwilio eraill

  5. Defnyddio offer gwybodaeth i gasglu a rhannu gwybodaeth yn effeithlon

  6. Addasu gosodiadau porwr i wella perfformiad porwr a nodweddion chwilio

  7. Cyfuno gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau i gynhyrchu set ddata gynhwysfawr

  8. Parchu hawliau eiddo deallusol crewyr gwybodaeth ar-lein yn unol â rheoliadau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y technegau a ddefnyddir i werthuso gwybodaeth o ffynonellau ar-lein

  2. Sut i adeiladu ymholiadau chwilio i gynhyrchu canlyniadau wedi'u targedu a chwiliadau ar-lein cul

  3. Sut i raddio gwybodaeth ar-lein yn erbyn meini prawf chwilio

  4. Sut i raddio gwybodaeth o ffynonellau ar-lein

  5. Sut i ddefnyddio gwybodaeth ddigidol i gynorthwyo'r gwaith o wneud penderfyniadau

  6. Sut i drefnu gwybodaeth yn gategorïau

  7. Sut i wella perfformiad porwr

  8. Pam mae mynegeio yn gwella chwiliadau ar-lein

  9. Yr hyn a olygir wrth optimeiddio peiriannau chwilio

  10. Dulliau a ddefnyddir i wella safle peiriannau chwilio a'r effaith a gaiff hyn ar ganlyniadau chwilio

  11. Sut i reoli gwybodaeth ddigidol yn gyfrifol ac yn unol â deddfwriaeth a safonau sefydliadol

  12. Sut i arfarnu ansawdd a dibynadwyedd gwybodaeth yn erbyn gofynion

  13. Goblygiadau rheoliadau hawlfraint a diogelu data ar gyfer defnyddio gwybodaeth o fewn y sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUDI3

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

chwilio am wybodaeth, storio gwybodaeth, adalw gwybodaeth