Adeiladu, cynnal a gweithredu piblinell ddefnyddio barhaus ar gyfer DevOps

URN: TECDT50741
Sectorau Busnes (Suites): Gweithiwr TG a Thelathrebu Proffesiynol (procom)
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaethau rheoli cylch bywyd meddalwedd gan ddefnyddio prosesau DevOps (datblygu a gweithrediadau integredig) o fewn sefydliad i reoli meddalwedd a rhyddheir yn barhaus a'i defnyddio mewn amgylcheddau byw.
Mae hyn yn cynnwys diffinio, rhoi ar waith, rheoli a chynnal amgylcheddau cynnal gweithredol a gweithio gyda rhanddeiliaid i ddarparu esblygiad parhaus datrysiadau meddalwedd a sicrhau bod platfformau yn effeithlon, yn ddiogel ac ar gael yn eang. Mae hyn yn cynnwys creu offer datblygu a seilwaith i ategu prosesau DevOps a'u rhoi ar waith. Mae hefyd yn cynnwys adeiladu piblinellau integreiddio parhaus (CI) a chyflenwi parhaus (CD) ac amgylcheddau datblygu newydd i wella effeithlonrwydd, gwella ac awtomeiddio prosesau rhyddhau.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gorfod adeiladu piblinell defnydd parhaus o DevOps a'i chynnal yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Adolygu gofynion offer DevOps er mwyn diweddaru amgylcheddau meddalwedd gweithredol
  2. Dylunio piblinellau datblygu meddalwedd i gyflwyno diweddariadau rheolaidd
  3. Adeiladu a chynnal ffurfweddiadau piblinellau CI/CD i gefnogi'r gwaith o ryddhau meddalwedd a'i defnyddio 
  4. Cydweithio â phenseiri a datblygwyr i adeiladu a defnyddio diweddariadau meddalwedd mewn amgylcheddau byw
  5. Awtomeiddio prosesau DevOps i wella perfformiad lleoli
  6. Nodi risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio DevOps a chyfleu'r rhain i uwch-reolwyr er mwyn eu lliniaru
  7. Integreiddio ansawdd cod penodedig ac offer profi mewn piblinellau datblygu meddalwedd
  8. Cynnal adolygiadau gwella prosesau DevOps i leihau costau a gwella effeithlonrwydd
  9. Nodi offer, technolegau a dulliau gweithio newydd DevOps a'u rhoi ar waith er mwyn gwella lefelau gwasanaeth
  10. Rhoi systemau rheoli fersiynau ar waith a'u cymhwyso i olrhain newidiadau i ddatrysiadau meddalwedd a ddefnyddir yn effeithiol
  11. Rhoi offer awtomataidd ar waith i fonitro iechyd a dibynadwyedd system mewn amgylcheddau byw
  12. Datrys problemau ac anawsterau mewn prosesau DevOps i gynnal piblinellau defnyddio o safon uchel
  13. Creu a chynnal dogfennaeth dechnegol DevOps i gynnal cofnodion ar gyfer archwilio ac adrodd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Prif ddamcaniaethau ac egwyddorion rheoli cylch bywyd meddalwedd DevOps
  2. Sut i sefydlu piblinellau cyflenwi meddalwedd diogel a dibynadwy
  3. Prif nodweddion piblinellau defnyddio meddalwedd CI/CD
  4. Y sgiliau technegol sydd eu hangen i ddatblygu piblinellau meddalwedd a gwasanaethau a'u gweithredu ar draws y cylch bywyd llawn
  5. Pwysigrwydd cynnal amgylcheddau meddalwedd o safon uchel
  6. Sut i ddiffinio, rhoi ar waith, rheoli a chynnal yr amgylcheddau cynnal sydd eu hangen i gefnogi platfformau DevOps
  7. Offer safonol y diwydiant a ddefnyddir i reoli seilwaith DevOps a sut i'w cymhwyso
  8. Rôl systemau rheoli ffurfweddiad a fersiynau meddalwedd i reoli meddalwedd sy'n cael ei rhyddhau
  9. Y camau sy'n ymwneud â monitro, diogelwch, archwilio a chadernid platfformau byw
  10. Sut i adeiladu galluoedd dibynadwy y gellir eu hailadrodd drwy broses sy'n esblygu'n barhaus
  11. Sut i weithio gydag arferion ac offer datblygu cyfoes
  12. Yr angen i addasu arferion gwaith DevOps i gyd-fynd ag anghenion cynhyrchion a gwasanaethau penodol
  13. Pwysigrwydd ymgorffori rheoli risg, ansawdd, diogelwch, preifatrwydd a diogelwch mewn datrysiadau platfform DevOps
  14. Yr angen i ddylunio, defnyddio a chynnal platfformau cadarn, sy'n gwella eu hunain, ac sydd ar gael yn eang
  15. Y prif gamau sy'n gysylltiedig â phontio i dirwedd cwmwl hybrid drwy ddefnyddio technolegau cyfoes
  16. Pwysigrwydd datrys problemau yn effeithiol i gynnal gwasanaethau dibynadwy, diogel a chost-effeithiol
  17. Sut i roi adborth effeithiol i annog datblygiad yr unigolion a'r timau
  18. Pwysigrwydd rhoi arweiniad a gwneud awgrymiadau i gefnogi gwelliant parhaus a dull dysgu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECDT50741

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Proffesiynol

Cod SOC

2139

Geiriau Allweddol

meddalwedd, DevOps