Arwain a chymell gwirfoddolwyr
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo gwaith gwirfoddolwyr yn yr ysgol. Gallai gwirfoddolwyr fod yn rhieni cynorthwyol, pobl fusnes o'r gymuned leol, myfyrwyr profiad gwaith, neu unrhyw un arall sy'n gweithio yn yr ysgol yn ddi-dâl.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud ag arwain a chymell gwirfoddolwyr fel eu bod yn cyflawni safonau uchel. Mae'n golygu eu briffio am eu cyfrifoldebau, eu helpu i ddatrys unrhyw broblemau, a rhoi adborth iddynt ar eu gwaith. Drwy gydol y broses o arwain gwirfoddolwyr, mae'n bwysig dangos parch at eu hanghenion a'u dewisiadau, yn ogystal â natur y rôl wirfoddoli.
Mae'r uned hon yn cwmpasu'r sgiliau 'mwy meddal' sydd eu hangen i arwain gwirfoddolwyr yn hytrach nag agweddau eraill ar gynllunio, trefnu a monitro gwaith gwirfoddol a fyddai, mewn ysgol, yn cael ei wneud gan yr athrawon y maent yn gweithio gyda nhw.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen:
- Briffio gwirfoddolwyr ar ofynion gwaith a chyfrifoldebau
- Helpu gwirfoddolwyr i ddatrys problemau yn ystod gweithgareddau gwirfoddoli
- Ôl-drafod a rhoi adborth i wirfoddolwyr ar eu gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Briffio gwirfoddolwyr ar ofynion gwaith a chyfrifoldebau
P1 dewis lle ac amser ar gyfer y sesiwn friffio sy'n briodol i'ch gwirfoddolwyr a'u gwaith
P2 esbonio pwrpas a gwerth y gwaith rydych chi am iddynt ei wneud a'u cymell i gyflawni safonau uchel
P3 annog a chynorthwyo gwirfoddolwyr i gymryd perchnogaeth o'r gwaith ac awgrymu ffyrdd y gellid gwella neu addasu cynlluniau i ddiwallu eu hanghenion, eu galluoedd a'u potensial amrywiol
P4 cytuno ar gyfrifoldebau unigol a dulliau gweithio gyda phob gwirfoddolwr a gwneud yn siŵr eu bod yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt ac yn hyderus ynghylch ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn
P5 cytuno â gwirfoddolwyr sut y dylent gyfathrebu â chi ac â'i gilydd
P6 cyfathrebu â gwirfoddolwyr mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion amrywiol ac sy’n dangos parch at eu rôl wirfoddol bob amser
Helpu gwirfoddolwyr i ddatrys problemau yn ystod gweithgareddau gwirfoddoli
P7 monitro gweithgareddau gwirfoddoli a nodi problemau pan mae’r rhain yn codi
P8 casglu a dadansoddi gwybodaeth sydd ar gael am natur y broblem
P9 nodi goblygiadau'r broblem a chyfleu'r rhain i'r rhai sy’n gysylltiedig
P10 rhoi cymorth dros dro i helpu gwirfoddolwyr i oresgyn problemau os oes angen
P11 hyrwyddo awyrgylch lle na chaiff unigolion eu beio am y broblem ac mae problemau'n cael eu hystyried yn gyfle i ddysgu
P12 annog dull lle mae eich gwirfoddolwyr yn derbyn cyfrifoldeb dros y broblem ac yn awyddus i weithio tuag at ddod o hyd i ateb derbyniol
P13 gweithio gyda'r rhai sy'n ymwneud â nodi datrysiad sy'n dderbyniol iddynt ac sy’n cyd-fynd â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
P14 cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol â'r rhai sy'n ymwneud â ffyrdd sy'n cydnabod eu hanghenion amrywiol
P15 trin gwybodaeth gyfrinachol yn briodol, yn ogystal â bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch materion nad ydynt yn gyfrinachol
Ôl-drafod a rhoi adborth i wirfoddolwyr ar eu gwaith
P16 gwerthuso gwaith gwirfoddolwyr yn erbyn gofynion gwaith y cytunwyd arnynt, gan ddefnyddio dulliau teg a gwrthrychol
P17 dewiswch amser a lle priodol i ôl-drafod a rhoi adborth i wirfoddolwyr
P18 esbonio'n glir beth yw bwrpas ôl-drafod a rhoi adborth ac annog dull agored a gonest
P19 annog a chynorthwyo gwirfoddolwyr i fyfyrio ar y gwaith y maent wedi'i wneud ac i roi adborth gwrthrychol i chi
P20 rhoi adborth i wirfoddolwyr sy'n seiliedig ar eich gwerthusiad o'u gwaith ac sy’n ystyried eu barn a'u safbwyntiau
P21 cydnabod a dathlu llwyddiannau gwirfoddolwyr mewn ffyrdd sy'n atgyfnerthu eu cymhelliant
P22 rhoi awgrymiadau adeiladol i wella perfformiad gwirfoddolwyr yn y dyfodol a chytuno ar y rhain gyda nhw
P23 nodi lle gallai fod angen cymorth ychwanegol ar wirfoddolwyr a gwneud yn siŵr ei fod ar gael, lle bo hynny'n briodol
P24 dangos parch at anghenion a dewisiadau unigol gwirfoddolwyr a natur eu rôl wirfoddol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyfathrebu
K1 egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut i’w cymhwyso
K2 pwysigrwydd briffio staff gwirfoddol a'r gwahanol ffyrdd y gellir gwneud hyn
K3 gwybodaeth y dylid ei rhoi yn ystod sesiynau briffio
K4 pwysigrwydd dulliau cyfathrebu effeithiol gyda gwirfoddolwyr a rhyngddynt
Gwella’n barhaus
K5 pwysigrwydd chwilio am rolau a dulliau newydd ac arloesol o weithio a sut i nodi’r rhain
Amrywiaeth a chydraddoldeb
K6 pwysigrwydd ystyried galluoedd ac arddulliau amrywiol pobl a’u cymhellion
K7 pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod dulliau a rolau gwaith yn cyd-fynd ag anghenion, galluoedd a photensial amrywiol gwirfoddolwyr a sut i fynd ati i wneud hynny
Cynnwys a chymhelliant
K8 pwysigrwydd cynnwys gwirfoddolwyr wrth ddewis a chynllunio eu rolau a'u cyfrifoldebau, a sut i fynd ati i wneud hynny
K9 pwysigrwydd rhoi cyfle i wirfoddolwyr werthuso eu gwaith eu hunain a sut i'w hannog a'u galluogi i wneud hyn
K10 pwysigrwydd rhoi adborth i bobl a sut i roi adborth priodol mewn modd sensitif ac adeiladol
K11 pwysigrwydd seilio adborth ar werthusiad gwrthrychol o berfformiad
K12 pwysigrwydd dathlu cyflawniad gwirfoddolwyr a dulliau y gallwch eu defnyddio i wneud hynny
Gofynion cyfreithiol
K13 y gofynion cyfreithiol y mae angen i chi eu hystyried wrth gytuno ar ddulliau a rolau gwaith gwirfoddolwyr
Monitro, adolygu a gwerthuso
K14 sut i fonitro a gwerthuso gwaith gwirfoddolwyr
K15 pwysigrwydd defnyddio meini prawf teg a gwrthrychol wrth werthuso a pha fathau o feini prawf a allai fod yn briodol mewn cyd-destun gwirfoddol
K16 pwysigrwydd defnyddio tystiolaeth ar gyfer gwerthusiadau a'r mathau o dystiolaeth y gallech eu defnyddio
K17 y mathau o ffactorau a allai effeithio ar berfformiad gwirfoddolwyr a sut i ystyried y rhain wrth werthuso eu gwaith
Cynorthwyo a goruchwylio
K18 sut i bennu a chytuno ar ofynion gwaith gwirfoddolwyr
K19 y mathau o gymorth y mae gan wirfoddolwyr hawl i'w ddisgwyl gan eu goruchwyliwr a sut i’w darparu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Rheoli Gwirfoddolwyr lle mae'n ymddangos fel uned D2.