Arwain eich tîm
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldeb i arwain tîm.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â rhoi arweiniad i aelodau eich tîm a'u cymell a'u cynorthwyo i gyflawni amcanion y tîm a'u hamcanion gwaith personol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 nodi a chyfleu pwrpas ac amcanion y tîm mewn modd cadarnhaol i'r holl aelodau
P2 cynnwys aelodau wrth gynllunio sut bydd y tîm yn cyflawni ei amcanion P3 gwneud yn siŵr bod gan bob aelod o'r tîm amcanion gwaith personol a
deall sut y bydd cyflawni'r rhain yn cyfrannu at gyflawni amcanion y tîm
P4 annog a chynorthwyo aelodau'r tîm i gyflawni eu hamcanion gwaith personol a rhai'r tîm a chydnabod pan fydd amcanion wedi'u cyflawni
P5 drwy eich perfformiad, ennill ymddiriedaeth a chefnogaeth y tîm ar gyfer eich dull arwain
P6 llywio'r tîm yn llwyddiannus drwy anawsterau a heriau, gan gynnwys gwrthdaro o fewn y tîm
P7 annog a chydnabod creadigrwydd ac arloesedd o fewn y tîm
P8 rhoi cymorth a chyngor i aelodau'r tîm pan fydd ei angen arnynt, yn enwedig yn ystod cyfnodau o anawsterau a newid
P9 cymell aelodau'r tîm i gyflwyno eu syniadau eu hunain a gwrando ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud
P10 annog aelodau'r tîm i arwain pan fydd ganddynt y wybodaeth a'r arbenigedd, a dangos parodrwydd i ddilyn yr arweiniad hwn
P11 monitro gweithgareddau a chynnydd ar draws y tîm heb ymyrryd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
K1 ffyrdd gwahanol o gyfathrebu'n effeithiol ag aelodau o dîm
K2 sut i bennu amcanion dysgu Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig ac â Therfyn amser (CAMPUS)
K3 sut i gynllunio sut i gyflawni amcanion y tîm a phwysigrwydd cynnwys aelodau'r tîm yn y broses hon
K4 pwysigrwydd gallu dangos i aelodau'r tîm sut mae amcanion gwaith personol yn cyfrannu at gyflawni amcanion y tîm
K5 bod gwahanol fathau o ddulliau arwain yn bodoli
K6 sut i ddewis a chymhwyso ystod cyfyngedig o wahanol ddulliau’n llwyddiannus ar gyfer annog, cymell a chynorthwyo aelodau'r tîm a chydnabod cyflawniad
K7 y mathau o anawsterau a heriau a allai godi, gan gynnwys gwrthdaro o fewn y tîm, a ffyrdd o'u nodi a'u goresgyn
K8 pwysigrwydd annog eraill i arwain, a’r ffyrdd y gellir cyflawni hyn
K9 manteision creadigrwydd ac arloesedd mewn tîm a sut i annog a chydnabod creadigrwydd ac arloesedd o fewn tîm
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â diwydiant/sector penodol
K10 gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol yn y diwydiant/sector
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
K11 aelodau, pwrpas, amcanion a chynlluniau eich tîm
K12 amcanion gwaith personol aelodau o'ch tîm
K13 y mathau o gymorth a chyngor y bydd eu hangen ar aelodau'r tîm yn ôl pob tebyg a sut i ymateb i'r rhain
K14 y safonau perfformiad ar gyfer gwaith eich tîm
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- rydych chi'n creu ymdeimlad cyffredin o bwrpas
- rydych chi’n cymryd cyfrifoldeb personol dros wneud i bethau ddigwydd
- rydych chi’n annog ac yn cynorthwyo eraill i wneud penderfyniadau annibynnol
- rydych chi’n gweithredu o fewn terfynau eich awdurdod
- rydych yn neilltuo amser i gynorthwyo pobl eraill
- rydych chi’n dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth ddod i benderfyniadau
- rydych chi’n ceisio deall anghenion a chymhellion pobl
- rydych chi’n modelu ymddygiad sy'n dangos parch, bod yn barod i helpu a chydweithrediad
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau cyffredinol y mae angen eu cymhwyso wrth arwain eich tîm. Mae'r sgiliau hyn yn glir/ymhlyg yng nghynnwys manwl yr uned ac fe'u rhestrir yma fel gwybodaeth ychwanegol.
- cyfathrebu
- cynllunio
- adeiladu tîm
- arwain drwy esiampl
- rhoi adborth
- pennu amcanion
- cymell
- ymgynghori
- datrys problemau
- gwerthfawrogi eraill a'u cynorthwyo
- monitro
- rheoli gwrthdaro
- gwneud penderfyniadau
- dilyn
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL64 Arwain yn eich maes cyfrifoldeb
TDASTL65 Dyrannu a gwirio gwaith yn eich tîm
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Rheoli ac Arwain lle mae'n ymddangos fel uned B5.