Creu cynnwys ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau digidol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â chreu cynnwys ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau digidol.
Mae dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) yn broses ddylunio ailadroddol sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr a'u hanghenion. Mae'n llywio'r gwaith o ddylunio neu ailgynllunio cynhyrchion neu wasanaethau i alluogi defnyddwyr i gymryd rhan lawn er mwyn cyflawni eu nodau gan roi profiad cadarnhaol i ddefnyddwyr. Ym mhroses UCD, mae timau dylunio yn cynnwys defnyddwyr drwy gydol y broses ddylunio. Gwneir hyn i ddatblygu mewnwelediadau ymchwil Profiad Defnyddwyr (UX) i lywio dyluniad y broses ryngweithio a sut y dylunnir teithiau gwasanaeth gan ddefnyddio dulliau dylunio cynhwysol a hygyrch.
Mae creu cynnwys yn golygu creu, cynllunio a golygu cynnwys ar draws cynhyrchion a gwasanaethau digidol yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr a gafwyd o fewnwelediad ac sydd wedi'u gwella gan fewnwelediadau ymchwil UX. Mae'n cynnwys cynhyrchu cynnwys clir yn y fformatau cywir ar gyfer y sianeli gofynnol i wneud pethau'n haws i ddefnyddwyr eu deall a'u gweithredu. Gall hyn olygu gweithio ar un darn o gynnwys neu ar y daith o un pen i’r llall o ran cynnyrch neu wasanaeth i helpu defnyddwyr i gyflawni eu nod.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu cynnwys ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau digidol yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Datblygu cynlluniau creu cynnwys yn unol â gofynion sefydliadol
- Trosi straeon gan ddefnyddwyr i ddatblygu dulliau addas ar gyfer dylunio cynnwys
- Dylunio cynnwys i fodloni gofynion sefydliadol ac anghenion defnyddwyr
- Cymhwyso safonau a chanllawiau arddull i greu cynnwys yn unol â safonau sefydliadol
- Creu cynnwys yn unol â safonau hygyrchedd sefydliadol a'r diwydiant
- Defnyddio systemau rheoli cynnwys safonol y diwydiant a phrosesau cynhyrchu cynnwys i gyhoeddi cynnwys
- Defnyddio mewnwelediadau ymchwil UX i adolygu ac optimeiddio cynnwys yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cymhwyso technegau prototeipio, i ddelweddu cynnwys yn ei gyd-destun
- Cyfleu cynnwys yn glir i randdeiliaid er mwyn ei adolygu a'i gymeradwyo
- Dilyn gweithdrefnau cymeradwyo cynnwys yn unol â chanllawiau brand sefydliadol a safonau cyfathrebu
- Cyfrannu at strategaethau cynnwys sefydliadol, dulliau, canllawiau, gwelliannau a phatrymau
- Monitro perfformiad cynnwys o fewn cynhyrchion a gwasanaethau a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y camau sy'n gysylltiedig â datblygu cynlluniau creu cynnwys a sut i'w cymhwyso
- Sut i greu dyluniad cynnwys da, hygyrch sy'n diwallu anghenion defnyddwyr ar draws gwahanol blatfformau a sianeli
- Y camau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu cynnwys ar gyfer testun, cyfryngau graffigol a sain a sut i'w cymhwyso
- Yr offer a'r technegau a ddefnyddir i gyflunio testun, golygu delweddau, html a dylunio rhaglenni symudol
- Sut i weithio gyda systemau safonol y diwydiant ar gyfer rheoli a chyhoeddi cynnwys
- Yr ystod o wahanol ddefnyddwyr a allai gael mynediad at gynnwys a gwasanaethau a sut i nodi eu hanghenion
- Safonau’r diwydiant ar gyfer dylunio cynnwys a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We (WCAG), a sut i gydymffurfio â nhw
- Sut i drosi straeon defnyddwyr i lywio'r gwaith o ddylunio cynnwys
- Sut mae dyluniad y cynnwys yn gweithio i wahanol gymunedau o ddefnyddwyr
- Sut i gyhoeddi a rheoli cynnwys sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- Egwyddorion dylunio gwasanaethau, ymchwil UX ac ymchwil ddylunio UX
- Offer safonol y diwydiant a sut i'w ddefnyddio
- Pam mae rheoli cylch bywyd cynnwys yn bwysig ar gyfer dylunio a chreu cynnwys
- Y camau sy'n gysylltiedig â chreu cynnwys, o'r cam darganfod i'r cam cynhyrchu, a sut i'w cymhwyso
- Sut i ddehongli a chymhwyso canllawiau dylunio gweledol a brandio yn gyson ar gyfer dylunio a chreu cynnwys
- Sut i ddefnyddio prototeipiau ffyddlondeb sylfaenol a thra chywir i roi cynnwys yn ei gyd-destun
- Pwysigrwydd ysgrifennu cynnwys mewn iaith glir ac mewn ffordd y gall defnyddwyr ei ddeall yn rhwydd
- Sut i weithio gyda rhanddeiliaid ar draws y sefydliad i'w helpu i ddeall cynnwys a sut y gall cynnwys o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr wella'r gwasanaethau a ddarperir
- Y camau sy'n gysylltiedig â gweithdrefnau cymeradwyo cynnwys a sut i'w cymhwyso
- Sut i fonitro perfformiad cynnwys i nodi gwelliannau i brofiadau defnyddwyr