Cynorthwyo i roi prosesau rheoli cylch bywyd meddalwedd DevOps ar waith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â chynorthwyo i roi prosesau rheoli cylch bywyd meddalwedd ar waith.
Mae hyn yn cynnwys cefnogi prosesau DevOps (datblygu a gweithrediadau integredig) yn rhan o dîm, monitro perfformiad system fyw a rhoi'r defnydd o feddalwedd cylch cyflym ar waith yn rhan o bibell integreiddio barhaus (CI) a darpariaeth barhaus (CD).
Mae hyn yn cynnwys monitro amgylcheddau meddalwedd cynwysedig byw o ran argaeledd a pherfformiad, ac ymateb i faterion drwy ddatrys problemau. Mae hefyd yn cynnwys paratoi sgriptiau defnyddio a chefnogi'r gwaith o awtomeiddio prosesau defnyddio.
Mae'r safon hon yn cwmpasu'r cymwyseddau sydd eu hangen i roi seilwaith DevOps ar waith i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a defnyddio cynhyrchion neu wasanaethau digidol newydd neu wedi'u diweddaru drwy ddefnyddio dull DevOps. Mae ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo i reoli cylch bywyd meddalwedd yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cyfrannu at adeiladu, cynnal a gweithredu prosesau piblinellau DevOps yn unol â safonau sefydliadol
- Cynorthwyo i roi gwelliannau i brosesau DevOps ar waith i wella sut y defnyddir meddalwedd
- Cynorthwyo'r gwaith o ffurfweddu cynlluniau adeiladu newydd a phresennol i ddefnyddio cod sydd wedi'i brofi a'i ddilysu mewn amgylcheddau byw
- Cyfrannu at adeiladu, profi a defnyddio diweddariadau i raglenni meddalwedd gan ddefnyddio piblinellau CI/CD i gynnal amgylcheddau byw
- Monitro amgylcheddau byw i nodi materion yn rhagweithiol
- Cyfrannu at ddatblygu sgriptiau ac offer newydd i awtomeiddio piblinellau yn well
- Dogfennu'r defnydd o feddalwedd yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y prif brosesau DevOps a ddefnyddir wrth reoli cylch oes meddalwedd
- Bod piblinell DevOps yn cael ei defnyddio i ddiffinio taith y cod newydd o'r cam cynllunio i'r defnydd
- Sut mae prosesau piblinellau sy'n defnyddio CI/CD yn gweithio
- Sut i sefydlu'r platfformau DevOps sydd eu hangen i gyflwyno meddalwedd fel gwasanaeth i gleientiaid a rhanddeiliaid
- Beth a olygir gan integreiddio parhaus a defnydd parhaus
- Prif swyddogaethau ieithoedd sgriptio modern er mwyn galluogi defnydd awtomataidd ac integreiddio parhaus
- Sut i ddatblygu sgriptiau defnyddio drwy becynnau safonol y diwydiant
- Prif swyddogaethau gweinyddu'r system weithredu ar gyfer prosesau DevOps a sut i'w cymhwyso
- Pwysigrwydd cydweithio fel tîm ym maes rheoli cylch bywyd meddalwedd DevOps
- Sut i weithio gyda methodolegau ystwyth i reoli cylch bywyd gwasanaethau meddalwedd
- Prif nodweddion amgylcheddau cwmwl ar gyfer cynnal datrysiadau meddalwedd DevOps
- Bod yr amrywiaeth o gymwysiadau yn golygu defnyddio technolegau a datrysiadau niferus yn erbyn set gyffredin o ofynion
- Pwysigrwydd sicrhau bod cod newydd yn cael ei ddefnyddio mewn amgylcheddau sefydlog