Cyhoeddi cynnwys digidol ar-lein
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â chyhoeddi cynnwys digidol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys anghenion cynllunio a dylunio cynlluniau ar y we i fewnosod cynnwys digidol. Mae'n cynnwys darparu cynnwys testun a chyfryngau digidol a threfnu a mewnosod y rhain yn dudalennau gwe. Mae hefyd yn ymwneud â golygu cynnwys ar-lein ac adolygu'r cynnwys sydd wedi'i lanlwytho o ran ei gywirdeb a'i ymddangosiad gan ddefnyddio meddalwedd porwr safonol cyn cyhoeddi'r cynnwys digidol a'i wneud yn fyw. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen cyhoeddi cynnwys digidol ar-lein i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio anghenion cynnwys digidol ar gyfer y we i fodloni gofynion
Dylunio cynlluniau tudalennau gwe i gynnal cynnwys fel y nodir
Dewis meddalwedd priodol i gyhoeddi cynnwys digidol ar-lein
Mewnbynnu, golygu a fformatio cynnwys testun gwe er mwyn bodloni gofynion
Dewis a mewnosod ffeiliau asedau cyfryngau digidol penodedig ar dudalennau gwe
Cynhyrchu a gosod dogfennau digidol ar dudalennau ar-lein yn unol â gofynion
Adolygu cynnwys ar-lein gan ddefnyddio porwr gwe safonol y diwydiant i wirio bod gofynion o ran cynllun, ymddangosiad a hygyrchedd yn cael eu bodloni
Prawf-ddarllen cynnwys digidol i nodi unrhyw wallau a'u cywiro
Golygu cynnwys ar-lein gan ddefnyddio offer a thechnegau priodol i fodloni gofynion cwsmeriaid
Cyhoeddi cynnwys tudalennau gwe wedi'i gwblhau i fod ar gael i gwsmeriaid a defnyddwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut i ddehongli gofynion i gynllunio dyluniadau cynnwys digidol
Pwysigrwydd deall y gynulleidfa darged ar gyfer cyhoeddi cynnwys digidol
Sut i drefnu dyluniadau cynlluniau gwe er mwyn cynnal cynnwys digidol gofynnol
Rhaglenni safonol y diwydiant a ddefnyddir i greu, golygu a chyhoeddi cynnwys digidol ar-lein
Sut i ddefnyddio offer meddalwedd cyhoeddi ar y we
Sut i adolygu cynnwys digidol ar y we i weld a oes gwallau a gwirio ansawdd cyhoeddi
Sut i ymgorffori testun ac optimeiddio delweddau digidol a graffeg ar dudalen ar y we
Sut i gywiro gwallau mewn cynnwys digidol
Y prif faterion hygyrchedd a defnyddioldeb y mae'n rhaid eu hystyried wrth ddefnyddio graffeg ar wefan
Y safonau hygyrchedd a defnyddioldeb a sut i'w cymhwyso at gynnwys digidol
Y prif ystyriaethau hawlfraint sy'n gysylltiedig â graffeg ar y we a delweddau digidol
Diben deddfwriaeth hawlfraint a sut i'w chymhwyso
Fformatau ffeiliau graffeg safonol y diwydiant a ddefnyddir i storio a chyhoeddi cynnwys digidol
Sut i ddefnyddio cynnwys ar-lein i'w wneud yn fyw