Rheoli gweithgareddau fforensig digidol
URN: TECDT61251
Sectorau Busnes (Suites): Gweithiwr TG a Thelathrebu Proffesiynol (procom)
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar:
2023
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli prosiectau rheoli cylch bywyd meddalwedd.
Mae hyn yn cynnwys sefydlu a goruchwylio polisïau, prosesau a gweithdrefnau fforensig digidol, gan gynnwys yr holl offer a thechnegau a gymeradwywyd i'w defnyddio a'r angen i weithredu'n foesegol ac yn broffesiynol.
Mae'n cynnwys gwneud penderfyniadau technegol strategol i gefnogi galluoedd fforensig digidol y sefydliad, a gwella effeithiolrwydd drwy roi awtomeiddio ar waith fel y bo'n briodol.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gorfod rheoli gweithgareddau fforensig digidol yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Pennu polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad i ddiffinio prosesau fforensig digidol
- Cynnal y gallu sefydliadol i gyflwyno'r gwasanaethau fforensig digidol gofynnol
- Ymgynghori ag uwch-randdeiliaid i gytuno ar gyllidebau, blaenoriaethau a metrigau ar gyfer cyflwyno gwasanaethau fforensig digidol
- Datblygu offer cymeradwy i gefnogi'r gwaith o gaffael data fforensig digidol a'i ddadansoddi
- Nodi offer a thechnegau newydd a'u rhoi ar waith i gefnogi gwelliannau i brosesau fforensig digidol
- Arwain ar gasglu data fforensig digidol, brysbennu a dadansoddi ac ymchwilio i achosion fforensig digidol cymhleth
- Rheoli anghenion hyfforddi tîm fforensig digidol i gynnal lefelau uchel o berfformiad
- Ennill a chynnal achrediadau perthnasol sy'n dilysu galluoedd fforensig digidol y sefydliad
- Cynhyrchu a chyfathrebu adroddiadau ar fetrigau fforensig digidol a chanlyniadau ymchwiliadau i randdeiliaid priodol
- Rhoi tystiolaeth tystion arbenigol fel archwiliwr fforensig digidol ar ran y sefydliad yn ôl yr angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y rheoliadau a’r safonau seiberddiogelwch perthnasol ar gyfer gwaith fforensig digidol
- Pwysigrwydd rhoi arweiniad i ymchwilwyr fforensig digidol ar gynnal cywirdeb y dystiolaeth a’r broses ymchwilio
- Arfer gorau'r diwydiant o ran methodolegau diogelwch a safonau a meincnodau'r diwydiant
- Offer a thechnegau fforensig digidol safonol y diwydiant a sut i'w defnyddio
- Bod dull olrhain fforensig digidol yn gofnod penodol o dystiolaeth ddigidol sy’n nodi cyflawni gweithgareddau digidol penodol, cyfathrebu a/neu storio data penodol
- Pwysigrwydd cynnal tarddiad a dilysrwydd tystiolaeth ddigidol, o ystyried pa mor hawdd y gellir addasu gwybodaeth ddigidol
- Ei bod yn bwysig brysbennu targedau digidol posibl yn ystod camau cychwynnol ymchwiliad fforensig digidol i flaenoriaethu ffynonellau data i’w dadansoddi
- Yr achrediadau sy'n ofynnol i adfer neu ddelweddu data electronig fel darparwr gwasanaethau gwyddoniaeth fforensig digidol
- Y safonau a'r ardystiadau rhyngwladol a gydnabyddir ar gyfer gwirio ansawdd a thrylwyredd y prosesau a ddilynir wrth gynnal archwiliadau fforensig digidol
- Bod technegau fforensig digidol hefyd yn cael eu defnyddio i ddiogelu data mewn ymateb i geisiadau mynediad pwnc
- Bod yn rhaid i feddalwedd caffael data fforensig greu copi cyflawn, heb ei addasu, yn ddibynadwy o'r targedau fforensig y mae wedi'u cynllunio i'w trin
- Adroddiad terfynol yw canlyniad nodweddiadol ymchwiliad fforensig ac, o bryd i’w gilydd, gall arwain at gyflwyniad mewn ystafell llys.
- Bod offer fforensig digidol, yn bennaf, yn darparu'r modd i gael tystiolaeth ddigidol o dargedau fforensig, echdynnu ac ail-greu data
- Y gall nodi'r targedau fforensig perthnasol a'u caffael fod yn broses anodd a hirfaith
- Mai cael copi lefel bit o'r targed fforensig yw'r canlyniad dymunol o echdynnu data fforensig digidol, a bod modd dadansoddi'r copi hwn wedi hynny gan ddefnyddio gwybodaeth am strwythur a semanteg y cynnwys data
- Y gall rhywfaint o ddata fod yn ffug a bod wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddio offer gwrth-fforensig er mwyn drysu ymchwiliad
- Bod dilysu offer fforensig yn broses wyddonol sy'n gosod offer penodol ar brawf systematig er mwyn sefydlu dilysrwydd y canlyniadau a gynhyrchir.
- Yr ystyriaethau moesegol y mae angen eu defnyddio wrth gynnal ymchwiliadau fforensig digidol i ddata personol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ODAG Consultants Ltd.
URN gwreiddiol
TECDT61251
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Proffesiynol
Cod SOC
2135
Geiriau Allweddol
seiberddiogelwch, fforenseg ddigidol