Creu dangosfyrddau mewnwelediad busnes ac adroddiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu dangosfyrddau mewnwelediad busnes ac adroddiadau gan ddefnyddio meddalwedd Deallusrwydd Busnes (BI) safonol y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno adroddiadau sefydliadol a dangosfyrddau. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi data arferol a rhoi hyn mewn mewnwelediadau clir a chryno er mwyn gallu cyfleu hyn yn ôl i randdeiliaid mewnol. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu dangosfyrddau mewnwelediad busnes ac adroddiadau gan ddefnyddio meddalwedd BI safonol y diwydiant yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi gofynion cwsmeriaid i gynllunio dangosfwrdd neu atebion adrodd
Dewis y data penodedig i gynhyrchu adroddiadau a dangosfyrddau
Creu ac addasu adroddiadau data a dangosfyrddau gan ddefnyddio offer safonol y diwydiant i ddarparu mewnwelediadau busnes
Cynorthwyo i ddarparu metrigau perfformiad ar draws y gyfres adrodd i hysbysu rhanddeiliaid
Cyflwyno adroddiadau ad hoc yn unol â gofynion sefydliadol
Dosbarthu adroddiadau a dangosfyrddau i randdeiliaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cyhoeddi adroddiadau a dangosfyrddau ar y Rhyngrwyd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Prosesau adrodd data sefydliadol a sut i'w cymhwyso
Beth a olygir gan ddeallusrwydd busnes a gwneud penderfyniadau a yrrir gan ddata
Y ffynonellau data mewnol a ddefnyddir i gynhyrchu adroddiadau mewnwelediad busnes a dangosfyrddau
Pwysigrwydd ansawdd data a materion cyffredin o ran ansawdd sy'n gallu codi
Y materion preifatrwydd a diogelwch sy'n gallu codi wrth drin data
Y materion moesegol sy'n gallu codi wrth ddefnyddio data i greu mewnwelediadau busnes a sut i'w rheoli
Offer safonol y diwydiant a ddefnyddir i greu adroddiadau mewnwelediad busnes a dangosfyrddau a sut i'w defnyddio
Y mathau o ddata a fformatau data a ddefnyddir a sut i weithio gyda nhw
Sut i gyhoeddi adroddiadau mewnwelediad busnes a dangosfyrddau