Arsylwi ac adrodd ar berfformiad disgyblion

URN: TDASTL9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon? 
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cyfrannu at asesu disgyblion gan athrawon. Mae'n golygu gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro i arsylwi perfformiad disgyblion a rhoi gwybod i’r athro am ganlyniadau'r sylwadau.
 
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud ag arsylwi disgyblion yn systematig, ac adrodd arnynt, er mwyn casglu tystiolaeth o'u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau. Ar sail y rhain y mae'r athro'n llunio barn arnynt ar eu cam datblygu.
 
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:

  1. Arsylwi perfformiad disgyblion
  2. Adrodd ar berfformiad disgyblion.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Arsylwi perfformiad disgyblion
P1 egluro a chadarnhau’r canlynol gyda'r athro:
P1.1 y rhesymau dros arsylwi perfformiad disgyblion a’r amcanion
P1.2  pa ddisgyblion fydd yn cael eu harsylwi
P1.3 y dulliau arsylwi i'w defnyddio
P1.4 pa dasgau a gweithgareddau fydd yn cael eu defnyddio i arsylwi perfformiad y disgyblion
P2 sefydlu a chynnal perthynas â'r disgyblion a defnyddio dulliau arsylwi yn briodol, i gynyddu cydweithrediad y disgyblion i'r eithaf
P3 trefnu'r amgylchedd ac amgylchiadau eraill o fewn cyfnodau arsylwi i dynnu sylw ac ymyrryd cyn lleied â phosibl
P4 defnyddio technegau hwyluso sy'n cyd-fynd ag amcanion yr arsylwadau
P5 cynnal arsylwadau a recordiadau yn anymwthiol gan aflonyddu cyn lleied â phosibl ar batrymau ymddygiad naturiol y disgyblion
P6 cwblhau recordiadau o arsylwadau yn brydlon, yn gywir ac yn ddarllenadwy yn y fformat gofynnol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 yr egwyddorion sylfaenol o sut mae plant a phobl ifanc yn datblygu
K2 yr ystod o ymddygiadau y gellid eu disgwyl o oedran a cham datblygiad y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K3 sut i gofnodi nodweddion y cyd-destun a'r ymddygiadau o dasgau penodol wrth wneud arsylwadau o berfformiad disgyblion ar dasgau a gweithgareddau penodol, a pham gwneud hynny
K4 beth allai dynnu sylw neu darfu yn ystod arsylwadau disgyblion a sut i’w lleihau
K5 sut i deilwra cyfarwyddiadau a cheisiadau i ddisgyblion i gyd-fynd â'u hoedran a'u cam datblygu
K6 cysyniadau sylfaenol dibynadwyedd, dilysrwydd a goddrychedd arsylwadau
K7 y gwahanol rolau y gallai arsylwyr eu chwarae wrth alluogi disgyblion i ddangos eu potensial llawn
K8 dylanwadau diwylliannol, cymdeithasol a rhywedd posibl ar ymatebion disgyblion wrth gael eu harsylwi
K9 y protocolau i'w cynnal wrth arsylwi disgyblion
K10 sut i grynhoi a chyflwyno gwybodaeth o arsylwadau perfformiad disgyblion
K11 pwysigrwydd cyfrinachedd, diogelu data a rhannu gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau eich lleoliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Technegau hwyluso
y dulliau a ddefnyddir i annog disgyblion i gymryd rhan lawn mewn tasgau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i ennyn yr ymddygiadau priodol, e.e. ysgogi, cwestiynu, awgrymu gweithgareddau.



Fformatau
y ffordd y mae canlyniadau arsylwadau yn cael eu cofnodi a'u cyflwyno. Gallai'r fformat a ddefnyddir gael ei ddylunio i roi gwybodaeth unwaith sy'n benodol i'r amcanion arsylwi penodol neu gallai fod yn rhan o system barhaus a bennir gan yr athro, neu bolisi a gweithdrefnau ysgol ar gyfer monitro perfformiad disgyblion. Gallai'r fformatau a ddefnyddir gynnwys:

  1. disgrifiad rhydd o berfformiad disgyblion
  2. disgrifiad strwythuredig o berfformiad disgyblion yn erbyn penawdau y cytunwyd arnynt neu mewn ymateb i gwestiynau a bennwyd ymlaen llaw
  3. rhestr wirio o ymddygiadau disgwyliedig
  4. ffurflenni/cofnodion penodol a bennir gan yr athro a/neu bolisi a gweithdrefnau’r ysgol.

Arsylwadau
gwylio'r disgyblion mewn modd systematig yn ymgymryd â thasgau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i ennyn ymddygiadau penodol. Gellir cynnal arsylwadau ar:

  1. ddisgyblion unigol yn gweithio ar eu pennau eu hunain
  2. disgyblion unigol yn gweithio’n rhan o grŵp
  3. grwpiau o ddisgyblion yn gweithio gyda'i gilydd.



Perfformiad
sgiliau ac ymddygiad y disgyblion i'w harsylwi, er enghraifft:

  1. sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, e.e. sut maent yn uniaethu ag eraill ac yn ymateb iddyn nhw
  2. sgiliau iaith a chyfathrebu, e.e. sut maent yn defnyddio ac yn deall strwythurau a geirfa iaith
  3. sgiliau deallusol a gwybyddol, e.e. sut maent yn dehongli ac yn cymhwyso cysyniadau a gwybodaeth
  4. galluoedd a sgiliau corfforol, e.e. pa mor dda y gallant drin gwrthrychau.



Tasgau a gweithgareddau y pethau y gofynnir i'r disgyblion eu gwneud er mwyn i chi allu arsylwi ar eu perfformiad. Gallai'r tasgau a'r gweithgareddau a ddefnyddir ar gyfer arsylwi gynnwys:

  1. gweithgareddau dysgu arferol
  2. eitemau prawf ffurfiol i'w gweinyddu mewn ffordd reoledig
  3. cyflwyno tasg benodol drwy roi cyfarwyddiadau llafar fel "tynnwch lun o ddyn/menyw", "mesurwch uchder y cwpwrdd", "ciciwch y bêl".

Dolenni I NOS Eraill

TDASTL2 Cynorthwyo datblygiad plant
TDASTL29 Arsylwi a hyrwyddo perfformiad a datblygiad disgyblion


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

STL9

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

mathemateg, cynllunio, paratoi, adnoddau, deilliannau, rhif, siâp, dulliau mesur, trin data, datrys problemau, symbolau, diagramau, gweithgareddau