Dyrannu gwaith yn eich tîm a’i wirio
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldeb i arwain tîm.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â gwneud yn siŵr bod y gwaith sy'n ofynnol gan eich tîm yn cael ei ddyrannu'n effeithiol ac yn deg ymhlith aelodau'r tîm. Mae hefyd yn cynnwys gwirio cynnydd ac ansawdd gwaith aelodau'r tîm i wneud yn siŵr bod y lefel neu'r safon ofynnol o berfformiad yn cael ei chyflawni.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cadarnhau gyda’ch rheolwr pa waith sy'n ofynnol gan y tîm a gofyn am eglurhad, lle bo angen, ar unrhyw bwyntiau a materion eraill
P2 cynllunio sut bydd tîm yn ymgymryd â'r gwaith, gan nodi unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau hanfodol a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael
P3 dyrannu gwaith i aelodau'r tîm yn deg gan ystyried eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, eu profiad a'u llwyth gwaith yn ogystal â'r cyfle i ddatblygu
P4 briffio aelodau'r tîm ar y gwaith a ddyrannwyd iddynt a safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig
P5 annog aelodau'r tîm i ofyn cwestiynau, gwneud awgrymiadau a gofyn am eglurhad mewn perthynas â'r gwaith a ddyrannwyd iddynt
P6 gwirio cynnydd ac ansawdd gwaith aelodau'r tîm yn rheolaidd ac yn deg yn erbyn safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig a rhoi adborth prydlon ac adeiladol
P7 cynorthwyo aelodau'r tîm i nodi problemau a digwyddiadau annisgwyl a mynd i’r afael â nhw
P8 cymell aelodau'r tîm i gwblhau'r gwaith y maent wedi'i ddyrannu yn ogystal â darparu unrhyw gymorth a/neu adnoddau ychwanegol lle bo hynny’n bosibl neu’n angenrheidiol i’w helpu i’w gwblhau
P9 monitro'r tîm i weld a oes gwrthdaro, gan nodi'r achos(ion) pan fydd yn digwydd a mynd i’r afael â hyn mewn da bryd ac yn effeithiol
P10 nodi perfformiad annerbyniol neu wael, trafod yr achos(ion) a chytuno ar ffyrdd o wella perfformiad gydag aelodau'r tîm
P11 cydnabod pan mae aelodau'r tîm a'r tîm cyffredinol yn cwblhau darnau o waith neu weithgareddau arwyddocaol yn llwyddiannus a rhoi gwybod i’ch rheolwr
P12 defnyddio gwybodaeth a gesglir am berfformiad aelodau'r tîm mewn unrhywarfarniad ffurfiol o berfformiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
K1 gwahanol ffyrdd o gyfathrebu'n effeithiol ag aelodau o dîm
K2 pwysigrwydd cadarnhau/egluro gwaith y tîm gyda'ch rheolwr a sut i wneud hyn yn effeithiol
K3 sut i gynllunio gwaith tîm, gan gynnwys sut i nodi unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau hanfodol a'r adnoddau sydd ar gael
K4 sut i nodi ac ystyried materion iechyd a diogelwch wrth gynllunio, dyrannu a gwirio gwaith
K5 pam mae’n bwysig dyrannu gwaith ar draws y tîm yn deg a sut i wneud hynny
K6 pam mae’n bwysig briffio aelodau'r tîm am y gwaith a ddyrannwyd iddynt a safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig, a sut i wneud hynny
K7 ffyrdd o annog aelodau'r tîm i ofyn cwestiynau a/neu ofyn am eglurhad a gwneud awgrymiadau mewn perthynas â'r gwaith a ddyrannwyd iddynt
K8 ffyrdd effeithiol o wirio cynnydd ac ansawdd gwaith aelodau'r tîm yn rheolaidd ac yn deg
K9 sut i roi adborth prydlon ac adeiladol i aelodau'r tîm
K10 sut i ddewis a chymhwyso ystod gyfyngedig o wahanol ddulliau i
ysgogi, cynorthwyo ac annog aelodau'r tîm i gwblhau'r gwaith a ddyrannwyd, gwella eu perfformiad ac chydnabod eu cyflawniadau
K11 y cymorth a/neu'r adnoddau ychwanegol y gallai fod eu hangen ar aelodau'r tîm i'w helpu i gwblhau eu gwaith a sut i gynorthwyo i roi’r rhain iddynt
K12 pam mae’n bwysig monitro'r tîm i weld a oes gwrthdaro a sut i nodi achos(ion) gwrthdaro pan fydd yn digwydd a delio ag ef yn brydlon ac yn effeithiol
K13 pam mae’n bwysig nodi perfformiad annerbyniol neu wael gan aelodau o'r tîm a sut i drafod yr achos(ion) a chytuno ar ffyrdd o wella perfformiad gydag aelodau'r tîm
K14 y math o broblemau a digwyddiadau annisgwyl a allai ddigwydd a sut i gynorthwyo aelodau'r tîm i fynd i’r afael â nhw
K15 sut i gofnodi gwybodaeth am berfformiad parhaus aelodau'r tîm a defnyddio'r wybodaeth hon at ddibenion arfarnu perfformiad a dealltwriaeth
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â diwydiant/sector penodol
K16 deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau, codau ymarfer sy'n ymwneud â gwaith sy'n benodol i'r diwydiant / sector
K17 gofynion y diwydiant/sector ar gyfer datblygu neu gynnal gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
K18 aelodau, pwrpas ac amcanion eich tîm
K19 y gwaith sy'n ofynnol gan eich tîm
K20 yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer ymgymryd â'r gwaith gofynnol
K21 datganiad polisi ysgrifenedig y sefydliad ar gyfer iechyd a diogelwch, a gwybodaeth a gofynion cysylltiedig
K22 cynllun eich tîm ar gyfer ymgymryd â'r gwaith gofynnol
K23 sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth, profiad a llwyth gwaith aelodau'r tîm
K24 polisi a gweithdrefnau eich sefydliad o ran datblygiad personol
K25 llinellau adrodd yn y sefydliad a therfynau eich awdurdod
K26 safonau sefydliadol neu lefelau perfformiad disgwyliedig
K27 polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer mynd i’r afael â pherfformiad gwael
K28 polisïau a gweithdrefnau sefydliadol o ran achwyn a disgyblu
K29 systemau arfarnu perfformiad sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- rydych chi’n neilltuo amser i gynorthwyo pobl eraill
- rydych chi’n cytuno'n glir â'r hyn a ddisgwylir gan eraill ac yn eu dwyn i gyfrif
- rydych chi’n blaenoriaethu amcanion ac yn cynllunio gwaith i wneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau
- rydych chi’n datgan eich safbwynt a'ch barn yn glir ac yn hyderus mewn sefyllfaoedd lle ceir gwrthdaro
- dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
- rydych chi’n ceisio deall anghenion a chymhellion pobl
- rydych chi’n ymfalchïo mewn cyflwyno gwaith o ansawdd uchel
- rydych chi’n cymryd cyfrifoldeb personol dros wneud i bethau ddigwydd
- rydych chin annog ac yn cynorthwyo eraill i wneud y defnydd gorau o'u galluoedd
- rydych chi’n cadw llygad ar risgiau a pheryglon posibl
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso wrth ddyrannu a gwirio gwaith yn eich tîm. Mae'r sgiliau hyn yn glir/ymhlyg yng nghynnwys manwl yr uned ac fe'u rhestrir yma fel gwybodaeth ychwanegol.
- cyfathrebu
- rhoi adborth
- cynllunio
- adolygu
- cymell
- gwerthfawrogi eraill a'u cynorthwyo
- datrys problemau
- monitro
- gwneud penderfyniadau
- blaenoriaethu
- adeiladu tîm
- rheoli gwrthdaro
- rheoli gwybodaeth
- arwain
- hyfforddi
- dirprwyo
- pennu amcanion
- rheoli straen
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL63 Arwain eich tîm
Tarddiad yr uned hon
Mae'r uned hon yn dod o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Rheoli ac Arwain lle mae'n ymddangos fel uned D5.