Rheoli gweithgareddau asesu gwendidau

URN: TECDT61151
Sectorau Busnes (Suites): Gweithiwr TG a Thelathrebu Proffesiynol (procom)
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gweithgareddau asesu gwendidau.
Mae hyn yn cynnwys datblygu a darparu gallu cynhwysfawr i reoli gwendidau.
Mae'n cynnwys diffinio strategaethau, polisïau a gweithdrefnau effeithiol ar gyfer nodi, adrodd a lliniaru gwendidau sy'n effeithio ar y sefydliad. Mae hefyd yn cynnwys nodi ac argymell camau i reoli ac adfer ar sail gwendidau, sefydlu set o offer gwendidau i sganio ac adrodd ar ganfyddiadau, a darparu metrigau yn ogystal ag adrodd ar wendidau system, statws rheoli clytiau, a dadansoddiad o dueddiadau ar gyfer rhanddeiliaid sy'n rheoli.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gorfod rheoli gweithgareddau asesu gwendidau yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Creu, rhoi ar waith a chynnal polisïau a gweithdrefnau rheoli gwendidau yn unol â safonau sefydliadol
  2. Diffinio seilwaith, offer a thechnegau sganio gwendidau sefydliadol i gyflawni asesiadau o wendidau 
  3. Pennu polisïau caledu sefydliadol i leihau gwendidau mewn systemau gweithredu 
  4. Arwain y gwaith o nodi prosesau newydd i wella asesiadau o wendidau
  5. Rhoi cynlluniau hyfforddi a datblygu ar waith ar gyfer yr holl staff sy'n asesu gwendidau er mwyn cynnal y galluoedd gofynnol
  6. Arwain asesiad o wendidau a galluoedd rheoli clytiau i bennu ymdrechion diogelwch y system darged
  7. Rheoli'r prif gofnod clytio a sicrhau bod yr holl staciau technoleg yn cael eu clytio'n rheolaidd er mwyn mynd i'r afael â gwendidau'n rhagweithiol
  8. Datblygu metrigau i roi diweddariadau ar statws gweithgareddau rheoli gwendidau
  9. Olrhain cynnydd gweithgareddau adfer ar sail gwendidau drwy brosesau newid ffurfiol i wirio bod y gwaith yn cael ei gwblhau
  10. Cynhyrchu a chyfathrebu adroddiadau am wendidau i hysbysu rhanddeiliaid am alluoedd, tueddiadau a metrigau perfformiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i ddylunio strategaeth rheoli gwendidau sefydliadol a'i rhoi ar waith
  2. Bod rheoli gwendidau yn gydran hanfodol o system rheoli diogelwch gwybodaeth
  3. Bod nodi a lliniaru gwendidau yn rheolaidd yn elfen allweddol o lywodraethu risg 
  4. Sut i gymryd cyfrifoldeb am y broses rheoli cyllideb ar gyfer gweithgareddau rheoli gwendidau
  5. Bod y polisi asesu gwendidau yn diffinio pwy all gynnal asesiadau o wendidau a pha mor aml y dylent gael eu cynnal
  6. Mae’r broses asesu gwendidau yn amlygu gwendidau a mesurau lliniaru ar draws systemau gwybodaeth y sefydliad
  7. Sut i reoli galluoedd rheoli gwendidau i gyflawni gofynion sefydliadol
  8. Sut i ddadansoddi problemau sy'n gysylltiedig â gwendidau cymhleth
  9. Sut i reoli a datrys mesurau lliniaru ar gyfer gwendidau cymhleth
  10. Y camau sy'n ymwneud â chryfhau ffurfweddiad y seilwaith wedi'u llywio drwy asesiad o wendidau
  11. Pwysigrwydd nodi ac adolygu offer a thechnegau newydd i wella galluoedd asesu gwendidau  
  12. Pwysigrwydd darparu hyfforddiant ac arweiniad parhaus i bob gweithiwr sy'n asesu gwendidau
  13. Defnyddio offer awtomataidd i gefnogi gwelliannau i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithgareddau asesu gwendidau
  14. Sut i fesur effeithiolrwydd rheoli gwendidau drwy adrodd a metrigau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECDT61151

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Proffesiynol

Cod SOC

2135

Geiriau Allweddol

seiberddiogelwch, gwendid