Arwain yn eich maes cyfrifoldeb
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol am raglenni penodol, mentrau neu roi polisïau ar waith yn yr ysgol (e.e. rheoli ymddygiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, ASDAN).
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud ag arwain cydweithwyr mewn maes neu ran o sefydliad sydd wedi'i diffinio'n glir ac yn ffurfiol, a'u cymell a'u cynorthwyo i gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion ar gyfer y maes.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 creu gweledigaeth o ran i ba gyfeiriad y mae eich maes yn mynd a’i chyfathrebu'n glir ac yn frwdfrydig i'r bobl sy'n gweithio yn eich maes, ynghyd ag amcanion ategol a chynlluniau gweithredol
P2 gwneud yn siŵr bod y bobl sy'n gweithio yn eich maes yn deall ac yn gallu gweld sut mae'r weledigaeth, yr amcanion a'r cynlluniau gweithredol yn cysylltu â gweledigaeth ac amcanion y sefydliad cyffredinol
P3 llywio eich maes yn llwyddiannus drwy anawsterau a heriau, gan gynnwys gwrthdaro o fewn y maes
P4 creu a chynnal diwylliant yn eich maes sy'n annog ac yn cydnabod creadigrwydd ac arloesedd
P5 datblygu ystod o arddulliau arwain, a dewis a'u cymhwyso i sefyllfaoedd a phobl briodol
P6 cyfathrebu'n rheolaidd drwy ddefnyddio ystod o wahanol ddulliau cyfathrebu yn effeithiol gyda'r holl bobl sy'n gweithio yn eich maes, a dangos eich bod yn gwrando ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud
P7 rhoi cymorth a chyngor i bobl yn eich maes yn ôl yr angen, yn enwedig yn ystod cyfnodau o anawsterau a newid
P8 cymell a chynorthwyo pobl yn eich maes i gyflawni eu hamcanion gwaith a datblygu, a rhoi cydnabyddiaeth pan maent yn llwyddiannus
P9 grymuso pobl yn eich ardal i ddatblygu eu ffyrdd eu hunain o weithio a dod i’w penderfyniadau eu hunain o fewn ffiniau y cytunwyd arnynt
P10 annog pobl i arwain yn eu meysydd arbenigedd eu hunain a dangos parodrwydd i ddilyn yr arweiniad hwn
P11 drwy eich perfformiad, ennill ymddiriedaeth a chefnogaeth pobl yn eich maes am eich dull arwain, a chael adborth rheolaidd ar eich perfformiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
K1 y gwahaniaethau sylfaenol rhwng rheoli ac arwain
K2 sut i greu gweledigaeth ysbrydoledig ar gyfer maes cyfrifoldeb
K3 sut i ddewis a chymhwyso dulliau gwahanol yn llwyddiannus er mwyn cyfathrebu â phobl ar draws maes cyfrifoldeb
K4 ystod o wahanol arddulliau arwain a sut i ddewis a chymhwyso'r rhain i wahanol sefyllfaoedd a phobl
K5 sut i gael adborth gan bobl ar eich ffordd o arwain, a’i ddefnyddio
K6 y mathau o anawsterau a heriau a allai godi, gan gynnwys gwrthdaro o fewn y maes, a ffyrdd o'u nodi a'u goresgyn
K7 y manteision a ddaw yn sgil creu a chynnal diwylliant sy'n annog ac yn cydnabod creadigrwydd ac arloesedd
K8 pwysigrwydd annog eraill i arwain, a’r ffyrdd y gellir cyflawni hyn
K9 sut i rymuso pobl yn effeithiol
K10 sut i ddewis a chymhwyso dulliau gwahanol yn llwyddiannus ar gyfer annog, cymell a chynorthwyo pobl, a chydnabod cyflawniad
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â diwydiant/sector penodol
K11 arddulliau arwain sy'n gyffredin yn y diwydiant/sector
K12 gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol yn y diwydiant/sector
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
K13 eich gwerthoedd, eich cymhellion a'ch emosiynau
K14 eich cryfderau a'ch cyfyngiadau yn y rôl arwain
K15 cryfderau, cyfyngiadau a photensial y bobl rydych chi'n eu harwain
K16 eich rôl, eich cyfrifoldebau a lefel eich pŵer
K17 gweledigaeth ac amcanion y sefydliad yn gyffredinol
K18 gweledigaeth, amcanion, diwylliant a chynlluniau gweithredol y maes yr ydych yn gyfrifol amdano
K19 y mathau o gymorth a chyngor y bydd eu hangen ar bobl yn ôl pob tebyg a sut i ymateb i'r rhain
K20 arddulliau arwain a ddefnyddir ar draws y sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- rydych chi'n mynegi gweledigaeth sy'n creu cyffro, brwdfrydedd a ymrwymiad
- rydych chi'n creu ymdeimlad cyffredin o bwrpas
- rydych chi’n cymryd cyfrifoldeb personol dros wneud i bethau ddigwydd
- rydych chi’n gwneud pethau cymhleth yn syml er budd pobl eraill
- rydych chi’n annog ac yn cynorthwyo eraill i wneud penderfyniadau annibynnol
- rydych chi’n gweithredu o fewn terfynau eich awdurdod
- rydych chi’n neilltuo amser i gynorthwyo pobl eraill
- dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
- rydych chi’n ceisio deall anghenion a chymhellion pobl
- rydych chi’n modelu ymddygiad sy'n dangos parch, bod yn barod i helpu a chydweithrediad
- rydych chi’n annog ac yn cynorthwyo eraill i wneud y defnydd gorau o'u galluoedd
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso wrth arwain yn eich maes cyfrifoldeb. Mae'r sgiliau hyn yn glir/ymhlyg yng nghynnwys manwl yr uned ac fe'u rhestrir yma fel gwybodaeth ychwanegol.
- cyfathrebu
- dylanwadu a dwyn perswâd
- arwain drwy esiampl
- cymell
- ymgynghori
- cynllunio
- pennu amcanion
- rhoi adborth
- hyfforddi
- mentora
- gwerthfawrogi eraill a'u cynorthwyo
- grymuso
- dysgu
- dilyn
- rheoli gwrthdaro
- cael adborth
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL63 Arwain eich tîm
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Rheoli ac Arwain lle mae'n ymddangos fel uned B6.