Rhoi cyfleoedd dysgu i gydweithwyr
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwyr llinell gyntaf, rheolwyr canol ac uwch-reolwyr.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â chynorthwyo cydweithwyr i nodi eu hanghenion dysgu a helpu i roi cyfleoedd i fynd i'r afael â'r anghenion hyn. Mae annog cydweithwyr i dderbyn cyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain yn elfen o’r uned hon yn ogystal â'ch rôl wrth ddarparu 'amgylchedd', er enghraifft yn eich tîm neu faes cyfrifoldeb, lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi.
At ddibenion yr uned hon, ystyr 'cydweithwyr' yw'r bobl hynny y mae gennych gyfrifoldeb rheoli llinell drostynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 hyrwyddo manteision dysgu i gydweithwyr a gwneud yn siŵr bod eu parodrwydd a'u hymdrechion i ddysgu yn cael eu cydnabod
P2 rhoi adborth teg, rheolaidd a defnyddiol i gydweithwyr ar eu perfformiad gwaith, gan drafod a chytuno ar sut y gallant wella
P3 gweithio gyda chydweithwyr i nodi a blaenoriaethu anghenion dysgu yn seiliedig ar unrhyw fylchau rhwng gofynion eu rolau gwaith a'u gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ar hyn o bryd
P4 helpu cydweithwyr i nodi'r arddull(au) dysgu neu'r cyfuniad o arddulliau sy'n gweithio orau iddyn nhw a gwneud yn siŵr bod y rhain yn cael eu hystyried wrth nodi gweithgareddau dysgu a’u cynnal
P5 gweithio gyda chydweithwyr i nodi a chael gwybodaeth am ystod o weithgareddau dysgu posibl i fynd i'r afael ag anghenion dysgu a nodwyd
P6 trafod cynllun datblygu gyda phob cydweithiwr a chytuno arno fel ei fod yn cynnwys y gweithgareddau dysgu i'w cynnal, yr amcanion dysgu i'w cyflawni, yr adnoddau a'r amserlenni gofynnol
P7 gweithio gyda chydweithwyr i adnabod cyfleoedd dysgu heb eu cynllunio a’u defnyddio
P8 ceisio arbenigedd mewn perthynas â nodi a rhoi cyfleoedd dysgu i gydweithwyr a manteisio arno
P9 cynorthwyo cydweithwyr i ymgymryd â gweithgareddau dysgu, gwneud yn siŵr bod unrhyw adnoddau gofynnol ar gael, a gwneud ymdrechion i ddileu unrhyw rwystrau i ddysgu
P10 gwerthuso, mewn trafodaeth â phob cydweithiwr, a yw'r gweithgareddau dysgu y maent wedi'u cynnal wedi cyflawni'r deilliannau a ddymunir ac yn rhoi adborth cadarnhaol ar y profiad dysgu
P11 gweithio gyda chydweithwyr i ddiweddaru eu cynllun datblygu yn seiliedig ar berfformiad, unrhyw weithgareddau dysgu a gynhelir ac unrhyw newidiadau ehangach
P12 annog cydweithwyr i dderbyn cyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain gan gynnwys ymarfer a myfyrio ar yr hyn y maent wedi’i ddysgu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
K1 manteision dysgu i unigolion a sefydliadau a sut i'w hyrwyddo’r rhain ymhlith cydweithwyr
K2 ffyrdd y gallwch chi ddatblygu 'amgylchedd' lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae parodrwydd ac ymdrechion i ddysgu yn cael eu cydnabod
K3 pam mae’n bwysig annog cydweithwyr i dderbyn cyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain
K4 sut i roi adborth teg, rheolaidd a defnyddiol i gydweithwyr ar eu perfformiad yn y gwaith
K5 sut i nodi anghenion dysgu yn seiliedig ar fylchau a nodwyd rhwng gofynion rolau gwaith cydweithwyr a'u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau ar hyn o bryd
K6 sut i flaenoriaethu anghenion dysgu cydweithwyr, gan gynnwys ystyried anghenion a blaenoriaethau sefydliadol ac anghenion datblygiad personol a gyrfaol cydweithwyr
K7 yr ystod o wahanol arddulliau dysgu a sut i gynorthwyo cydweithwyr i nodi'r arddull(au) dysgu penodol neu'r cyfuniad o arddulliau dysgu sy'n gweithio orau iddyn nhw
K8 y gwahanol fathau o weithgareddau dysgu, eu manteision a'u hanfanteision a'r adnoddau gofynnol (er enghraifft, amser, ffioedd, staff dirprwyol)
K9 sut/ble i nodi a chael gwybodaeth am wahanol gweithgareddau dysgu
K10 pam mae’n bwysig bod gan gydweithwyr gynllun datblygu ysgrifenedig a'r hyn y dylai gynnwys (er enghraifft, anghenion dysgu a nodwyd, gweithgareddau dysgu i'w cynnal a'r amcanion dysgu sydd i'w cyflawni, yr amserlenni a'r adnoddau gofynnol)
K11 sut i bennu amcanion dysgu Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig ac â Therfyn amser (CAMPUS)
K12 ffynonellau arbenigol mewn perthynas â nodi dysgu a'i ddarparu i weithwyr
K13 pa fath o gymorth y gallai fod ei angen ar weithwyr i ymgymryd â gweithgareddau dysgu, yr adnoddau sydd eu hangen a’r mathau o rwystrau y gallant eu hwynebu a sut gellir eu datrys
K14 sut i werthuso a yw gweithgaredd dysgu wedi cyflawni'r amcanion dysgu a ddymunir
K15 pwysigrwydd adolygu a diweddaru cynlluniau datblygu ysgrifenedig yn rheolaidd yn seiliedig ar berfformiad, unrhyw weithgareddau dysgu a gynhelir ac unrhyw newidiadau ehangach
K16 sut i ystyried deddfwriaeth cydraddoldeb, unrhyw godau ymarfer perthnasol
a materion cyffredinol sy’n ymwneud ag amrywiaeth wrth gynnig cyfleoedd dysgu i gydweithwyr
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â diwydiant/sector penodol
K17 gofynion y diwydiant/sector ar gyfer datblygu neu gynnal gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth a datblygiad proffesiynol
K18 materion dysgu a mentrau a threfniadau penodol sy'n berthnasol yn y diwydiant/sector
K19 diwylliant gweithio ac arferion y diwydiant/sector
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
K20 gwybodaeth berthnasol am bwrpas, amcanion a chynlluniau eich tîm neu faes cyfrifoldeb neu'r sefydliad ehangach
K21 rolau gwaith cydweithwyr, gan gynnwys terfynau eu cyfrifoldebau a'u hamcanion gwaith personol
K22 y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd gan eich cydweithwyr ar hyn o bryd
K23 y bylchau a nodwyd yng ngwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau cydweithwyr
K24 anghenion dysgu cydweithwyr
K25 arddull(iau) dysgu neu gyfuniadau o arddulliau a ffefrir gan gydweithwyr
K26 cynlluniau datblygu ysgrifenedig cydweithwyr
K27 ffynonellau arbenigedd sydd ar gael yn/ar gyfer eich sefydliad mewn perthynas â nodi cyfleoedd dysgu a’u rhoi i gydweithwyr
K28 y gweithgareddau dysgu a’r adnoddau sydd ar gael yn/ar gyfer eich sefydliad
K29 polisïau eich sefydliad mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth
K30 polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad mewn perthynas â dysgu
K31 systemau arfarnu perfformiad eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- rydych yn deall y cyfleoedd a gyflwynir gan amrywiaeth pobl
- rydych yn dod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
- rydych yn neilltuo amser i gynorthwyo pobl eraill
- rydych yn ceisio deall anghenion, teimladau a chymhellion unigolion a dangos diddordeb gwirioneddol yn eu pryderon
- rydych yn annog ac yn cynorthwyo eraill i wneud y defnydd gorau o'u galluoedd
- rydych yn cydnabod cyflawniadau a llwyddiant pobl eraill
- rydych chi'n ysbrydoli eraill drwy gyffro dysgu
- rydych yn wynebu problemau o ran perfformiad ac yn mynd i’r afael â nhw yn uniongyrchol gyda'r bobl dan sylw
- rydych chi'n dweud 'na' i geisiadau afresymol
- dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso wrth roi cyfleoedd dysgu i gydweithwyr. Mae'r sgiliau hyn yn glir/ymhlyg yng nghynnwys manwl yr uned ac fe'u rhestrir yma fel gwybodaeth ychwanegol.
- hyfforddi
- arddangos
- rhoi adborth
- mentora
- cymell
- pennu amcanion
- blaenoriaethu
- cynllunio
- grymuso
- adolygu
- arwain
- gwerthfawrogi eraill a'u cynorthwyo
- rheoli gwybodaeth
- cyfathrebu
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL65 Dyrannu a gwirio gwaith yn eich tîm
TDASTL68 Cynorthwyo dysgwyr drwy fentora yn y gweithle TDASTL69 Cynorthwyo cymhwysedd a gyflawnir yn y gweithle
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Rheoli ac Arwain lle mae'n ymddangos fel uned D7.