Cynnal asesiadau o wendidau
URN: TECDT61141
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithiwr TG a Thelathrebu Proffesiynol (procom)
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar:
2023
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal asesiadau o wendidau.
Mae hyn yn cynnwys sganio rhwydweithiau, rhaglenni meddalwedd a systemau i ganfod a nodi gwendidau a chymryd camau i gywiro neu reoli'r rhain i gryfhau cadernid diogelwch.
Mae hyn yn cynnwys rhedeg sganiau o wendidau i brofi a yw'r system yn agored i unrhyw wendidau hysbys, pennu lefelau difrifoldeb er mwyn blaenoriaethu gwendidau a ganfuwyd, argymell camau adfer neu liniaru yn ôl yr angen a rhoi gwybod am ganfyddiadau.
Mae'r safon hon yn cwmpasu'r cymwyseddau sydd eu hangen i gynnal asesiadau o wendidau. Mae ar gyfer y rhai sy'n gorfod cynnal asesiadau o wendidau yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cynllunio sganiau rheolaidd o wendidau rhwydwaith a gynhelir i nodi gwendidau mewn rhwydweithiau, gweinyddwyr a lletywyr
- Cynnal dadansoddiad arferol o ffeiliau log system ac adroddiadau o waliau tân a dyfeisiau diogelu ffiniau eraill i nodi anghysondebau a gwendidau newydd
- Adolygu ac optimeiddio templedi sganio fel eu bod yn cynnwys pob rhan o amgylchedd y systemau gwybodaeth
- Cynnal asesiadau o wendidau ar gyfer rhwydweithiau, rhaglenni a systemau gweithredu
- Datblygu, rhoi ar waith a chynnal offer sganio gwendidau awtomataidd, gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddadansoddi gwendidau
- Brysbennu gwendidau a nodir er mwyn blaenoriaethu gweithgareddau adfer
- Creu cynllun lliniaru gwendidau er mwyn rheoli gwendidau a nodwyd
- Rhoi clytiau wedi'u diweddaru ar waith yn unol â'r cynllun rheoli clytiau
- Rheoli gwendidau a nodwyd drwy gydol eu cylch bywyd nes eu bod yn cael eu lliniaru
- Paratoi a chyfathrebu adroddiadau am statws asesu gwendidau a metrigau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Prif egwyddorion asesu gwendidau
- Yr angen i gytuno ar gwmpas asesiadau gwendidau cyn eu dechrau
- Y camau sy'n gysylltiedig â chynnal asesiadau o wendidau
- Technegau safonol y diwydiant a ddefnyddir i leoli gwendidau a'u nodi
- Sut i frysbennu gwendidau a nodwyd i reoli blaenoriaethau adfer
- Bod asesiad o wendidau yn cynnwys sganio rhwydweithiau, systemau gweithredu a rhaglenni i nodi ac asesu gwendidau posibl
- Yr offer asesu gwendidau sefydliadol penodedig a sut i'w cymhwyso
- Sut i awtomeiddio prosesau sganio gwendidau i gynyddu effeithlonrwydd
- Sut i baratoi strategaethau lliniaru gwendidau mewn rhwydweithiau, systemau gweithredu a rhaglenni
- Y dylid cynnal asesiad o wendidau ar gyfer pob meddalwedd o bwys sy'n cael ei rhyddhau
- Sut i ymchwilio i wendidau parhaus
- Bod asesiad o wendidau yn llywio gweithgareddau rheoli clytiau
- Sut i ymchwilio i wendidau cyffredin mewn ffurfweddiad a diffygion defnyddio
- Sut i baratoi adroddiadau am wendidau a chyfleu canlyniadau asesiadau o wendidau i grwpiau rhanddeiliaid
- Sut i reoli ac olrhain gwendidau a chamau lliniaru drwy gydol eu cylch bywyd nes eu bod yn dod i ben
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ODAG Consultants Ltd.
URN gwreiddiol
TECDT61141
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Proffesiynol
Cod SOC
2135
Geiriau Allweddol
seiberddiogelwch, gwendid