Gweithio a chydweithio ar-lein o bell
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio technoleg ddigidol i gynllunio ac ymgymryd â gweithio a chydweithio o bell. Mae gweithio a chydweithio o bell yn cynnwys defnyddio technolegau digidol gan gynnwys rhwydweithiau preifat rhithwir (VPNs), cyfarfodydd rhithwir, technoleg cwmwl, ac offer cydweithio sy'n galluogi gweithwyr i gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau'n rhithwir, heb fod angen mynd i swyddfa, ac o breifatrwydd y cartref neu leoliad arall o bell. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen gweithio a chydweithio ar-lein o bell i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi gofynion technoleg a sefydlu a chreu amgylchedd swyddfa yn y cartref neu o bell yn unol â gofynion sefydliadol
Cysylltu â rhwydweithiau preifat rhithwir (VPNs) i gael mynediad at adnoddau sefydliadol
Cysylltu camerâu, seinyddion a dyfeisiau digidol eraill yn gywir i ddarparu amgylchedd swyddfa o bell sy'n addas at y diben
Profi bod platfformau cyfathrebu a chydweithio yn gweithio'n gywir
Defnyddio data ar-lein ac offer rhannu dogfennau'n effeithiol, i rannu gwybodaeth, gwybodaeth a data â chydweithwyr
Cynllunio amser yn effeithiol gan ddefnyddio dyddiaduron cydweithredol i gynllunio ac amserlennu cyfarfodydd unigol a thîm yn unol â gofynion sefydliadol
Defnyddio platfformau cyfathrebu a chydweithio ar-lein i gymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithwir ac adolygu dogfennau digidol, cyflwyniadau a chyfryngau digidol eraill
Dewis yr offer cyfathrebu a chydweithio cywir i ddiwallu anghenion y sefyllfa
Nodi strategaethau i gynyddu dealltwriaeth a lleihau camddealltwriaeth o ganlyniad i'r diffygion mewn offer cyfathrebu a chydweithio
Defnyddio offer rheoli prosiectau i gynllunio a rhannu nodau unigol a thîm ac amserlennu yn effeithiol
Mynd i'r afael yn effeithiol ag anawsterau sy'n ymwneud ag argaeledd technoleg ac arafwch a chynllunio penderfyniadau neu uwchgyfeiriadau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut i sefydlu amgylchedd swyddfa gartref neu o bell
Cryfderau a gwendidau offer cyfathrebu a chydweithio safonol y diwydiant
Sut i osod camerâu gwe a seinyddion cysylltiedig i weithio'n gywir yn ystod cyfarfodydd rhithwir
Sut i weithredu a gweithio gyda meddalwedd cwmwl i storio data a dogfennau a rennir
Sut i gydweithio ar ddogfennau a rennir gan ddefnyddio meddalwedd cwmwl
Sut i ddewis yr offer cyfathrebu a chydweithio cywir i ddiwallu anghenion y sefyllfa
Yr angen i ailystyried cyfarfodydd a chynllunio ymlaen llaw gan ddefnyddio offer dyddiadur a rennir
Bod gweithio o bell neu o gartref yn gallu cyfres newydd o bethau i dynnu sylw y mae angen eu rheoli
Bod anawsterau technegol yn gallu atal hygyrchedd a chynhyrchiant ar-lein a sut i'w datrys
Bod blinder sgrîn yn gallu gwneud i bobl roi sylw am gyfnodau byrrach o'i gymharu â rhyngweithio wyneb yn wyneb
Ni all aelodau'r tîm rhithwir ymgysylltu'n uniongyrchol â'u cydweithwyr a'u rheolwyr ac maent yn gallu teimlo eu bod wedi'u datgysylltu, ac yn llai cynhyrchiol
Bod gweithio o bell neu gartref yn gallu arwain at gyfuno gwaith a bywyd preifat a gall hyn beri anawsterau o ran methu â rhoi'r gorau i weithio'n gyfan gwbl
Y cyfleoedd posibl i ddefnyddio fformatau rhithwir i wella dulliau gweithio o bell