Gwerthuso canfyddiadau ymchwil am brofiad defnyddwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â gwerthuso canfyddiadau ymchwil Profiad Defnyddwyr (UX).
Mae dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) yn broses ddylunio ailadroddol sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr a'u hanghenion. Mae'n llywio'r gwaith o ddylunio neu ailgynllunio cynhyrchion neu wasanaethau i alluogi defnyddwyr i gymryd rhan lawn er mwyn cyflawni eu nodau gan roi profiad cadarnhaol i ddefnyddwyr. Ym mhroses UCD, mae timau dylunio yn cynnwys defnyddwyr drwy gydol y broses ddylunio. Gwneir hyn i ddatblygu mewnwelediadau ymchwil UX i lywio dyluniad y broses ryngweithio a sut y dylunnir teithiau gwasanaeth gan ddefnyddio dulliau dylunio cynhwysol a hygyrch.
Mae gwerthuso canfyddiadau ymchwil UX yn cynnwys coladu a threfnu data ymchwil UX, cymhwyso offer i ddadansoddi deilliannau i gael mewnwelediadau, cymryd camau ar sail canlyniadau ymchwil UX i flaenoriaethu materion, a nodi gwelliannau UX. Mae hyn yn cynnwys dangos sut mae disgwyliadau defnyddwyr yn esblygu ac argymell newidiadau i wella profiad y defnyddiwr.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen gwerthuso canfyddiadau ymchwil UX yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Pennu'r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio i ddadansoddi data am brofiad y defnyddiwr
- Cynllunio dadansoddiad darganfod UX i gynhyrchu mewnwelediadau newydd
- Casglu data meintiol ac ansoddol o ymchwil UX i gynnal dadansoddiad
- Trefnu a strwythuro canfyddiadau a ddaw i'r amlwg wrth ddadansoddi profiad defnyddwyr i gynnal cofnodion y gellir eu harchwilio
- Dadansoddi data am ganfyddiadau ymchwil UX i nodi tueddiadau a phatrymau a llywio dealltwriaeth y gellir cymryd camau ar ei sail
- Paratoi straeon defnyddwyr i lywio mewnwelediadau UX
- Cyfosod a chyflwyno canfyddiadau ymchwil defnyddwyr mewn ffordd greadigol, glir a rhesymegol sy'n hawdd i gydweithwyr ei dehongli
- Datrys gwrthdaro posibl rhwng gofynion defnyddwyr a nodwyd i ddilysu manylebau gofynion
- Datblygu offer, technegau a safonau dadansoddi UX yn rhan o fframwaith y sefydliad ar gyfer dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- Paratoi adroddiadau am ganfyddiadau UX i nodi mewnwelediadau ac argymhellion y gellir eu gweithredu
- Rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol i ategu'r mewnwelediadau UX a gynhyrchir
- Cyfleu canlyniadau dadansoddiad ymchwil UX ac argymhellion i randdeiliaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i gynllunio dadansoddiad o ganlyniadau ymchwil UX
- Sut i ddadansoddi data ymchwil UX ansoddol a meintiol
- Sut i drefnu a rheoli data ymchwil UX gan ddefnyddio systemau storio safonol neu blatfform ymchwil UX pwrpasol i gynnal cofnodion y gellir eu harchwilio
- Pwysigrwydd cynnal llwybrau archwilio a ddaw o fewnwelediadau ac argymhellion i ddod o hyd i ffynonellau'r adborth a ddarperir gan ddefnyddwyr
- Sut i gyfosod a chyflwyno data ymchwil UX mewn fformatau hawdd eu dehongli
- Sut i greu darlun cyfoethog o ddefnyddwyr a'u gofynion
- Offer a dulliau ymchwil UX safonol y diwydiant a sut mae'r rhain yn cael eu cymhwyso
- Arferion a safonau sefydliadol o ran defnyddioldeb a hygyrchedd
- Sut i gymhwyso canfyddiadau ymchwil UX wrth bob cam dylunio, o ddarganfod i Alpha, Beta, a Live
- Cryfderau a chyfyngiadau gwahanol ddulliau ymchwil UX, gan gynnwys rhai meintiol ac ansoddol, a sut i'w defnyddio'n briodol
- Sut i baratoi straeon defnyddwyr
- Sut i gymhwyso canllawiau hygyrchedd i ganfyddiadau ymchwil UX
- Y camau sy'n gysylltiedig â rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol ynghylch dadansoddiad a mewnwelediad ymchwil UX
- Sut i gynhyrchu canlyniadau ac argymhellion dadansoddiad ymchwil UX
- Sut i gyfleu canlyniadau dadansoddiad ac argymhellion ymchwil UX i randdeiliaid ar bob lefel