Cynorthwyo i roi preifatrwydd a diogelu data ar waith
URN: TECDT80631
Sectorau Busnes (Suites): Gweithiwr TG a Thelathrebu Proffesiynol (procom)
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2023
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo i roi preifatrwydd a diogelu data ar waith.
Mae hyn yn cynnwys rhoi polisïau preifatrwydd a diogelu data’r sefydliad ar waith a chyfrannu at ymateb i geisiadau sy’n ymwneud â data gan ffynonellau mewnol ac allanol. Mae'n cynnwys cynnal y gofrestr ddata a chynorthwyo i gynnal archwiliadau preifatrwydd a diogelu data mewnol. Mae hefyd yn cynnwys cynorthwyo i gynnal y cofnod o weithgareddau prosesu i gefnogi'r polisi cadw data.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gorfod cynorthwyo i roi preifatrwydd a diogelu data ar waith yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dod o hyd i bolisïau a safonau sefydliadol a rheoleiddiol a'u hadolygu i nodi gofynion preifatrwydd a diogelu data
- Cynorthwyo i roi polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau’r sefydliad ar waith er mwyn parhau i gydymffurfio â rheoliadau diogelu data
- Cyfrannu at goladu a chynnal y gofrestr ddata yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cynorthwyo i gynnal archwiliadau preifatrwydd, diogelu data ac adolygiadau cydymffurfio yn ôl yr angen
- Cyfrannu at breifatrwydd a gweithgareddau adfer diogelu data yn ôl yr angen
- Ymateb i geisiadau mynediad pwnc (SAR) a chyfrannu at roi'r wybodaeth y gofynnir amdani
- Cynorthwyo i gadw cofnod o weithgareddau prosesu (ROPA) yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cynnal gweithgareddau mapio data yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cynorthwyo i baratoi a dosbarthu adroddiadau am gydymffurfio â phreifatrwydd a diogelu data
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y deddfau, y rheoliadau a'r polisïau perthnasol sy’n ymwneud â phreifatrwydd a rheoliadau diogelu data cyffredinol (GDPR)
- Ble i ddod o hyd i'r polisïau rheoleiddio a safonau sefydliadol ar gyfer preifatrwydd a diogelu data
- Pwysigrwydd adolygu cydymffurfiad sefydliadol â GDPR, y Ddeddf Diogelu Data a deddfau a rheoliadau diogelu data perthnasol eraill
- Y camau a gymerir i roi polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau diogelu data
- Beth yw ystyr cofrestr ddata
- Sut i gynnal cofrestr ddata sefydliadol
- Y camau sydd ynghlwm wrth gynnal archwiliadau diogelu data
- Pwysigrwydd mynd i'r afael i geisiadau diogelu data mewn modd amserol ac sy'n cynnal safon uchel
- Ystyr ceisiadau mynediad pwnc (SAR) a'r camau i'w cymryd
- Beth yw ystyr cofnod o weithgareddau prosesu (ROPA)
- Pwysigrwydd rhoi polisi cadw data ar waith
- Sut i fapio data
- Y camau sy'n gysylltiedig â chynnal cydymffurfiaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ODAG Consultants Ltd.
URN gwreiddiol
TECDT80631
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Proffesiynol
Cod SOC
3539
Geiriau Allweddol
Rheoli data, diogelu data