Gwella chwiliadau gwybodaeth ar-lein
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwella sut y cynhelir chwiliadau gwybodaeth i wneud y defnydd gorau o offer a thechnegau meddalwedd er mwyn dod o hyd i wybodaeth ddigidol, ei ffynhonnell, ei threfnu, ei rhannu a'i hintegreiddio. Mae hyn yn cynnwys diffinio gofynion gwybodaeth, nodi ffynonellau gwybodaeth posibl a chynllunio sut i gynnal y chwiliadau casglu gwybodaeth mwyaf effeithiol i ddiwallu anghenion. Mae'n cynnwys ffurfweddu porwyr, defnyddio offer curadu cynnwys a ffurfweddu offer rheoli gwybodaeth bersonol. Mae hefyd yn cynnwys trefnu a storio gwahanol fathau o wybodaeth. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen gwella gweithgareddau a phrosesau chwilio gwybodaeth, a gwella sut y caiff gwybodaeth ei threfnu, ei storio a'i hadalw i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi gofynion i gynllunio chwiliadau digidol am wybodaeth
Nodi ffynonellau gwybodaeth ar-lein i gyfeirio chwiliadau ar-lein
Ffurfweddu gosodiadau porwr i deilwra paramedrau chwilio
Gweithredu hidlyddion pori diogel i reoli a mireinio canlyniadau chwilio
Sefydlu gosodiad preifatrwydd porwr i ddiogelu gwybodaeth a diogelwch personol
Diffinio strategaethau chwilio i gynllunio gweithgareddau chwilio
Cynnal chwiliadau ar-lein yn unol â strategaethau chwilio
Adolygu canlyniadau chwilio i asesu pa mor addas yw'r wybodaeth a nodwyd
Dewis a lawrlwytho gwybodaeth ddigidol ddilys o ffynonellau ar-lein
Ffurfweddu storfeydd data i storio gwybodaeth wedi'i lawrlwytho
Trefnu gwybodaeth sydd wedi'i lawrlwytho i helpu i adalw yn ôl mathau o ddata gan gynnwys delweddau, dogfennau, dolenni gwe a rhestrau chwarae sain
Adalw gwybodaeth ddigidol wedi'i storio i wneud defnydd ohoni
Rheoli gwybodaeth ddigidol yn gyfrifol ac yn unol â deddfwriaeth a safonau trefniadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut i ddiffinio'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y tasgau sy'n cael eu gwneud
Y nodweddion a'r gosodiadau a ddefnyddir mewn porwyr gwe
Sut i ffurfweddu porwyr gwe i hidlo canlyniadau chwilio amhriodol
Sut i osod porwr gwe i gynnal preifatrwydd a diogelwch wrth chwilio ar-lein
Sut i ddefnyddio ymadroddion Boole wrth greu llinynnau chwilio
Sut i benderfynu pa mor ddibynadwy yw gwybodaeth ddigidol a geir ar-lein
Pwrpas cwcis ar wefannau a sut i reoli'r rhain trwy osodiadau porwyr
Fformatau gwahanol y wybodaeth ddigidol a geir ar-lein, gan gynnwys ffeiliau dogfen, cyfryngau a chyfeirio
Goblygiadau rheoliadau hawlfraint a diogelu data ar sut gellir defnyddio'r wybodaeth
Pwysigrwydd cynnal preifatrwydd a diogelwch wrth chwilio am wybodaeth ar-lein
Materion diwylliannol, moesegol, economaidd, cyfreithiol, a chymdeithasol sy'n ymwneud â chynnal gwybodaeth ar-lein a'i defnyddio
Y gwahanol fformatau ar gyfer storio gwybodaeth o ffynonellau ar-lein
Sut i gategoreiddio a dosbarthu gwybodaeth ddigidol er mwyn storio, adalw a'i defnyddio'n rhwydd