Datblygu strategaethau i reoli cydymffurfiaeth o ran hygyrchedd digidol

URN: TECDT50951
Sectorau Busnes (Suites): Gweithiwr TG a Thelathrebu Proffesiynol (procom)
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu strategaethau i reoli cydymffurfiaeth o ran hygyrchedd digidol mewn cynhyrchion a gwasanaethau meddalwedd.
Mae hyn yn cynnwys creu strategaethau i roi'r hygyrchedd gofynnol a chael ymrwymiad sefydliadol i roi'r hygyrchedd gofynnol i bob defnyddiwr. Mae hyn yn cynnwys creu polisïau, safonau a thechnegau sefydliadol ar gyfer dylunio hygyrchedd i ddefnyddwyr, rheoli gwerthusiadau hygyrchedd i ddefnyddwyr a chynghori ar welliannau i brosesau.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gorfod paratoi strategaethau i reoli cydymffurfiaeth o ran hygyrchedd digidol ar gyfer cydrannau meddalwedd a gwasanaethau yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Creu polisïau a safonau sefydliadol ar gyfer gwerthuso a dylunio hygyrchedd i ddefnyddwyr
  2. Cael ymrwymiad sefydliadol i roi'r hygyrchedd gofynnol i holl ddefnyddwyr meddalwedd a ddatblygwyd
  3. Rheoli adnoddau profi hygyrchedd i ddefnyddwyr i gyflawni'r asesiadau gofynnol
  4. Cynllunio ac arwain gweithgareddau dylunio hygyrchedd i ddefnyddwyr ar gyfer rhaglenni datblygu meddalwedd
  5. Profi bod gofynion hygyrchedd meddalwedd wedi'u bodloni a bod yr arferion gofynnol wedi'u dilyn
  6. Cynghori'r rhai sy'n cynnal profion hygyrchedd ar y prosesau i'w defnyddio a'r gwerthusiadau defnyddwyr sydd eu hangen
  7. Gweithio gyda thimau dylunio i sicrhau bod dylunwyr a datblygwyr yn deall adborth o werthusiadau hygyrchedd ac yn cymryd camau ar sail yr adborth
  8. Hyrwyddo arferion gorau ar gyfer hygyrchedd digidol drwy ddylunio 
  9. Cydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol fel bod hygyrchedd yn cael ei roi ar waith yn effeithiol drwy ei ddylunio'n rhan o systemau, cynhyrchion a gwasanaethau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Manylion deddfwriaeth a safonau diwydiant sy'n ymwneud â gofynion hygyrchedd o ran rhyngwyneb defnyddiwr meddalwedd
  2. Pwysigrwydd creu polisïau sefydliadol effeithiol ar gyfer dylunio rhyngwyneb defnyddiwr a gwerthuso hygyrchedd 
  3. Sut i baratoi polisïau sefydliadol sy'n diffinio cydymffurfiaeth y mae'n rhaid ei chyflawni o ran hygyrchedd digidol.
  4. Y camau sy'n gysylltiedig â rheoli gwerthusiadau hygyrchedd yn unol â'r ansawdd a'r amserlenni gofynnol
  5. Yr angen i gael ymrwymiad sefydliadol i gyflwyno'r hygyrchedd sy'n ofynnol i bob defnyddiwr
  6. Y camau sy'n gysylltiedig wrth sicrhau bod gofynion hygyrchedd rhyngwyneb defnyddiwr meddalwedd wedi'u bodloni
  7. Sut i flaenoriaethu gweithgareddau hygyrchedd digidol
  8. Pwysigrwydd hyrwyddo safonau uchel o hygyrchedd digidol ar draws y sefydliad
  9. Yr angen i roi prosesau ar waith i gyfleu adborth o werthusiad hygyrchedd i ddylunwyr a datblygwyr
  10. Sut i gynllunio adnoddau i gyflawni gwerthusiad hygyrchedd
  11. Y cyfleoedd datblygu sydd eu hangen i gynnal gwerthusiad effeithiol o hygyrchedd a'r gallu i ddylunio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECDT50951

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Proffesiynol

Cod SOC

2137

Geiriau Allweddol

hygyrchedd digidol, dylunio gwefannau