Creu tudalennau gwe a'u diweddaru
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu a diweddaru tudalennau gwe sengl i gynnal cynnwys digidol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys cynllunio a datblygu tudalen we i fodloni gofynion. Mae'n cynnwys gosod a threfnu'r dudalen we a chynnwys digidol. Mae'n cynnwys lanlwytho cynnwys tudalen we ac adolygu ei hymddangosiad a'r profiad a gaiff defnyddiwr y wefan wrth edrych arni. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu a diweddaru tudalennau gwe sengl i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cytuno ar fanyleb y dudalen we gyda chwsmeriaid
Dewis templed ar gyfer tudalen we i greu dyluniad sy'n cyd-fynd â manylebau
Datblygu cynnwys tudalen we ddigidol gan ddefnyddio meddalwedd penodedig yn unol â gofynion
Profi cynnwys a nodweddion llywio tudalennau gwe i wneud yn siŵr eu bod yn cwrdd â manylebau a gofynion hygyrchedd
Nodi unrhyw broblemau a nodwyd ar dudalennau gwe a'u datrys cyn iddynt fynd yn fyw
Storio ac adalw ffeiliau dylunio tudalennau gwe yn effeithiol
Cynhyrchu templedi newydd ar gyfer tudalennau gwe sy'n darparu cynllun a fformat cywir i'w defnyddio yn y dyfodol
Llwytho tudalennau gwe newydd neu wedi'u diweddaru i wneud yn siŵr eu bod ar gael ar-lein
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut i greu tudalen we sylfaenol
Pwrpas y dudalen we a'r gynulleidfa arfaethedig
Pa gynnwys a chynllun fydd eu hangen ar y dudalen we
Sut i ddefnyddio templedi i drefnu dyluniad a chynnwys tudalennau gwe
Y canllawiau sefydliadol sy'n rheoli dyluniad tudalennau gwe a sut y defnyddir y rhain
Ystod yr offer a thechnegau dylunio a golygu gwefannau safonol a ddefnyddir yn y diwydiant i adeiladu tudalennau gwe a sut i'w defnyddio
Sut i weithio all-lein i ddatblygu dyluniadau tudalennau gwe
Y gweithdrefnau a ddefnyddir i greu dyluniadau tudalennau gwe all-lein a'u storio fel ffeiliau
Sut i lanlwytho tudalen we ar weinydd
Sut i brofi gweithrediad tudalennau gwe sydd wedi'u lanlwytho
Yr angen i gadw at safonau cyfredol o ran dylunio gwefannau a hygyrchedd
Sut i nodi problemau mewn perthynas â thudalennau gwe a'u datrys