Cynnal dadansoddiad sylfaenol o ddeallusrwydd busnes

URN: TECHDUBI3
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal dadansoddiad sylfaenol o ddeallusrwydd busnes i ategu asesiad o wybodaeth sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys cael gofynion adrodd Deallusrwydd Busnes (BI), cwmpasu adroddiadau BI, creu modelau data sylfaenol, nodi tueddiadau allweddol a chyfathrebu allbynnau gan ddefnyddio adroddiadau a chyflwyniadau. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen dadansoddi deallusrwydd busnes sylfaenol yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cynorthwyo i gasglu a dogfennu gofynion adrodd deallusrwydd busnes gan randdeiliaid

  2. Creu modelau data deallusrwydd busnes sylfaenol i asesu senarios sefydliadol

  3. Dogfennu gweithdrefnau mewnol ar gyfer dadansoddi deallusrwydd busnes a chynhyrchu adroddiadau

  4. Datblygu ac adeiladu allbynnau adrodd deallusrwydd busnes safonol newydd ar gyfer rhanddeiliaid sefydliadol yn unol â gofynion sefydliadol

  5. Gwirio setiau data gan ddefnyddio SQL (Iaith Gwirio Strwythuredig) i nodi data cywir am ddeallusrwydd busnes

  6. Creu a chasglu gwybodaeth ddadansoddi sylfaenol i nodi tueddiadau allweddol mewn data am ddeallusrwydd busnes

  7. Datblygu a chynnal adroddiadau deallusrwydd busnes gan integreiddio delweddu data a dadansoddiadau arferol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

  8. Creu a chyflwyno cyflwyniadau i gyfleu canlyniadau adrodd ar ddeallusrwydd busnes

  9. Cyfrannu at wella prosesau dadansoddi ac adrodd deallusrwydd busnes yn unol â gofynion sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i gael a dogfennu gofynion deallusrwydd busnes gan randdeiliaid

  2. Y camau sy'n gysylltiedig â chreu modelau data deallusrwydd busnes a sut i'w cymhwyso

  3. Pwysigrwydd dogfennu dadansoddiadau ac adroddiadau BI

  4. Sut i gyflwyno data a gwybodaeth am ddeallusrwydd busnes i randdeiliaid

  5. Sut i ddatblygu a chynnal dangosfwrdd deallusrwydd busnes ac allbynnau adrodd

  6. Sut i gasglu gwybodaeth a datblygu setiau data BI newydd

  7. Sut i gymhwyso SQL i wirio data a'i dynnu

  8. Sut i greu dadansoddiad o dueddiadau allweddol a'u cyfathrebu

  9. Sut i greu cyflwyniadau deallusrwydd busnes i randdeiliaid mewnol eu hadolygu

  10. Sut i nodi tueddiadau allweddol mewn data deallusrwydd busnes

  11. Y camau sy'n gysylltiedig â dadansoddi deallusrwydd busnes a gwella prosesau adrodd a sut i'w cymhwyso


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUBI3

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

Deallusrwydd Busnes, mewnwelediadau busnes, delweddiadau data