Dangos tueddiadau a phatrymau mewn data gan ddefnyddio graffiau a siartiau
Trosolwg
Nodi'r gofynion o ran graffiau a siartiau ar gyfer astudio'r set ddata gyda rhanddeiliaid
Dileu unrhyw werthoedd dyblyg, anghywir a nwl i lanhau data
Dewis y math o allbwn graffigol sydd ei angen yn unol â gofynion
Cynhyrchu graff neu siart o'r set ddata ofynnol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Nodi'r duedd y mae'r data'n ei arddangos i roi gwybod am ddangosyddion tueddiadau i randdeiliaid
Nodi math o duedd a gosod llinell duedd linol i ddelweddu data dros gyfres amser neu duedd llyfn i ddelweddu'r cyfartaledd sy'n amrywio yn unol â gofynion
Dangos hafaliad y llinell duedd ar gyfer y data i ragfynegi gwerthoedd y dyfodol yn unol â gofynion
Cadw allbwn y graff yn y daenlen yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Mewngludo data ffeiliau i daenlen
Nodi set ddata i'w hastudio
Dilysu data i nodi data nad ydynt yn cydymffurfio
Dileu data dyblyg, anghywir a nwl
Dewis y math o allbwn graffigol i'w ddefnyddio yn unol â'r gofynion
Creu graff neu siart o'r data angenrheidiol
Nodi ffurf y tueddiad y mae'r data'n ei arddangos
Dewis a gosod llinell duedd linol i ddelweddu tueddiad data dros gyfres amser
Dewis a gosod tueddiad llyfn i ddata gyda'r cyfartaledd yn amrywio
Fformatio a golygu llinell duedd yn ôl y gofyn
Dangos hafaliad llinell y duedd ar gyfer y data cyfredol
Cadw allbwn y graff yn y daenlen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut i fewngludo setiau data o ffeiliau a thaenlenni eraill
Beth yw diben yr astudiaeth sy'n dadansoddi'r set ddata
Y dulliau creu graffiau a siartiau a ddefnyddir i grynhoi, dadansoddi a dehongli data rhifiadol a phryd maen nhw'n briodol
Pwysigrwydd dilysu a gwirio data a sut y gellir sicrhau bod y rhain yn gywir mewn taenlenni
Sut i ddilysu a dileu data gwallus
Sut i ddilysu data i gyfyngu ar y math o ddata a gofnodir
Sut i nodi a datrys problemau o ran data dyblyg neu ddiangen
Y prif fathau o ddata a fformatau a ddefnyddir
Y dulliau ystadegol safonol a ddefnyddir i osod tueddiadau i ddata
Sut i gymhwyso dulliau ystadegol sylfaenol a ddiffiniwyd ymlaen llaw i nodi tueddiadau a phatrymau mewn data
Nodweddion allweddol meddalwedd taenlenni ar gyfer gosod tueddiadau i ddata
Sut i greu graffiau a siartiau gan ddefnyddio nodweddion taenlenni
Sut i nodi'r patrwm a ddangosir gan y data
Y camau sy'n gysylltiedig â phennu hafaliad llinell duedd
Negeseuon gwallau cyffredin am ddilysu data a dadansoddi tueddiadau a sut i ymateb iddynt
Sut i gynllunio a chadw graffiau a siartiau sy'n dadansoddi tueddiadau