Adolygu rhyngwynebau defnyddwyr meddalwedd i gydymffurfio â hygyrchedd digidol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adolygu rhyngwynebau defnyddwyr a ddefnyddir ar wefannau, rhaglenni ffonau symudol a chyfrifiaduron i weld a ydynt yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd digidol.
Mae hyn yn cynnwys cynllunio ac adolygu'r cynnwys digidol a ddarperir i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau hygyrchedd digidol. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar ofynion hygyrchedd digidol mewn modd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr er mwyn darparu strategaeth brofi ar gyfer gwefannau a rhaglenni. Mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod rhoi prosesau ac arferion sefydliadol ar waith yn rhoi fframwaith cadarn ar gyfer cynnal hygyrchedd digidol, gan sicrhau bod gwefannau digidol yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gorfod cynnal adolygiadau o gydymffurfiaeth gwefannau a chynnwys digidol ar gyfer hygyrchedd digidol yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Adolygu manylebau dylunio gwefannau, ffonau symudol a chyfrifiaduron i bennu'r swyddogaethau arfaethedig
- Cynllunio profion hygyrchedd yn unol â gofynion rheoliadol a safonau sefydliadol
- Cynnal profion o hygyrchedd rhyngwynebau defnyddwyr meddalwedd yn unol â safonau sefydliadol
- Gwerthuso canlyniadau profion hygyrchedd i nodi meysydd lle ceir diffyg cydymffurfio
- Cofnodi canlyniadau gwerthuso hygyrchedd rhyngwyneb defnyddiwr yn unol â gofynion sefydliadol
- Datrys meysydd lle ceir diffyg cydymffurfio o ran hygyrchedd gyda datblygwyr
- Nodi unrhyw faterion hygyrchedd heb eu datrys a chyhoeddi nodiadau am ddiffyg cydymffurfio yn unol â safonau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pwysigrwydd hygyrchedd digidol i sicrhau bod pob defnyddiwr yn gallu ymgysylltu â gwefannau a rhaglenni ffonau symudol a chyfrifiaduron
- Y safonau rhyngwladol a pholisïau sefydliadol ar gyfer hygyrchedd meddalwedd
- Y gofynion dylunio hygyrchedd sy'n gysylltiedig â dylunio rhyngwyneb defnyddiwr
- Y profion a'r gwiriadau y mae angen eu cynllunio er mwyn cydymffurfio â safonau hygyrchedd, canllawiau arddull a deddfwriaeth berthnasol
- Sut i werthuso bod rhyngwyneb defnyddiwr yn cydymffurfio â hygyrchedd
- Sut i ddadansoddi data gwerthuso rhyngwyneb defnyddiwr
- Sut i gofnodi gwerthoedd meincnod ar gyfer hygyrchedd rhyngwyneb defnyddiwr
- Pwysigrwydd argymell camau gweithredu fel mewnbwn i ddyluniad rhyngwyneb defnyddiwr i ddatrys materion hygyrchedd
- Yr angen i gyhoeddi unrhyw faterion hygyrchedd sydd heb eu datrys o hyd
- Pwysigrwydd adolygu gweithdrefnau dylunio rhyngwyneb defnyddiwr i osgoi problemau hygyrchedd digidol rhag codi
- Sut i weithio gyda Thimau TG ehangach a staff annhechnegol yng nghyd-destun newidiadau i hygyrchedd digidol