Defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i gynorthwyo dysgu disgyblion

URN: TDASTL8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon? 
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio o dan gyfarwyddyd athro i gynorthwyo dysgu disgyblion gan ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).
 
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â defnyddio TGCh i hyrwyddo dysgu disgyblion. Mae'n cynnwys paratoi ar gyfer defnyddio TGCh o fewn y rhaglen addysgu a dysgu, cynorthwyo disgyblion i ddefnyddio adnoddau TGCh, a gwerthuso effeithiolrwydd TGCh wrth hyrwyddo dysgu disgyblion.
 
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:

  1. Paratoi ar gyfer defnyddio TGCh i gynorthwyo dysgu disgyblion
  2. Cynorthwyo dysgu disgyblion drwy TGCh.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi ar gyfer defnyddio TGCh i gynorthwyo dysgu disgyblion
P1 nodi a chytuno gyda'r athro y cyfleoedd i ddefnyddio TGCh i gynorthwyo dysgu disgyblion yn y rhaglen addysgu gyffredinol
P2 trafod a chytuno gyda'r athro y meini prawf ar gyfer adnoddau TGCh i wneud yn siŵr eu bod yn briodol ar gyfer yr holl ddisgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
P3 archwilio a gwerthuso’r adnoddau TGCh sydd ar gael ac ystyried sut y gellir eu hintegreiddio’n rhan o’r rhaglen addysgu a dysgu a gynlluniwyd
P4 cynllunio i ddefnyddio TGCh i gynorthwyo dysgu mewn ffyrdd sy'n ysgogi disgyblion ac yn rhoi pleser iddynt, yn ôl eu hoedran, eu hanghenion a'u galluoedd.
P5 nodi ffynonellau deunyddiau TGCh sy'n diwallu anghenion y disgyblion a'r rhaglen addysgu a dysgu
P6 gwneud yn siŵr bod ystod o ddeunyddiau TGCh ar gael sy'n diwallu anghenion pob disgybl, gan gynnwys y rhai ag anawsterau dysgu, disgyblion dwyieithog a disgyblion dawnus a thalentog
P7 addasu deunyddiau TGCh yn ôl yr angen i ddiwallu anghenion dysgu ac i gyd-fynd ag oedran, diddordebau a galluoedd disgyblion o fewn cytundebau hawlfraint a thrwydded
P8 trafod a chytuno gyda'r athro sut bydd cynnydd disgyblion yn cael ei asesu a'i gofnodi 

Cynorthwyo dysgu disgyblion drwy TGCh
P9 gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd dysgu yn diwallu gofynion perthnasol o ran iechyd, diogelwch, diogeledd a mynediad
P10 integreiddio TGCh yn rhan o weithgareddau dysgu, gan roi’r cymorth sy’n ofynnol i oedolion
P11 cynnwys disgyblion mewn gweithgareddau TGCh drwy roi cyfleoedd a heriau diddorol ac ysgogol
P12 rhoi amser i ddisgyblion archwilio a dod yn gyfarwydd â gweithgareddau TGCh a chyfarpar
P13 annog disgyblion i ddefnyddio TGCh i ddatrys problemau, cydweithio a dod o hyd i rywbeth newydd
P14 cynorthwyo disgyblion i ddefnyddio deunyddiau ac adnoddau TGCh yn effeithiol i wella eu dysgu
P15 gwneud yn siŵr bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddarpariaeth TGCh, ac annog y rhai a allai fod yn amharod i gymryd rhan
P16 monitro sut mae disgyblion yn ymateb i raglenni TGCh a deunyddiau i wneud yn siŵr bod y rhaglenni a'r deunydd yn cyd-fynd â galluoedd ac arddulliau dysgu'r disgyblion
P17 monitro a gwneud penderfyniadau ynghylch sut mae disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a’u cynnydd
P18 addasu dulliau addysgu a/neu ddysgu, os oes angen, er mwyn gwneud yn siŵr bod disgyblion yn parhau i gymryd rhan a chael eu cynnwys mewn gweithgareddau a gynllunnir, ac elwa ohonynt.
P19 cymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau wrth gynorthwyo disgyblion sy'n defnyddio TGCh
P20 gwerthuso a rhoi adborth i bobl berthnasol ynghylch:
P20.1 sut mae’r disgyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd
P20.2 effeithiolrwydd TGCh wrth gynorthwyo dysgu disgyblion
P20.3 effeithiolrwydd rhaglenni a deunyddiau TGCh wrth ddiwallu amcanion dysgu disgyblion ag ystod amrywiol o anghenion a galluoedd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 polisi TGCh yr ysgol
K2 y manteision dysgu posibl a ddaw yn sgil defnyddio TGCh mewn gwahanol ffyrdd i gynorthwyo dysgu
K3 sut mae darpariaeth TGCh o ansawdd da yn hyrwyddo datblygiad corfforol, creadigol, cymdeithasol ac emosiynol a chyfathrebu disgyblion ochr yn ochr â'u meddwl a'u dysgu
K4 y cwricwlwm ysgol perthnasol a'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig ag oedran disgyblion yn y pwnc/maes cwricwlwm ac ystod oedran y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K5 y cyfraniad y gall TGCh ei wneud i gyflawni'r amcanion addysgu a dysgu a gynlluniwyd
K6 ffyrdd o ddewis adnoddau TGCh o ansawdd da sy'n annog dysgu cadarnhaol i ddisgyblion drwy gymhwyso meini prawf dethol, e.e. caniatáu i'r disgybl fod mewn rheolaeth, yn cynnig mwy nag un ateb, nid yn dreisgar neu'n ystrydebol, yn ysgogi diddordebau disgyblion
K7 ystod y deunyddiau TGCh o wahanol ffynonellau
K8 sut i nodi manteision deunyddiau TGCh a ffynonellau gwybodaeth a chyngor
K9 polisi a gweithdrefnau'r ysgol ar gyfer cael gafael ar raglenni a deunyddiau TGCh, eu haddasu a’u defnyddio
K20 materion diogelu i ddisgyblion sy'n defnyddio'r rhyngrwyd
K21 sut mae disgyblion yn defnyddio TGCh fel offeryn i gynorthwyo dysgu mewn llawer o feysydd cwricwlwm ac wrth wneud hyn yr hyn y maent yn ei ddysgu am TGCh fel pwnc ynddo'i hun
K22 sut i ddewis a defnyddio dulliau addysgu a dysgu priodol i ddatblygu sgiliau TGCh disgyblion a gwella dulliau addysgu a dysgu pwnc
K23 y mathau o gymorth a allai fod eu hangen ar ddisgyblion i ddefnyddio TGCh yn effeithiol a sut i roi'r cymorth hwn
K24 y pwysigrwydd bod disgyblion yn cael amser i archwilio a dod yn gyfarwydd â gweithgareddau TGCh a chyfarpar
K25 sut y gall defnyddio TGCh fod o gymorth i roi polisïau ac arferion cyfle cyfartal, cynhwysiant ac ehangu cyfranogiad ar waith
K26 sut i fonitro a hyrwyddo sut mae disgbyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd mewn dysgu drwy TGCh
K27 y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth gynorthwyo disgyblion i ddefnyddio TG a sut i ddelio â'r rhain
K28 sut i werthuso effeithiolrwydd a pha mor addas yw adnoddau a deunyddiau TGCh i hyrwyddo dysgu disgyblion
K29 adnoddau ar-lein ac all-lein defnyddiol sy'n cynorthwyo’r defnydd priodol o TGCh
K30 o ystyried bod TGCh yn faes sy'n datblygu ac yn newid yn gyflym, sut byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi'r cymorth a'r cyfleoedd gorau i ddysgu disgyblion drwy TGCh


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mynediad cyfartal
gwneud yn siŵr bod rhwystrau gwahaniaethol i fynediad yn cael eu dileu gan ystyried anghenion unigol disgyblion o ran mynediad i TGCh, e.e. cymryd camau i wneud yn siŵr bod genethod yn cymryd rhan yn gyfartal gyda bechgyn.



Adnoddau TGCh
ystod o weithgareddau, cyfarpar a dyfeisiau technolegol gwahanol, megis teganau rhaglenadwy, ffonau, fideos, amseryddion, allweddellau, bysellbadau, cyfrifiaduron, meddalwedd, camerâu digidol, byrddau gwyn rhyngweithiol. Mae'r defnydd o dechnolegau dysgu mewn ysgolion yn newid yn gyflym a bwriedir i'r safonau hyn gwmpasu technolegau newydd a’r rhai sy'n dod i'r amlwg wrth iddynt ddod ar gael.



Pobl berthnasol
pobl sydd ag angen a’r hawl i gael gwybodaeth am sut mae disgyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd. Bydd hyn yn cynnwys yr athro sy'n gyfrifol am y disgyblion ond gall gynnwys eraill hefyd, megis arweinwyr ysgolion, staff cymorth eraill, cydlynydd TGCh a/neu hyfforddwr. Rhaid cadw at bolisi cyfrinachedd yr ysgol bob amser wrth rannu gwybodaeth.



Defnyddio TGCh gan gynnwys:

  1. i ddatblygu sgiliau TGCh y disgyblion
  2. i wella dulliau addysgu a dysgu pwnc.

Dolenni I NOS Eraill

TDASTL1 Rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau dysgu
TDASTL7 Cynorthwyo'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn yr ystafell ddosbarth
TDASTL18 Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion
TDASTL23 Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu o dan gyfarwyddyd athro
TDASTL24 Cyfrannu at gynllunio a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu



Mae sgiliau TG personol yn cael eu cynnwys yn y safonau galwedigaethol cenedlaethol perthnasol ar gyfer cynorthwyo addysgu a dysgu mewn ysgolion a gellir eu cyflawni hefyd drwy safonau a chymwysterau Defnyddwyr TG, neu sgiliau allweddol a chraidd mewn technoleg gwybodaeth fel y bo'n briodol.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

STL8

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

mathemateg, cynllunio, paratoi, adnoddau, deilliannau, rhif, siâp, dulliau mesur, trin data, datrys problemau, symbolau, diagramau, gweithgareddau