Creu gweithrediad cronfa ddata
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu gweithrediadau cronfeydd data perthynol ac sy'n cynnwys nifer o dablau i storio, prosesu ac adalw data gan ddefnyddio meddalwedd cronfa ddata. Mae hyn yn cynnwys cynllunio, dylunio a defnyddio gweithrediadau cronfeydd data sy'n cynnwys nifer o dablau. Mae hyn yn cynnwys creu ffurflenni ac ymholiadau cronfa ddata i gyflwyno a thynnu data ac adrodd arno. Mae hefyd yn cynnwys mudo data a rhoi data mewn cronfeydd data. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu gweithrediadau cronfeydd data sy'n cynnwys nifer o dablau er mwyn storio, prosesu ac adalw data gan ddefnyddio meddalwedd cronfa ddata i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu'n rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi gofynion cronfa ddata gyda rhanddeiliaid
Cynllunio gweithrediad cronfa ddata gyda nifer o dablau i fodloni gofynion
Llunio cronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau gyda meysydd a phriodweddau priodol gan ddefnyddio offer a thechnegau cymeradwy
Creu perthynas rhwng tablau cronfa ddata
Datblygu ffurflenni i gael mynediad at ddata, ei fewnbynnu, ei olygu a'i drefnu mewn cronfa ddata yn unol â gofynion
Creu a rhedeg ymholiadau cronfa ddata i adalw, diweddaru a dileu data dethol yn gywir
Cynhyrchu adroddiadau cronfa ddata o gronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau yn unol â gofynion sefydliadol
Mudo data i gofnodion cronfa ddata yn gywir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Pa fathau o wybodaeth sy'n cael eu storio mewn cronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau
Sut mae dyluniad cronfa ddata yn galluogi data i gael ei drefnu ar draws nifer o dablau
Sut i ddylunio gweithrediad cronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau
Sut i greu ymholiadau cronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau
Sut i gynnal cyfanrwydd data mewn strwythurau tablau cronfa ddata
Sut i greu adroddiadau o gronfeydd data sy'n cynnwys nifer o dablau
Defnyddio mynegeion a meysydd allweddol i drefnu data mewn cronfeydd data sy'n cynnwys nifer o dablau
Sut mae cysylltiadau'n cael eu sefydlu mewn cronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau
Sut mae data'n cael ei drefnu mewn cronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau
Prif nodweddion maes cofnod data gan gynnwys math o ddata ac enw, maint a fformat y maes
Sut i wirio cyfanrwydd data
Beth mae mudo data'n ei olygu
Y prif broblemau sy'n gallu codi gyda thablau cronfa ddata gan gynnwys data segur a dyblygu
Y gwahanol gysylltiadau y gellir ei gwneud rhwng tablau cronfa ddata, gan gynnwys un i un; un i lawer; llawer i lawer