Cynnal aseiniadau dylunio profiad y defnyddiwr

URN: TECDT130144
Sectorau Busnes (Suites): Gweithiwr TG a Thelathrebu Proffesiynol (procom)
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â chynnal aseiniadau dylunio profiad y defnyddiwr (UX).
Mae dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) yn broses ddylunio ailadroddol sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr a'u hanghenion. Mae'n llywio'r gwaith o ddylunio neu ailgynllunio cynhyrchion neu wasanaethau i alluogi defnyddwyr i gymryd rhan lawn er mwyn cyflawni eu nodau gan roi profiad cadarnhaol i ddefnyddwyr. Ym mhroses UCD, mae timau dylunio yn cynnwys defnyddwyr drwy gydol y broses ddylunio. Gwneir hyn i ddatblygu mewnwelediadau UX i lywio dyluniad y broses ryngweithio a sut y dylunnir teithiau gwasanaeth gan ddefnyddio dulliau dylunio cynhwysol a hygyrch.
Mae dylunio UX yn golygu deall a mynd i'r afael â nodau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth. Mae hyn yn cynnwys defnyddio proses ddylunio ailadroddol i wella boddhad defnyddwyr drwy wella defnyddioldeb a hygyrchedd, dylunio tasgau digidol, rhyngweithiadau a rhyngwynebau. Mae hefyd yn cynnwys cynhyrchu, datblygu dyluniadau amgen a mireinio dyluniadau mewn ymateb i werthusiad ymchwil UX.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen cynnal aseiniadau dylunio UX yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi anghenion defnyddwyr a gofynion sefydliadol gyda rhanddeiliaid i gynllunio gweithgareddau dylunio UX
  2. Cydweithio ag ymchwilwyr defnyddwyr i adolygu canfyddiadau ymchwil UX i ddiffinio llif defnyddwyr
  3. Cynhyrchu personâu defnyddwyr i gynrychioli grwpiau allweddol o ddefnyddwyr
  4. Creu cynlluniau rhyngweithio i alinio teithiau defnyddwyr o ran llywio cynnyrch digidol
  5. Creu byrddau stori UX i gynnal archwiliad gweledol o brofiad y defnyddiwr gyda dyluniad cynnyrch
  6. Adnabod a dewis patrymau dylunio i ddatrys problemau cyffredin o ran defnyddioldeb
  7. Dewis offer a thechnegau sefydliadol ar gyfer dylunio rhyngweithiadau defnyddwyr ar gyfer y cynnyrch neu'r gwasanaeth gofynnol
  8. Dylunio rhyngwynebau a llif sgrin yn unol â phersonâu defnyddwyr ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau digidol
  9. Datblygu a gwerthuso opsiynau dylunio amgen a chyfaddawdau ac argymell datrysiadau dylunio
  10. Creu brasluniau, fframiau gwifren a phrototeipiau i allu profi cysyniadau dylunio newydd
  11. Mireinio dyluniadau mewn ymateb i ddarganfyddiadau ymchwil UX
  12. Paratoi canllawiau ymwybyddiaeth i helpu uwch-randdeiliaid i ddeall sut y gall dyluniadau UX wella sut mae'r sefydliad yn cyflwyno gwasanaethau
  13. Datblygu llyfrgelloedd patrwm UX i gynhyrchu dyluniadau rhyngwyneb digidol y gellir eu hailddefnyddio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  14. Dogfennu dyluniadau UX yn unol â safonau sefydliadol
  15. Cyfleu dyluniadau a phrototeipiau UX yn effeithiol i randdeiliaid gan gynnwys defnyddio prototeipiau, cyflwyniadau, gweithdai, diagramau, adroddiadau a straeon defnyddwyr

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y camau sy'n gysylltiedig â chymhwyso profion defnyddwyr a chanfyddiadau ymchwil UX i lywio dyluniadau cywir sy'n rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf, a sut i'w cymhwyso
  2. Profiad defnyddwyr a gofynion hygyrchedd defnyddwyr ar gyfer pawb a allai ddefnyddio cynhyrchion a gwasanaethau digidol
  3. Sut i ddisgrifio nodau, tasgau defnyddwyr a'r amgylchedd y bydd y cynhyrchion neu'r gwasanaethau'n cael eu defnyddio ynddo
  4. Y cyd-destun o ran defnydd ar gyfer systemau, cynhyrchion a gwasanaethau wrth gefnogi nodau dylunio UX
  5. Sut i hwyluso gweithgareddau cyd-ddylunio, gan ddwyn ynghyd y bobl sy'n defnyddio ac yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau, ac yn berchen arnynt
  6. Dulliau gweithio ystwyth cyfoes ac arferion datblygu meddalwedd modern
  7. Sut i drosi UX i lywio straeon defnyddwyr
  8. Sut i ddatblygu straeon defnyddwyr i ddisgrifio nodweddion neu alluoedd ar gyfer nodau dylunio UX
  9. Sut i ddefnyddio byrddau stori, llif sgrin, llif defnyddwyr, llif prosesau a mapiau safle i gefnogi dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i roi profiad priodol i ddefnyddwyr
  10. Sut i fapio anghenion sefydliadol a defnyddwyr i ddatblygiad dylunio UX
  11. Sut i ddefnyddio dadansoddeg, adborth defnyddwyr, ac ymchwil UX i werthuso a gwella dyluniadau UX
  12. Pwysigrwydd gweithio'n agos gyda thimau dylunio i ymgorffori canfyddiadau ymchwil UX yn y dyluniad, fel bod y pwyslais yn parhau ar anghenion defnyddwyr
  13. Y camau sy'n ymwneud â symleiddio profiad y defnyddwyr gan ddefnyddio dull sy'n rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf a sut i'w cymhwyso
  14. Mai cydrannau dylunio y gellir eu hailddefnyddio yw patrymau dylunio UX a'u bod yn cael eu defnyddio i ddatrys problemau cyffredin o ran defnyddioldeb y mae defnyddwyr yn eu profi
  15. Sut i nodi patrymau dylunio addas y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer dylunio UX i fodloni gofynion sefydliadol a defnyddwyr
  16. Y prif fathau o batrymau dylunio UX sy'n targedu gwahanol swyddogaethau rhyngweithio craidd
  17. Offer a phlatfformau safonol y diwydiant ar gyfer dylunio rhyngwynebau a rhyngweithiadau defnyddwyr a sut i'w cymhwyso i ddyluniad UX
  18. Sut i ddewis yr offer, y dulliau a'r patrymau dylunio priodol i ddylunio sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â chynnyrch, system neu wasanaeth ac yn cael profiadau ohonynt
  19. Sut i gynhyrchu prototeipiau sylfaenol a thra chywir ac uchel i archwilio cysyniadau dylunio newydd ar gyfer rhyngwynebau a theithiau defnyddwyr gan ddefnyddio offer safonol y diwydiant  
  20. Y camau sy'n gysylltiedig â chreu dyluniad clir ac optimaidd ar gyfer rhyngweithio â chynhyrchion a gwasanaethau
  21. Sut i ailddylunio cynhyrchion a gwasanaethau i gymhwyso meddylfryd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau presennol
  22. Sut i nodi meini prawf mesuradwy ar gyfer defnyddioldeb a hygyrchedd gofynnol cynhyrchion a gwasanaethau
  23. Sut i brofi a gwerthuso cynhyrchion a gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar ddefnyddioldeb a hygyrchedd
  24. Sut i gyfleu gwerth dylunio a rhyngweithio UX ar draws y sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECDT130144

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Proffesiynol

Cod SOC

2141

Geiriau Allweddol

Ymchwil defnyddwyr, dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, profiad y defnyddiwr (UX)