Optimeiddio systemau technoleg ddigidol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag optimeiddio system dechnoleg ddigidol i wella ei defnyddioldeb a'i nodweddion. Mae optimeiddio gosodiadau systemau digidol yn golygu addasu nodweddion system weithredu gan gynnwys ymddangosiad y rhyngwyneb defnyddiwr, amodau cychwyn, opsiynau pŵer a pherfformiad yn ogystal â chlirio cyfryngau storio a dileu rhaglenni diangen. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen optimeiddio gosodiadau system ddigidol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Addasu gosodiadau system weithredu i wneud y rhyngwyneb i ddefnyddwyr yn haws i'w defnyddio
Gosod, dileu a diweddaru meddalwedd rhaglenni i fodloni gofynion eich hun a gofynion sefydliadol
Lleihau rhaglenni cychwyn diangen sydd wedi'u trefnu i wella perfformiad system
Perfformio prosesau glanhau ffeiliau cyfryngau storio fel bod cymaint o le â phosibl ar y gyriant
Ffurfweddu gosodiadau porwr gwe i wella perfformiad ar-lein
Defnyddio offer gweinyddol systemau i wella perfformiad systemau
Gweithredu opsiynau arbed pŵer ar ddyfeisiau digidol symudol i wella perfformiad batri
Cymryd camau priodol i ddatrys problemau arferol o ran TG a chysylltedd yn unol â chanllawiau'r sefydliad
Nodi, cofnodi ac uwchgyfeirio problemau anarferol i'w cywiro
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Nodweddion a swyddogaethau allweddol gosodiadau systemau gweithredu cyfrifiadurol
Sut i addasu gosodiadau lliw sgrîn, disgleirdeb a maint ffont
Sut i optimeiddio perfformiad system weithredu
Y paramedrau a ddefnyddir i ragnodi dilyniant cychwyn dyfais ddigidol
Sut i ychwanegu a dileu rhaglenni meddalwedd
Sut i gynnal dyfeisiau storio cyfryngau er mwyn iddynt weithredu'n effeithlon
Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n llywodraethu'r defnydd diogel o systemau digidol
Y gosodiadau system cymwys ar gyfer arferion da o ran lles digidol
Y ffynonellau cymorth i uwchgyfeirio problemau systemau digidol
Y dulliau y gellir eu defnyddio i optimeiddio perfformiad porwr ar-lein
Sut i wirio a oes modd uwchraddio rhaglenni meddalwedd
Y gwahanol offer gweinyddu systemau a sut i'w defnyddio
Pwysigrwydd cynnal a chadw systemau yn rheolaidd ac ar adegau a gynlluniwyd
Y mathau o broblemau arferol ac anarferol sy'n gallu codi a sut i ymateb iddynt a'u dwysáu