Rheoli prosiectau rheoli cylch bywyd meddalwedd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli prosiectau rheoli cylch bywyd meddalwedd.
Mae hyn yn cynnwys sefydlu a goruchwylio prosesau DevOps(datblygu a gweithrediadau integredig) ac arferion gorau i sicrhau bod systemau byw yn sefydlog, yn ddiogel ac yn cydymffurfio. Ar yr un pryd, mae'n darparu cylchoedd effeithiol o ddefnyddio meddalwedd o ran integreiddio parhaus (CI) a chyflenwi parhaus (CD) sy'n ymateb yn effeithiol i geisiadau am newid.
Mae'n cynnwys gwneud penderfyniadau technegol strategol i ategu map ffordd technoleg y sefydliad, a gwella'r platfform drwy gefnogi proses wedi'i hawtomeiddio o gyflwyno meddalwedd mewn amgylcheddau byw. Mae hefyd yn cynnwys rhoi cymorth parhaus er mwyn cynhyrchu'n effeithiol a datrys problemau.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol am brosiectau rheoli cylch bywyd meddalwedd yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Adolygu pa amcanion i'w cyflawni o ran DevOps er mwyn sicrhau bod targedau'n cael eu cyflawni o ran ansawdd, cost ac amser
- Arwain y gwaith o ddylunio prosesau DevOps fel yr awdurdod technegol er mwyn cynnal targedau cyflwyno
- Diffinio a rheoli polisïau, safonau, prosesau a thechnegau cylch bywyd meddalwedd yn unol â gofynion sefydliadol
- Arwain y gwaith o hyfforddi a mentora timau DevOps i gynnal lefelau uchel o ymwybyddiaeth sefyllfaol o alluoedd a pherfformiad amgylchedd meddalwedd
- Cynnal adolygiadau Prawf Cysyniad (POC) ar gyfer offer a thechnolegau newydd i'w hasesu er mwyn eu defnyddio mewn rhaglenni rheoli cylch bywyd meddalwedd
- Pennu a dylunio prosesau ac offer piblinell CI/CD i roi prosesau defnyddio ar waith a'u hawtomeiddio
- Asesu aeddfedrwydd y sefydliad yng nghyd-destun DevOps i nodi meysydd i'w gwella
- Gweithio gyda thimau DevOps i roi'r offer a'r prosesau cymeradwy ar waith i gyflwyno diweddariadau i feddalwedd yn effeithiol
- Cynllunio hyfforddiant ar gyfer timau i hwyluso'r gwaith o gyflwyno datrysiadau DevOps perfformiad uchel
- Rhoi offer adrodd awtomataidd ar waith i fonitro iechyd a dibynadwyedd y system
- Rhoi gwybod i uwch-randdeiliaid am ddiweddariadau o ran statws gweithredol a map datblygu DevOps yn y dyfodol i gael eu cymeradwyaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y rhesymeg dros DevOps ar egwyddorion a'r heriau sylfaenol sy'n gysylltiedig
- Sut i ddiffinio a chynnal map ffordd datblygu DevOps
- Sut i gyflwyno ceisiadau am newid gan gwsmeriaid yn gyflym ac yn effeithiol drwy ychwanegu nodweddion newydd (a diweddaru nodweddion presennol).
- Rôl a chymhwysiad offer meddalwedd mewn datblygu, rheoli ffurfweddiad, piblinellau a gweithrediadau defnyddio CI/CD
- Sut i reoli a gwella prosesau rheoli cylch bywyd meddalwedd DevOps
- Y camau sy'n gysylltiedig â gwella arferion presennol DevOps
- Sut i ddatblygu a ffurfweddu piblinell CI/CD DevOps a'i defnydd wrth ryddhau cydrannau meddalwedd
- Sut i wella cyflymder, effeithlonrwydd a gallu piblinellau CI/CD DevOps
- Sut i greu a gwella offer, gwasanaethau a fframweithiau newydd er mwyn rhyddhau meddalwedd cyflymach a mwy dibynadwy
- Pwysigrwydd cynnal proses barhaus a llyfn o adeiladu ac integreiddio meddalwedd newydd mewn amgylcheddau byw
- Sut i reoli timau i gynnal lefelau uchel o berfformiad CI/CD DevOps
- Sut i roi profion diogelwch a pherfformiad ar waith i ddiogelu'r feddalwedd sy'n cael ei rhyddhau rhag bod yn agored i niwed
- Rôl a phwrpas ecosystem barhaus o integreiddio a chynnwys
- Y camau sy'n gysylltiedig ag awtomeiddio'r broses o hyrwyddo cod y tu allan i dimau sgrym er mwyn cynhyrchu i'r ansawdd gofynnol
- Yr angen i yrru a gwella'r system a'r broses yn barhaus i leihau costau a gwella effeithlonrwydd
- Yr angen i roi arweiniad parhaus i dimau ynghylch awtomeiddio, dibynadwyedd a hydrinedd, er mwyn sicrhau bod gweithrediadau meddalwedd yn gallu ymdopi â chynhyrchion
- Y camau sy'n gysylltiedig â monitro ac adrodd ar berfformiad cadwyn adeiladu a mabwysiadu