Arwain gweithgareddau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr

URN: TECDT120151
Sectorau Busnes (Suites): Gweithiwr TG a Thelathrebu Proffesiynol (procom)
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg

Mae'r safon hon yn gysylltiedig ag arwain gweithgareddau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Mae dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) yn broses ddylunio ailadroddol sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr a'u hanghenion. Mae'n llywio'r gwaith o ddylunio neu ailgynllunio cynhyrchion neu wasanaethau i alluogi defnyddwyr i gymryd rhan lawn er mwyn cyflawni eu nodau gan roi profiad cadarnhaol i ddefnyddwyr. Ym mhroses UCD, mae timau dylunio yn cynnwys defnyddwyr drwy gydol y broses ddylunio. Gwneir hyn i ddatblygu mewnwelediadau Profiad Defnyddwyr (UX) i lywio dyluniad y broses ryngweithio a sut y dylunnir teithiau gwasanaeth gan ddefnyddio dulliau dylunio cynhwysol a hygyrch.
Mae arwain gweithgareddau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn cynnwys meithrin gallu, gwybodaeth, talent ac arbenigedd o fewn y tîm sy'n cyflwyno ymchwil UX. Mae hefyd yn cynnwys dadansoddi'r canfyddiadau, cynnal dyluniad UX, creu cynnwys ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau digidol, ac yn cyflawni aseiniadau dylunio gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys adeiladu timau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i arwain ymchwil UX. Y nod yw cynhyrchu mewnwelediadau gweithredadwy sy'n llywio'r gwaith o ddylunio cynhyrchion a gwasanaethau ar bob cam o'u datblygiad, gan weithio i gynnal yr egwyddorion dylunio sylfaenol o gael eich arwain gan ddefnyddwyr wrth ddylunio gwasanaethau a chynhyrchion.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai y mae angen iddynt arwain gweithgareddau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cydweithio â rhanddeiliaid i sicrhau bod y strategaeth ar gyfer arferion ymchwil UX yn cyd-fynd â blaenoriaethau sefydliadol
  2. Creu a chynnal y cynllun strategol a'r map ffordd a flaenoriaethir ar gyfer datblygu galluoedd dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn y sefydliad
  3. Paratoi safonau a chanllawiau i gefnogi datblygiad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  4. Lledaenu safonau sefydliadol ar gyfer dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i annog timau dylunio i'w mabwysiadu
  5. Cynnal safonau dylunio sefydliadol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn unol ag arferion gorau'r diwydiant
  6. Adeiladu tîm o ymarferwyr dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr gyda rolau a llwybrau gyrfa clir a ategir gan gynlluniau dysgu a datblygu strwythuredig
  7. Diffinio metrigau perfformiad dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i fonitro perfformiad gwasanaeth
  8. Paratoi adroddiadau rheoli, dadansoddiadau a mewnwelediadau ar gyfer galluoedd dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn unol â gofynion sefydliadol
  9. Bod yn llysgennad ar gyfer datblygiad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr fel galluogwr allweddol ar gyfer trawsnewid digidol, gan hyfforddi timau ar draws y sefydliad ar sut i gyflawni hyn yn effeithiol
  10. Nodi bylchau sgiliau a chyfleoedd i ddatblygu ar gyfer timau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i wella galluoedd perfformio yn barhaus
  11. Diffinio detholiad y sefydliad o'r offer, technegau, platfformau a thechnolegau sydd eu hangen i alluogi darpariaeth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar draws ymchwil UX a dadansoddi mewnwelediadau, dylunio UX, creu cynnwys a dylunio gwasanaethau
  12. Darparu canllawiau cyson o ran arddull a phatrymau dylunio ar draws dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i wneud cynnwys yn gyson ar draws gwasanaethau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Pam mae dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn bwysig i sefydliadau a sut mae ymchwil UX, dylunio UX, creu cynnwys a dylunio gwasanaethau yn cyfrannu ato
  2. Sut i eirioli dros ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar draws y sefydliad a sicrhau ymrwymiad sefydliadol i gynnwys defnyddwyr wrth lywio ymchwil UX
  3. Sut i gynllunio a llywio gweithgareddau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan roi cyngor ac arweiniad arbenigol i gefnogi'r gwaith o fabwysiadu dulliau sefydliadol y cytunwyd arnynt
  4. Sut i sicrhau bod mannau cyswllt system y mae defnyddwyr yn rhyngweithio â nhw yn rhan o brofiad cydlynol a chyson
  5. Sut i hyrwyddo hygyrchedd a defnyddioldeb ar gyfer gwasanaethau a chynhyrchion sefydliadol, gan godi ymwybyddiaeth ohonynt a sicrhau bod y rhai sy'n gysylltiedig â'u dylunio a'u darparu yn mabwysiadu dulliau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  6. Y camau sy'n gysylltiedig â nodi anghenion rhanddeiliaid technegol a busnes, a sut i ddehongli rhyngddynt
  7. Sut i drosi cysyniadau technegol yn iaith a dealltwriaeth annhechnegol i hysbysu a diweddaru rhanddeiliaid ar gyflwyno dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar draws y sefydliad
  8. Sut i weithio gyda nifer o randdeiliaid ar bob lefel i ddeall gofynion dylunio manwl sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i ddylunio profiadau cadarnhaol i ddefnyddwyr
  9. Y camau sy'n gysylltiedig â gwella hygyrchedd systemau presennol ac etifeddol a sut i'w cymhwyso
  10. Sut i ddatblygu a rhoi polisïau, safonau, dulliau a chanllawiau sefydliadol ar waith ar gyfer gweithgareddau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  11. Sut i alinio gweithgareddau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr â strategaeth ac amcanion sefydliadol ar draws y sefydliad
  12. Dulliau, offer a thechnegau dylunio safonol y diwydiant sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a sut i'w cymhwyso
  13. Technolegau safonol y diwydiant a ddefnyddir i adeiladu gwasanaethau digidol a'u gweithredu
  14. Sut i gydweithio’n agos â chydweithwyr mewn gwahanol ddisgyblaethau digidol (gan gynnwys pensaernïaeth, dylunio, data datblygu meddalwedd, cyflwyno gwasanaethau a gweithrediadau)
  15. Sut i gyfosod ymchwil UX, datblygu mewnwelediadau a chyflwyno casgliadau i lywio penderfyniadau a gyrru camau gweithredu
  16. Sut i ddatblygu mapiau ffordd, achosion busnes a metrigau perfformiad ar gyfer gweithgareddau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  17. Sut i ddatblygu neu ddod o hyd i adnoddau a galluoedd sefydliadol i hwyluso'r gwaith o fabwysiadu gweithgareddau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a manteisio'n llawn arnynt
  18. Sut i sefydlu a rhedeg cymuned ymarfer ar gyfer dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, datblygu pobl a gosod safon gyson gref ar gyfer ymchwil UX, dylunio UX, creu cynnwys ac arferion dylunio gwasanaethau
  19. Sut i gefnogi datblygiad aelodau tîm ar bob lefel, gan gynnwys aelodau staff iau, drwy gysgodi, hyfforddi a mentora yn ogystal â thrwy reoli llinell ffurfiol a dadansoddi anghenion hyfforddi

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECDT120151

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Proffesiynol

Cod SOC

2141

Geiriau Allweddol

Ymchwil defnyddwyr, dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, profiad y defnyddiwr (UX)