Cynnal aseiniadau ymchwil i brofiad defnyddwyr

URN: TECDT130141
Sectorau Busnes (Suites): Gweithiwr TG a Thelathrebu Proffesiynol (procom)
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â chynnal aseiniadau ymchwil i Brofiad Defnyddwyr (UX).
Mae dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) yn broses ddylunio ailadroddol sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr a'u hanghenion. Mae'n llywio'r gwaith o ddylunio neu ailgynllunio cynhyrchion neu wasanaethau drwy ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o bwy fydd yn defnyddio'r system a sut y byddant yn rhyngweithio â hi. Ym mhroses UCD, mae timau dylunio yn cynnwys defnyddwyr drwy gydol y broses ddylunio. Gwneir hyn i ddatblygu mewnwelediadau UX i lywio dyluniad y broses ryngweithio a sut y dylunnir teithiau gwasanaeth gan ddefnyddio dulliau dylunio cynhwysol a hygyrch.
Mae cynnal ymchwil i ddefnyddwyr yn cynnwys cynllunio gweithgareddau ymchwil UX, dewis dulliau ymchwil UX, nodi'r nifer a'r mathau o ddefnyddwyr sy'n dylunio a threialu cwestiynau ymchwil UX, a threfnu sesiynau ymchwil UX. Mae hyn hefyd yn cynnwys drafftio canllawiau trafod a pharatoi deunyddiau ysgogi ar gyfer sesiynau ymchwil UX, datblygu rhestrau gwirio i arwain sesiynau, arwain sesiynau ymchwil UX a chofnodi adborth.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen cynnal aseiniadau ymchwil UX yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gweithio gyda rhanddeiliaid i gytuno ar flaenoriaethau, amcanion ac amserlenni ymchwil UX
  2. Dewis dulliau darganfod ymchwil UX i gofnodi adborth defnyddwyr yn unol â gofynion sefydliadol
  3. Cynllunio aseiniadau ymchwil UX i nodi gofynion o ran adnoddau ac amserlennu gweithgareddau
  4. Diffinio'r meini prawf a ddefnyddir i ddewis defnyddwyr ar gyfer sesiynau darganfod ymchwil UX
  5. Nodi'r nifer a'r mathau o ddefnyddwyr ar gyfer defnydd achos UX i lywio maint y sampl a ddewisir
  6. Dewis y grŵp sampl o ddefnyddwyr i gynnal sesiynau darganfod ymchwil UX
  7. Dylunio cwestiynau ymchwil UX i fod yn berthnasol ac yn ymarferol i'w profi gan ddefnyddwyr
  8. Paratoi deunyddiau ysgogi a'r cynhyrchion neu'r prototeipiau i'w profi yn ystod sesiynau ymchwil UX
  9. Rhoi cyfarwyddiadau syml a chlir ar gyfer profi gan ddefnyddwyr i arwain sut mae'r defnyddwyr yn cymryd rhan
  10. Treialu cwestiynau ymchwil ar gyfer profion gan ddefnyddwyr a'r cyfarwyddiadau ar eu cyfer ar gynulleidfa brawf fel bod defnyddwyr yn ymgysylltu'n well mewn profion byw
  11. Adolygu cwestiynau ymchwil UX i ymgorffori adborth a dileu rhagfarn mewn fersiynau terfynol
  12. Cysylltu â defnyddwyr i gynllunio sesiynau ymchwil UX
  13. Arwain sesiynau ymchwil UX er mwyn ymgysylltu â defnyddwyr ac arwain cwestiynu ymchwil i gasglu adborth defnyddwyr
  14. Dogfennu deilliannau ac adborth o ymchwil UX i fodloni gofynion rhanddeiliaid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Beth yw ystyr profiad y defnyddiwr (UX), ymchwil UX a phrofi gan ddefnyddwyr
  2. Pam mae dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn bwysig i sefydliadau a sut mae ymchwil UX yn cyfrannu ato
  3. Dulliau profi gan ddefnyddwyr safonol y diwydiant ar gyfer gwefannau, apiau a phrototeipiau, pryd i'w defnyddio a sut i'w cymhwyso'n gywir
  4. Pwy yw'r rhanddeiliaid a'u gofynion ar gyfer profion gan ddefnyddwyr a deilliannau ymchwil UX
  5. Sut i weithio gyda rhanddeiliaid i gytuno ar nodau, blaenoriaethau ac amserlenni ymchwil UX
  6. Sut i ddiffinio'r parth problem UX i'w datrys
  7. Y camau sy'n gysylltiedig â chynllunio aseiniadau ymchwil UX a phrofion gan ddefnyddwyr a sut i'w cymhwyso
  8. Dulliau ymchwil UX ansoddol a meintiol safonol y diwydiant gan gynnwys profi defnyddioldeb, cyfweld, holiaduron, ymchwil mewn mannau dros dro, a didoli cardiau a sut i'w cymhwyso
  9. Y gwahaniaeth rhwng dulliau 'wedi'u cymedrol' neu 'heb eu cymedroli' o brofi gan ddefnyddwyr
  10. Sut i ddewis ac alinio gweithgareddau ymchwil UX i lywio penderfyniadau a chamau gweithredu wrth ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  11. Offer a phlatfformau profi UX safonol y diwydiant a sut i'w defnyddio
  12. Pwysigrwydd gwybod beth yw disgwyliadau defnyddwyr a chytuno arnynt
  13. Sut i ddylunio cwestiynau ymchwil UX a gweld a oes rhagfarn
  14. Sut i gynnal sesiwn dreialu i wella ymgysylltiad â defnyddwyr ac effeithiolrwydd sesiynau ymchwil UX
  15. Sut i ymgysylltu'n effeithiol ag ystod eang o ddefnyddwyr
  16. Y camau sy'n gysylltiedig ag arwain sesiwn ymchwil UX a sut i'w cymhwyso
  17. Camau cwestiynu ymchwil UX a sut i'w cymhwyso
  18. Sut i ddogfennu deilliannau ymchwil UX

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECDT130141

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Proffesiynol

Cod SOC

2141

Geiriau Allweddol

Ymchwil defnyddwyr, dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, profiad y defnyddiwr (UX)