Cynorthwyo dysgwyr drwy fentora yn y gweithle
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n mentora cydweithwyr a hyfforddeion yn y gweithle ac yn cynorthwyo datblygiad personol drwy ddysgu yn y gweithle.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â mentora unigolion yn y gweithle. Mae'n cynnwys cytuno ar natur mentora yn y gweithle, creu amgylchedd priodol lle gellir mentora, mentora hyfforddeion wrth iddynt roi eu cynllun hyfforddi ar waith, rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i hyfforddeion ar eu rolau a'u disgwyliadau gwaith, a’u hannog a’u cynorthwyo i gynnal eu cymhelliant.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen:
- Cynllunio’r broses fentora
- Sefydlu a chynnal y berthynas fentora
- Rhoi cymorth mentora.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio’r broses fentora
P1 esbonio eich rôl fel mentor yn y gweithle a'r gweithgareddau y bydd pawb yn eu cyflawni
P2 nodi sut y gall mentora gyfrannu at y rhaglen hyfforddi yn y gweithle
P3 nodi'r adnoddau a'r cyfleusterau sydd eu hangen i gyflawni'ch rôl fel mentor
P4 nodi pwy arall allai fod yn rhan o fentora yn y gweithle a pha rôl y dylen nhw eu chwarae
P5 esbonio'r berthynas rhwng y mentor, y bobl y mae'r mentor yn eu helpu, a phobl eraill yn y sefydliad
P6 nodi ffynonellau gwybodaeth a chymorth i'ch helpu yn eich rôl fel mentor
P7 cytuno sut y byddwch yn cadw at y cod moesegol ar gyfer mentora yn eich sefydliad
P8 cynllunio pryd, ble a pha mor aml y dylid trefnu sesiynau mentora i wneud yn siŵr bod amgylchedd priodol ar gyfer mentora
P9 gwneud yn siŵr bod gennych ddogfennau a gweithgareddau wedi'u paratoi a fydd yn helpu hyfforddeion yng nghamau cynnar mentora
Sefydlu a chynnal y berthynas fentora
P10 ymddwyn mewn ffordd sy'n dangos eich bod yn derbyn yr hyfforddai yr ydych yn ei gynorthwyo
P11 trafod, esbonio a chytuno ar y rolau a'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig â'r berthynas fentora
P12 cytuno ar nodau'r broses fentora a'r rheolau y bydd y ddau ohonoch yn eu dilyn
P13 cytuno ar y cymorth mentora a fydd yn helpu hyfforddeion i ddiwallu anghenion eu rhaglen yn y gweithle
P14 cytuno ar ffiniau'r berthynas fentora a sut caiff y rhain eu cydnabod a'u cynnal
P15 cytuno â hyfforddeion ynghylch lle y cynhelir sesiynau mentora a pha mor aml
P16 cytuno ar sut y bydd cynnydd ac unrhyw broblemau yn cael eu hadolygu yn ystod sesiynaumentora
Rhoi cymorth mentora
P17 neilltuo digon o amser ar gyfer pob sesiwn fentora
P18 helpu hyfforddeion i fynegi a thrafod syniadau ac unrhyw bryderon sy'n effeithio ar eu profiad yn y gweithle
P19 rhoi gwybodaeth a chyngor i hyfforddeion a fydd yn eu helpu i fod yn effeithiol yny gweithle
P20 rhoi’r cyfleoedd i hyfforddeion i’w helpu i ddeall ac addasu i'r amgylchedd gwaith
P21 nodi ffyrdd o fagu hyder hyfforddeion mewn gweithgareddau perfformio yn y gweithle
P22 helpu hyfforddeion i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros ddatblygu eu sgiliau yn y gweithle
P23 rhoi cyfleoedd i hyfforddeion gael profiad yn y gweithle i gynyddu eu hyder a'u hunanddatblygiad
P24 helpu hyfforddeion i edrych ar faterion mewn modd diduedd sy'n eu helpu i wneud dewisiadau gwybodus
P25 rhoi adborth gonest ac adeiladol i hyfforddeion
P26 nodi pryd mae angen newid y berthynas fentora fel ei bod yn effeithiol o hyd, a chytuno ar unrhyw newidiadau gyda'r hyfforddai
P27 nodi pryd mae'r berthynas fentora wedi dod i’w therfyn naturiol, ac adolygu'r broses gyda'r hyfforddai
P28 cytuno pa gymorth ychwanegol a help sydd ei angen ar yr hyfforddai neu y gallu gael gafael arno
P29 cynllunio sut i roi cymorth a help ychwanegol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Natur a rôl mentora yn y gweithle
K1 sut i roi trosolwg o'r rhaglen hyfforddi a gweld sut mae gwahanol rannau o’r gweithle yn cyd-fynd â'i gilydd
K2 sut i nodi gweithgareddau mentora priodol mewn perthynas â'r rhaglen hyfforddi yn y gweithle
K3 sut i nodi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a chynyddu hyder yn y gweithle megis newidiadau i rolau gwaith, cysgodi swyddi a gosod tasgau penodol
K4 sut i fonitro pa mor effeithiol a pha mor briodol yw'r berthynas fentora
K5 sut i egluro eich rôl fel mentor yn y sefydliad a chytuno arni
K6 sut i hyrwyddo buddiannau'r hyfforddai yn y sefydliad
K7 sut i ddangos eich bod yn defnyddio arferion da yn y gweithle
K8 sut i nodi pobl eraill yn y gweithle a’u cynnwys yn y broses fentora
K9 sut i nodi a sicrhau'r adnoddau a'r cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer y broses fentora
K10 sut i nodi'r wybodaeth a'r cyngor fydd eu hangen ar yr hyfforddeion yn ôl pob tebyg, a’r disgwyliadau o ran eich rôl eich hun, y cynllun mentora a'r sefydliad rydych yn gweithio gyda nhw
K11 sut i nodi ffynonellau cymorth a’u defnyddio
Egwyddorion a chysyniadau
K12 sut i nodi a chymhwyso cod ymarfer priodol ar gyfer mentora sy'n ymdrin ag:
K12.1 ymrwymiad i arferion gorau
K12.2 cydnabod terfynau eich profiad a'ch cymhwysedd eich hun
K12.3 gosod ffiniau o fewn y berthynas fentora a’u cynnal
K12.4 bod yn onest ac yn agored o fewn y berthynas fentora
K12.5 monitro a gwerthuso eich perfformiad eich hun drwy gydol y broses fentora
K12.6 defnyddio ffynonellau cymorth priodol
K12.7 rheoli gwahaniaethau rhwng eich gwerthoedd a'ch credoau eich hun a'r cod moesegol y cytunwyd arno
K12.8 bod yn atebol i'r hyfforddai a'u sefydliad am eich gweithgareddau mentora
K13 sut i gytuno ar rolau a chyfrifoldebau ar y naill ochr mewn perthynas fentora
K14 sut i asesu'n realistig y sgiliau technegol a phersonol sydd eu hangen i fod yn fentor i hyfforddai
K15 sut i wrando, gofyn cwestiynau a negodi
K16 sut i feithrin a chynnal brwdfrydedd ac ymrwymiad hyfforddeion
K17 sut i archwilio materion gyda hyfforddeion heb eu barnu
K18 sut i ysgogi hyfforddeion a rhoi hwb i’w hunanhyder
K19 sut i gytuno y byddwch yn cadw gwybodaeth yn gyfrinachol yn ystod y broses fentora
K20 sut i annog hyfforddeion i fynegi eu hunain
K21 sut i nodi a rhoi gwybodaeth briodol i hyfforddeion
K22 sut i ddefnyddio adolygiadau a gwerthusiadau i annog hyfforddeion i fod yn annibynnol
K23 sut i nodi ffynonellau cymorth ychwanegol sydd ar gael i'r hyfforddai
K24 sut i nodi a defnyddio ffynonellau a gweithdrefnau ar gyfer cyfeirio at asiantaethau eraill
K25 sut i nodi a defnyddio cymorth sy'n seiliedig ar dechnoleg ar gyfer y broses fentora
Ffactorau allanol sy'n dylanwadu ar y broses fentora
K26 sut i nodi a chymhwyso cyfrifoldebau mewn perthynas â deddfwriaeth iechyd, diogelwch a diogelu'r amgylchedd
K27 sut i gytuno ar reolau ar gyfrinachedd a diogelu data o fewn y berthynas fentora
K28 sut i nodi a gweithredu o fewn gofynion cynllun mentora a pholisïau’r sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL67 Rhoi cyfleoedd dysgu i gydweithwyr
TDASTL69 Cynorthwyo cymhwysedd a gyflawnir yn y gweithle
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Dysgu a Datblygu lle mae'n ymddangos fel uned L14.