Cynnal aseiniadau dylunio gwasanaethau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â chynnal aseiniadau dylunio gwasanaethau.
Mae dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) yn broses ddylunio ailadroddol sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr a'u hanghenion. Mae'n llywio'r gwaith o ddylunio neu ailgynllunio cynhyrchion neu wasanaethau i alluogi defnyddwyr i gymryd rhan lawn er mwyn cyflawni eu nodau gan roi profiad cadarnhaol i ddefnyddwyr. Ym mhroses UCD, mae timau dylunio yn cynnwys defnyddwyr drwy gydol y broses ddylunio. Gwneir hyn i ddatblygu mewnwelediadau Profiad Defnyddwyr (UX) i lywio dyluniad y broses ryngweithio a sut y dylunnir teithiau gwasanaeth gan ddefnyddio dulliau dylunio cynhwysol a hygyrch.
Mae cynnal aseiniadau dylunio gwasanaethau yn cynnwys dylunio a datblygu gwasanaethau cynhwysol o'r dechrau i'r diwedd sy'n helpu defnyddiwr i gael mynediad eu nodau a'u cwblhau yn unol â gofynion gwasanaethau sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys dylunio gwasanaethau digidol newydd ac adolygu ac ailgynllunio gwasanaethau digidol presennol i ddarparu profiad cydlynol sy’n diwallu anghenion defnyddwyr ar draws platfformau a chynhyrchion. Mae hefyd yn cynnwys cynllunio a dylunio gwasanaethau digidol yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr, creu prototeipiau gwasanaeth a gwasanaethau ffug drwy ddefnyddio fframweithiau a safonau dylunio gwasanaethau sefydliadol, i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion gweithredol, technegol, pensaernïol, cymorth gwasanaeth ac anghenion defnyddwyr.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen cynnal aseiniadau dylunio gwasanaethau yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Adnabod a chytuno ar ofynion prosiectau dylunio gwasanaethau gyda rhanddeiliaid
- Mapio teithiau gwasanaeth presennol i gynhyrchu cynigion dylunio ar gyfer gwasanaethau digidol newydd neu well
- Gweithio gyda pherchnogion gwasanaethau i nodi ac asesu cyfleoedd i wella gwasanaethau
- Dylunio gwasanaethau o'r dechrau i'r diwedd ar draws yr holl sianeli gofynnol, gan ystyried anghenion defnyddwyr, amcanion busnes, cwmpas, cyfyngiadau a blaenoriaethu
- Defnyddio dulliau safonol y diwydiant i brototeipio gwasanaethau a rhyngweithiadau i ddangos gwasanaethau gwell
- Profi dyluniadau newydd ar gyfer gwasanaethau gyda defnyddwyr a rhanddeiliaid i'w dilysu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Dadansoddi materion o fewn gwasanaethau presennol i nodi'r effaith ar brofiadau defnyddwyr a pharatoi argymhellion i'w lliniaru
- Gwirio bod modd rhoi gwelliannau i wasanaethau ar waith, eu gwireddu a'u mesur, drwy weithio'n agos gyda pherchnogion gwasanaethau yn ystod pob cam o aseiniad dylunio gwasanaeth
- Adolygu ac optimeiddio technoleg bresennol a nodi lle mae gan dechnoleg arloesol neu datblygol y potensial i wella gwasanaethau
- Cynnal dadansoddiad o effaith ar gyfer opsiynau dylunio gwasanaethau i lywio penderfyniadau o ran dethol
- Dogfennu dyluniadau o wasanaethau yn unol â safonau sefydliadol
- Cyfrannu at ddatblygu safonau dylunio gwasanaethau, offer a dulliau i gefnogi'r gwaith o wella dyluniad gwasanaethau yn barhaus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i nodi gofynion gwasanaethau digidol gyda rhanddeiliaid a chytuno arnynt
- Sut i gynllunio datblygiad gwasanaethau digidol yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr a gofynion sefydliadol
- Sut i ddylunio gwasanaethau o'r dechrau i'r diwedd gan sicrhau bod anghenion defnyddwyr, gofynion rhanddeiliaid a safonau sefydliadol wedi'u hystyried bob amser
- Y camau sy'n gysylltiedig â mapio teithiau gwasanaeth presennol i lywio cynigion gwell i ddylunio gwasanaethau a sut i'w cymhwyso
- Sut i ddatblygu byrddau stori, mapio gwasanaethau a mapio taith defnyddwyr i lywio’r gwaith o ddylunio gwasanaethau digidol
- Sut i fynegi’n glir sut mae angen i wasanaethau newid o safbwynt bod yn system a busnes sy'n rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf
- Sut i ddilysu deilliannau dyluniad gwasanaethau i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion gweithredol, technegol, pensaernïol, cefnogaeth i wasanaethau ac anghenion defnyddwyr ar gyfer darparu gwasanaethau y cytunwyd arnynt
- Sut i greu ac ailadrodd prototeipiau a brasluniau gwasanaethau i hysbysu rhanddeiliaid sut y gallai'r gwasanaeth weithio
- Platfformau digidol cyfredol, gan gynnwys y rhyngrwyd, apiau symudol a systemau busnes mewnol
- Offer a dulliau presennol a'r rhai sy'n dod i'r amlwg o ddylunio gwasanaethau a sut i'w cymhwyso
- Sut i ddefnyddio data ymchwil Profiad Defnyddwyr (UX) a mewnwelediadau defnyddwyr i bennu anghenion cwsmeriaid a phwyntiau trafferthus i ddylunio gwasanaethau effeithiol
- Pwysigrwydd cydweithio ag ymchwilwyr defnyddwyr i adolygu ymchwil a dehongli canfyddiadau ymchwil
- Egwyddorion ac arferion safonol y diwydiant ar gyfer dylunio gwasanaethau a sut i'w cymhwyso
- Sut i gydweithio â rhanddeiliaid i ddiffinio’r broblem y mae angen ei datrys, nodi a datrys heriau, a meithrin consensws ar gyfer penderfyniadau ynghylch dylunio gwasanaethau
- Methodolegau, fframweithiau ac egwyddorion datblygu cynnyrch digidol
- Sut i ailddylunio gwasanaethau fel eu bod yn cymhwyso meddylfryd sy'n canolbwyntio ar wasanaethau
- Sut i weithio gyda fframweithiau a safonau dylunio gwasanaethau sefydliadol i arwain aseiniadau dylunio gwasanaeth
- Y camau sy'n gysylltiedig ag adolygu dyluniadau gwasanaethau i wneud yn siŵr eu bod yn addas at y diben ac yn bodloni gofynion defnyddwyr a'r sefydliad
- Sut i gyfrannu at baratoi strategaethau, polisïau a safonau gwasanaethau mewn partneriaeth â pherchnogion gwasanaethau, rheolwyr cynnyrch a rhanddeiliaid