Cynorthwyo cymhwysedd a gyflawnir yn y gweithle

URN: TDASTL69
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n datblygu ac yn asesu cymhwysedd yn y gweithle.
 
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â chynorthwyo unigolion i ddatblygu cymhwysedd a’i ddangos yn y gweithle. Mae'n cynnwys cytuno ar batrymau gwaith sy'n rhoi cyfleoedd i bobl ddatblygu a dangos eu cymhwysedd, cytuno pa agweddau ar gymhwysedd y gellir eu hasesu yn y gweithle, nodi cyfleoedd i asesu cymhwysedd yn y gweithle, eu gwylio yn cyflawni tasgau yn y gweithle a rhoi arweiniad ac adborth ar eu perfformiad.
 
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:

  1. Asesu perfformiad yn y gweithle yn erbyn y safonau y cytunwyd arnynt
  2. Rhoi cymorth i aelodau staff yn y gweithle ac adborth ar eu perfformiad.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Asesu perfformiad yn y gweithle yn erbyn y safonau y cytunwyd arnynt
 P1     cytuno ag aelodau staff pa dasgau y bydd angen i chi eu gweld yn perfformio yn y gweithle
P2     cytuno ag aelodau staff sut a phryd y byddwch yn eu gwylio yn perfformio eu gweithgareddau gwaith i gymharu eu perfformiad â'r safonau y cytunwyd arnynt
P3     rhoi cyngor i aelodau staff ar sut i gasglu tystiolaeth briodol o'r gweithle
P4     nodi pwy all fod yn rhan o'ch asesiadau neu a allai gael eu heffeithio ganddynt a chytuno ar drefniadau gyda nhw
P5     gwylio perfformiad yr aelod staff yn ddiogel a nodi lle maent wedi bodloni'r safonau y cytunwyd arnynt
P6     gofyn cwestiynau i wirio gwybodaeth a dealltwriaeth aelodau staff o weithgareddau'r gweithle
P7     gwneud yn siŵr bod y dystiolaeth yr ydych yn ei hystyried yn bodloni'r safonau gofynnol ac yn dod o waith yr aelodau staff eu hunain
P8     penderfynu a ydych yn barod i gadarnhau bod perfformiad yr aelod staff yn bodloni rhannau perthnasol o'r safonau y cytunwyd arnynt.
P9     nodi bylchau mewn tystiolaeth o gymhwysedd, a sut y gellir llenwi'r rhain yn y gweithle
P10   cadw cofnodion eich asesiadau'n ddiogel ac yn eu hanfon ymlaen drwy ddilyn y weithdrefn y cytunwyd arni

Rhoi cymorth i aelodau staff yn y gweithle a rhoi adborth ar eu perfformiad
P11 gwneud yn siŵr bod yr aelod staff yn deall eich penderfyniad asesu.
P12 dewis amser a lle priodol i roi adborth i'r aelod staff
P13 rhoi adborth clir a defnyddiol i aelodau staff ar eu perfformiad cyn gynted â phosibl ar ôl eich asesiad
P14 bod yn adeiladol ac yn galonogol wrth roi adborth
P15 dweud wrth aelodau staff sut y gallant wella eu perfformiad os oes angen
P16 nodi a chytuno ar unrhyw hyfforddi neu ddatblygu pellach sydd ei angen ar aelodau staff cyn cwblhau eich proses asesu
P17 os na allwch chi a'r aelod o staff gytuno ar eich asesiad o'u cymhwysedd, cyfeiriwch y mater at y person priodol
P18 cofnodi'r camau dilynol a'r camau nesaf yr ydych chi a'r aelodstaff wedi cytuno arnynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Natur a rôl asesiadau yn y gweithle
 K1     sut i roi cyfleoedd i gynnal asesiadau yn y gweithle
K2     sut i adolygu cynlluniau asesu a nodi lle gellir asesu gweithgareddau gwaith
K3     sut i nodi tasgau y gallwch eu gweld yn y gweithle a pha agweddau ar gymhwysedd y maent yn eu dangos
K4     sut i gytuno ar drefniadau i wylio aelod staff yn cyflawni tasgau yn y gweithle
K5     sut i wylio aelodau staff heb amharu neu effeithio ar eu  gweithgareddau gwaith
K6     pwy arall yn y gweithle y dylech ei gynnwys wrth asesu cymhwysedd aelodau staff
K7     sut i gofnodi eich asesiadau a rhoi gwybodaeth i bobl eraill
K8     sut i ddefnyddio eich asesiadau i ysgogi aelodau staff

Egwyddorion a chysyniadau
 K9    sut i nodi'r hyn sydd ei angen ar yr aelod staff i fodloni’r lefelau cymhwysedd y cytunwyd arnynt
K10   sut i wneud cymhariaeth gywir a theg rhwng perfformiad aelod staff a safonau priodol y cytunwyd arnynt
K11 sut i ddefnyddio gweithgareddau gwaith arferol i asesu cymhwysedd aelodau staff
K12 sut i roi cyfleoedd asesu teg, cyson ac nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw aelod staff
K13 sut i ofyn cwestiynau sy'n gwirio dealltwriaeth aelodau staff o'r hyn y maent yn ei wneud heb eu harwain
K14 sut i roi adborth adeiladol i aelodau staff
K15 sut i annog aelodau staff i ofyn cwestiynau a gofyn am gyngor

Ffactorau allanol sy'n dylanwadu ar asesu yn y gweithle
 K16 sut i wneud yn siŵr bod gofynion cyfreithiol i ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni yn ystod y broses asesu
K17 sut i ystyried gofynion asesu cyrff dyfarnu ac eraill wrth asesu cymhwysedd yn y gweithle
K18 pwy i roi gwybodaeth iddynt, a phryd
K19 pwy i'w cynnwys pan fydd anhawster yn codi wrth ddod i benderfyniad mewn asesiad, a'r gweithdrefnau y dylech eu dilyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

TDASTL67 Rhoi cyfleoedd dysgu i gydweithwyr
TDASTL68 Cynorthwyo dysgwyr drwy fentora yn y gweithle

Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Dysgu a Datblygu lle mae'n ymddangos fel uned L20.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

L20

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

mathemateg, cynllunio, paratoi, adnoddau, deilliannau, rhif, siâp, dulliau mesur, trin data, datrys problemau, symbolau, diagramau, gweithgareddau