Cynorthwyo'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu ar gyfer addysgu a dysgu
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n helpu i sefydlu a defnyddio adnoddau TGCh i gynorthwyo addysgu a dysgu.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â gwneud yn siŵr bod adnoddau TGCh ar gael ac yn barod i'w defnyddio pan fo angen a helpu'r athro a/neu'r disgyblion i ddefnyddio'r adnoddau yn ddiogel ac yn effeithiol.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Paratoi adnoddau TGCh i'w defnyddio mewn addysgu a dysgu
- Cynorthwyo'r defnydd o adnoddau TGCh ar gyfer addysgu a dysgu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi adnoddau TGCh i'w defnyddio mewn addysgu a dysgu
P1 cadarnhau'r gofynion ar gyfer adnoddau TGCh gyda'r athro
P2 gwirio bod yr adnoddau TGCh gofynnol ar gael a rhoi gwybod
i’r athro yn brydlon am unrhyw broblemau o ran cael yr adnoddau sydd eu hangen
P3 dilyn y cyfarwyddiadau diogelwch a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar gyfer sefydlu adnoddau TGCh
P4 gwneud yn siŵr bod ategolion, nwyddau traul a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddefnyddio adnoddau TGCh yn effeithiol ar gael yn ddiffwdan
P5 cadarnhau bod y cyfarpar TGCh a'r feddalwedd yn briodol i’r disgyblion
P6 gwirio bod y cyfarpar yn cael ei droi ymlaen, yn barod ac yn ddiogel i'w ddefnyddio pan fo angen
P7 gwirio a chynnal dyfeisiau sgrinio i atal mynediad i ddeunydd anaddas drwy'r rhyngrwyd pan fo'n briodol
P8 rhoi gwybod yn brydlon am unrhyw ddiffygion o ran adnoddau TGCh i'r athro a'r person sy'n gyfrifol am drefnu gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio
P9 gwneud yn siŵr bod unrhyw gyfarpar diffygiol yn cael ei roi ar wahân i ffynhonnell bŵer, wedi'i labelu'n briodol a'i wneud yn ddiogel.
Cynorthwyo'r defnydd o adnoddau TGCh ar gyfer addysgu a dysgu
P10 rhoi adnoddau TGCh ar waith yn gywir ac yn ddiogel pan ofynnir iddynt wneud hynny
P11 rhoi arweiniad a chyfarwyddiadau clir i eraill ar ddefnyddio adnoddau TGCh
P12 rhoi cymorth yn ôl yr angen i helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau wrth ddefnyddio TGCh
P13 rhoi lefel briodol o gymorth i alluogi'r disgyblion i gael ymdeimlad o gyflawniad, cynnal hunan-barch a hunanhyder ac annog sgiliau hunangymorth wrth ddefnyddio TGCh
P14 monitro'r defnydd diogel o adnoddau TGCh, gan gynnwys mynediad i'r rhyngrwyd, ac ymyrryd yn brydlon lle gall gweithredoedd fod yn beryglus
P15 gwirio’n rheolaidd bod cyfarpar yn gweithio'n iawn a rhoi gwybod i'r person priodol am unrhyw ddiffygion yn brydlon
P16 defnyddio ategolion a nwyddau traul cymeradwy yn unig
P17 gwneud yn siŵr bod adnoddau TGCh yn cael eu gadael mewn cyflwr diogel ar ôl eu defnyddio
P18 gwneud yn siŵr bod adnoddau TGCh yn cael eu storio'n ddiogel ar ôl eu defnyddio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 y manteision dysgu posibl o ddefnyddio TGCh mewn gwahanol ffyrdd i gynorthwyo dysgu
K2 y mathau o adnoddau TGCh sydd ar gael yn yr ysgol a lle maent yn cael eu cadw
K3 gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer llogi neu ddyrannu adnoddau TGCh i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth
K4 lleoliad ategolion, nwyddau traul a chyfarwyddiadau/testunau gwybodaeth a sut i’w defnyddio
K5 pwy i roi gwybod iddynt am ddiffygion a phroblemau a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hyn
K6 gofynion ac arferion ar gyfer gweithredu’r gwahanol adnoddau TGCh rydych chi'n gweithio gyda nhw
K7 deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau perthnasol mewn perthynas â defnyddio TGCh, e.e. hawlfraint, diogelu data, trwyddedu meddalwedd, amddiffyn plant
K8 pwysigrwydd iechyd, diogelwch, diogeledd a mynediad
K9 y gofynion penodol er mwyn gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd dysgu yn hygyrch ac yn ddiogel i ddisgyblion sy'n defnyddio adnoddau TGCh
K10 polisi'r ysgol ar gyfer defnyddio TGCh yn yr ystafell ddosbarth gan gynnwys rheoli firysau a mynediad i'r rhyngrwyd
K11 materion diogelu i ddisgyblion sy'n defnyddio'r rhyngrwyd
K12 sut i ddefnyddio dyfeisiau sgrinio i atal mynediad i ddeunydd anaddas drwy'r rhyngrwyd
K13 sut i roi cyfarwyddiadau ac arweiniad clir ar ddefnyddio adnoddau TGCh
K14 sut i ddefnyddio'r rhaglenni meddalwedd a dysgu a ddefnyddir gan y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K15 sut i ddewis a defnyddio pecynnau dysgu i gyd-fynd â lefelau oedran a datblygiad y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K16 adnoddau ar-lein ac all-lein defnyddiol sy'n cynorthwyo defnydd priodol o TGCh
K17 yr ystod o sgiliau TGCh sydd eu hangen ar ddisgyblion a'r hyn y gellir ei ddisgwyl gan y grŵp oedran rydych chi'n gweithio gyda nhw
K18 sut i addasu'r defnydd o TGCh ar gyfer disgyblion o wahanol oedrannau, rhyw, anghenion a galluoedd
K19 y mathau o gymorth a allai fod eu hangen ar ddisgyblion i ddefnyddio TGCh yn effeithiol a sut i roi'r cymorth hwn
K20 y pwysigrwydd bod disgyblion yn cael amser i archwilio a dod yn gyfarwydd â gweithgareddau TGCh a chyfarpar
K21 sut i gynorthwyo datblygiad sgiliau TGCh ymhlith disgyblion
K22 sut i hyrwyddo annibyniaeth yn y modd y mae disgyblion yn defnyddio adnoddau TGCh
K23 y risgiau sy'n gysylltiedig ag adnoddau TGCh a sut i'w lleihau
K24 y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth gynorthwyo disgyblion i ddefnyddio TG a sut i ddelio â'r rhain
K25 gofynion a gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer storio adnoddau TGCh a’u diogeledd
K26 o ystyried bod TGCh yn faes sy'n datblygu ac yn newid yn gyflym, sut byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi'r cymorth a'r cyfleoedd gorau i ddysgu disgyblion drwy TGCh
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwirio argaeledd
gwneud yn siŵr bod adnoddau TGCh yn gweithio ac ar gael pan a lle bo angen. Gall hyn olygu bod angen llogi cyfarpar sy'n cael ei rannu ar draws nifer o ystafelloedd dosbarth yn yr ysgol neu wneud yn siŵr bod cyfarpar yn cael ei gadw yn yr ystafell ddosbarth i'w ddefnyddio yn ôl yr angen.
Adnoddau TGCh
ystod o gyfarpar a dyfeisiau technolegol gwahanol, megis teganau rhaglenadwy, ffonau, fideos, amseryddion, allweddellau, bysellbadau, cyfrifiaduron, meddalwedd, camerâu digidol, byrddau gwyn rhyngweithiol. Mae'r defnydd o dechnolegau dysgu mewn ysgolion yn newid yn gyflym a bwriedir i'r safonau hyn gwmpasu technolegau newydd a’r rhai sy'n dod i'r amlwg wrth iddynt ddod ar gael.
Sgiliau TGCh
y gallu i weithredu adnoddau TGCh yn ddiogel ac yn effeithiol fel adnodd dysgu. Drwy helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau wrth ddefnyddio TGCh, byddwch yn eu helpu i ddatblygu:
- sgiliau defnyddwyr sylfaenol
- sgiliau defnyddio pecynnau meddalwedd priodol
- sgiliau dod o hyd i raglenni dysgu a’u defnyddio
- ffyrdd o gael gafael ar wybodaeth
- eu defnydd o gyfathrebu electronig.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL8 Defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i gynorthwyo dysgu disgyblion
TDASTL56 Monitro a chynnal adnoddau'r cwricwlwm