Gosod a defnyddio dyfeisiau digidol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dewis, ffurfweddu a defnyddio dyfeisiau digidol, gan gynnwys cyfrifiaduron personol, gliniadur, tabled neu ffonau clyfar. Mae hyn yn cynnwys gweithredu a ffurfweddu systemau gweithredu, cysylltiadau rhyngrwyd, meddalwedd rhaglenni, cyfryngau storio data a dyfeisiau ymylol fel argraffwyr a sganwyr. Mae ffurfweddu a defnyddio dyfeisiau digidol yn golygu gosod cyfrifiadur personol, gliniadur, tabled neu ffôn clyfar a chydrannau ymylol cysylltiedig (gan gynnwys bysellfwrdd, llygoden, cyfryngau storio ac argraffwyr/sganwyr). Mae'n cynnwys bod yn ymwybodol o faint o le sydd mewn cyfryngau storio a chyfraddau trosglwyddo. Mae hefyd yn cynnwys gosod a ffurfweddu meddalwedd safonol gan gynnwys system weithredu, porwr, meddalwedd diogelwch a meddalwedd rhaglen swyddfa safonol. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen ffurfweddu dyfeisiau digidol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cysylltu cydrannau rhyngwyneb (gan gynnwys bysellfwrdd, llygoden a sgrîn) â dyfais ddigidol gan ddefnyddio Universal Serial Bus (USB) neu gysylltiadau diwifr i alluogi defnyddwyr i ryngweithio
Gosod, ffurfweddu a phrofi meddalwedd system weithredu a gafodd eu lawrlwytho i reoli'r ddyfais
Addasu gosodiadau rhyngwyneb defnyddiwr y system weithredu i ddiwallu anghenion defnyddwyr
Creu cyfeiriadur a strwythur ffeiliau i ddiwallu anghenion storio ac adalw data
Cysylltu â Darparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd (ISP) trwy lwybrydd gan ddefnyddio Wi-Fi neu gysylltiad cebl i ddarparu gwasanaethau ar-lein
Defnyddio offer safonol o ran perfformiad rhyngrwyd i fesur ansawdd cyflymderau lawrlwytho a lanlwytho
Cysylltu a ffurfweddu cydrannau camera, seinyddion, argraffydd a sganiwr yn gywir
Cysylltu a ffurfweddu cyfryngau storio i wneud copïau wrth gefn o ddata
Gwneud copi wrth gefn o ddata ar gyfryngau storio cysylltiedig yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cydrannau dyfeisiau digidol safonol i ryngweithio â defnyddwyr (gan gynnwys bysellfwrdd, llygoden a sgrîn) a sut i'w cysylltu a'u ffurfweddu i'w defnyddio
Gosodiadau meddalwedd safonol y diwydiant a ddefnyddir i weithredu dyfeisiau digidol, gan gynnwys system weithredu, porwr, meddalwedd diogelwch a meddalwedd rhaglen swyddfa
Sut i osod system weithredu ar ddyfais ddigidol
Sut i osod y system weithredu i ddiwallu anghenion defnyddwyr
Y derminoleg wahanol a ddefnyddir i ddisgrifio dyfeisiau digidol, meddalwedd a chydrannau
Y cydrannau ymylol safonol y gellir eu hychwanegu at ddyfais ddigidol
Cydrannau storio data safonol y diwydiant a ddefnyddir i gysylltu â dyfeisiau digidol
Faint o le sydd ar gael i storio a'r cyfraddau trosglwyddo data y mae dyfeisiau storio yn eu defnyddio
Y dulliau gosod argraffwyr cysylltiedig a dyfeisiau ymylol a sut i'w cymhwyso
Y profion safonol a ddefnyddir i wirio'r system am broblemau
Sut i gynnal profion perfformiad ar y rhyngrwyd y gellir eu defnyddio i wirio'r cysylltiad â'r rhyngrwyd
Sut i nodi ac uwchgyfeirio diffygion a nodwyd wrth weithredu, ffurfweddu a gweithredu dyfeisiau a systemau digidol
Ble a phryd i gael help a chyngor arbenigol
Y mathau o ddulliau cysylltu y gellir eu defnyddio i gael mynediad i'r Rhyngrwyd
Pa fanylion sydd eu hangen a sut i gysylltu â Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP)
Y prif ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad system