Creu cronfeydd data i storio ac adalw data
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu cronfeydd data i storio ac adalw data gan ddefnyddio meddalwedd cronfa ddata. Mae hyn yn cynnwys cynllunio a dylunio tablau cronfa ddata a gweithredu'r rhain mewn meddalwedd cronfa ddata. Mae hefyd yn cynnwys creu ffurflenni mewnbynnu data fel bod defnyddwyr yn gallu mewnbynnu data yn well a datblygu ymholiadau syml i adalw data gofynnol. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu tablau cronfa ddata i storio ac adalw data gan ddefnyddio meddalwedd cronfa ddata i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu'n rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cynllunio tabl cronfa ddata syml er mwyn bodloni gofynion sefydliadol 
- Creu strwythur cronfa ddata ar ffurf un tabl a'r meysydd gofynnol yn gywir 
- Rhoi data gofynnol mewn tabl cronfa ddata yn gywir 
- Addasu tablau cronfa ddata yn unol â gofynion 
- Creu ffurflen mewnbwn i fewnbynnu data mewn cronfa ddata yn gywir 
- Creu a rhedeg ymholiadau cronfa ddata syml i ddod o hyd i ddata gofynnol 
- Cynhyrchu adroddiadau cronfa ddata o gronfa ddata i ddiweddaru statws yn gywir 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Nodweddion dyluniad tabl cronfa ddata 
- Prif briodoleddau dylunio tabl cronfa ddata 
- Sut i greu tablau cronfa ddata a'u haddasu 
- Yr offer a'r swyddogaethau meddalwedd a ddefnyddir i greu tablau cronfa ddata 
- Sut i lenwi tablau cronfa ddata gyda data sydd eisoes yn bodoli 
- Y data i'w storio mewn strwythur tabl cronfa ddata 
- Priodoleddau tabl cronfa ddata 
- Sut i addasu tabl cronfa ddata 
- Sut i greu ffurflenni i fewnbynnu data mewn tablau cronfa ddata 
- Sut i wirio cyfanrwydd data 
- Sut i adalw gwybodaeth drwy greu ymholiadau cronfa ddata