Dylunio gofynion hygyrchedd a'u rhoi ar waith mewn rhyngwynebau defnyddwyr meddalwedd

URN: TECDT50941
Sectorau Busnes (Suites): Gweithiwr TG a Thelathrebu Proffesiynol (procom)
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â chynllunio, dylunio a rhoi gofynion hygyrchedd ar waith wrth ddylunio a datblygu rhyngwyneb defnyddiwr meddalwedd.
Mae hyn yn cynnwys creu fframweithiau sy’n golygu bod modd dylunio gofynion hygyrchedd digidol mewn meddalwedd yn rhan o lifoedd gwaith datblygu fel bod profiadau i ddefnyddwyr terfynol ar gael i bob defnyddiwr. Mae hyn yn cynnwys rhoi hygyrchedd ar waith fel elfen sylfaenol graidd ar gyfer gweithgareddau datblygu platfformau blaen ar y we. Mae hefyd yn cynnwys integreiddio profion gofynion hygyrchedd yn rhan o strategaethau profi unedau, systemau a defnyddioldeb yn ogystal â gwella prosesau'n barhaus.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen dylunio a rhoi gofynion hygyrchedd gwefan ar waith wrth ddatblygu meddalwedd yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi'r gofynion hygyrchedd sy'n gysylltiedig â'r rhyngwyneb meddalwedd sy'n cael ei ddatblygu
  2. Cynllunio gweithgareddau dylunio hygyrchedd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  3. Pennu meini prawf ar gyfer gwerthuso rhyngwynebau defnyddwyr meddalwedd
  4. Creu opsiynau dylunio a phrototeipiau sy'n ymgorffori gofynion hygyrchedd 
  5. Dewis offer a thechnegau priodol i werthuso gofynion hygyrchedd
  6. Gwerthuso opsiynau dylunio a dyluniadau amgen gan ystyried gofynion hygyrchedd
  7. Cael adborth defnyddwyr ar hygyrchedd dyluniadau rhyngwyneb defnyddiwr meddalwedd a phrototeipiau
  8. Profi hygyrchedd cydrannau meddalwedd a dyluniadau amgen drwy brofi unedau, systemau a defnyddioldeb meddalwedd
  9. Cymryd camau adferol i ddatrys unrhyw faterion hygyrchedd sy'n codi
  10. Dehongli a chyflwyno canlyniadau gwerthusiadau hygyrchedd ac adrodd ar gamau adferol a gymerwyd
  11. Argymell diweddariadau i brosesau datblygu meddalwedd i sicrhau bod meddalwedd yn y dyfodol yn bodloni safonau hygyrchedd gofynnol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Safonau hygyrchedd meddalwedd y sefydliad a'r diwydiant a sut i ddehongli'r rhain
  2. Y gweithgareddau y mae angen eu cynllunio wrth ddylunio rhyngwynebau defnyddwyr meddalwedd sy'n cydymffurfio â gofynion hygyrchedd
  3. Sut i nodi gofynion hygyrchedd defnyddwyr ar gyfer pob darpar ddefnyddiwr
  4. Yr angen i ddatblygu metrigau i werthuso cydymffurfiaeth o ran hygyrchedd
  5. Sut i ddatblygu meddalwedd sy'n bodloni gofynion hygyrchedd
  6. Yr offer a'r technegau a ddefnyddir i werthuso gofynion hygyrchedd rhyngwyneb defnyddiwr
  7. Yr angen i adeiladu hygyrchedd a'i roi ar waith fel gofyniad craidd ar gyfer cydrannau meddalwedd
  8. Sut i nodi problemau o ran hygyrchedd mewn rhyngwynebau defnyddwyr meddalwedd
  9. Pwysigrwydd ymgorffori adborth defnyddwyr mewn gwerthusiadau hygyrchedd
  10. Sut i gynllunio a chynnal profion ar hygyrchedd rhyngwynebau defnyddwyr meddalwedd 
  11. Sut i frysbennu materion hygyrchedd
  12. Yr angen i ymgysylltu â thimau meddalwedd i arwain y gwaith o wella dyluniad rhyngwyneb defnyddiwr
  13. Pwysigrwydd dogfennu materion hygyrchedd a nodir mewn meddalwedd
  14. Yr angen i gydweithio'n agos ag aelodau'r tîm cynnyrch meddalwedd a dylunio
  15. Pwysigrwydd nodi gwelliannau mewn prosesau dylunio o ran gofynion hygyrchedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECDT50941

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Proffesiynol

Cod SOC

2137

Geiriau Allweddol

hygyrchedd digidol, dylunio gwefannau