Codio ar gyfer problemau busnes syml
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chodio ar gyfer problemau busnes syml. Mae'n cynnwys cymhwyso cysyniadau a thechnegau sylfaenol i ddatblygu rhaglenni datrys problemau. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offeryn datblygu codio integredig i ddylunio, gweithredu, profi, dadfygio a defnyddio rhaglenni syml. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gorfod nodi problemau technoleg ddigidol arferol a'u datrys i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu'n rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio rhaglen feddalwedd i ddatrys manyleb problem benodol sydd wedi'i diffinio'n dda
Dylunio algorithmau i drin mewnbynnau defnyddwyr a phrosesu data ar gyfer problemau syml yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cynhyrchu côd gan ddefnyddio hanfodion rhaglennu sylfaenol i ddyluniad penodol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
Defnyddio dull mireinio cam wrth gam i ddatrys problemau dro ar ôl tro i gynhyrchu'r ateb gofynnol
Dadfygio a phrofi rhaglenni meddalwedd i nodi diffygion rhaglennu a'u datrys
Ychwanegu nodiant at raglenni meddalwedd i nodi nodweddion rhaglennu a newidynnau i wella cynaliadwyedd yn unol â safonau sefydliadol
Dogfennu rhaglen trwy gynhyrchu nodiadau rhyddhau a chanllawiau i gynorthwyo defnyddwyr i ddefnyddio'r feddalwedd yn gywir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut i ddehongli manylion problem fusnes
Cysyniadau sylfaenol codio a sut i'w cymhwyso
Sut i gynllunio datrysiad meddalwedd
Egwyddorion sylfaenol rhaglennu cyfrifiadurol gweithdrefnol
Sut i ddylunio a defnyddio algorithmau i gofnodi mewnbwn defnyddwyr a phrosesu data
Y camau perthnasol wrth ddatrys problem fusnes trwy godio datrysiad meddalwedd a sut i'w rhoi ar waith
Sut i nodi a gweithredu'r newidynnau sydd eu hangen i gynhyrchu côd gweithredu
Ieithoedd rhaglennu a sgriptio safonol y diwydiant a'u dibenion a'u cystrawen
Y technegau sylfaenol a ddefnyddir i greu côd a sut i'w cymhwyso
Sut i brofi a dadfygio côd i wneud iddo weithio'n gywir
Y ffynonellau cymorth, awgrymiadau a thechnegau ar gyfer cynhyrchu côd effeithiol