Datblygu a chynnal perthynas waith ag ymarferwyr eraill
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio gydag ymarferwyr eraill o fewn a’r tu allan i'r ysgol i roi cymorth cydlynol ar gyfer dysgu a datblygiad disgyblion.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â gweithio'n effeithiol gydag ymarferwyr eraill drwy wneud yr hyn a allwch i gynorthwyo eu gwaith a defnyddio eu cryfderau a'u harbenigedd i gynorthwyo a datblygu eich arferion a'ch gweithdrefnau gwaith eich hun.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Cynnal perthynas waith gydag ymarferwyr eraill
- Gweithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal perthynas waith ag ymarferwyr eraill
P1 rhoi gwybodaeth i gynorthwyo ymarferwyr eraill yn eu rôl yn unol â pholisïau a gweithdrefnau ysgolion
P2 rhannu gwybodaeth sy'n gyflawn, yn gywir ac o fewn ffiniau eich rôl a'ch cyfrifoldebau
P3 ymateb i gysylltiadau gan ymarferwyr eraill mewn modd sy'n dangos parodrwydd i ddatblygu perthnasoedd gwaith sy'n cyd-fynd â gweithdrefnau'r ysgol
P4 rhoi cyngor, gwybodaeth ac arddangosiadau clir i gynorthwyo eraill i ddatblygu’r sgiliau sydd gennych chi
P5 defnyddio cyfleoedd i ymestyn cysylltiad personol ag ymarferwyr eraill a rhoi sylw uniongyrchol i'w harbenigedd penodol
P6 datblygu dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau ymarferwyr eraill gan eu bod yn effeithio ar eich gwaith eich hun
Gweithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr eraill
P7 rhyngweithio ag ymarferwyr eraill mewn modd sy'n debygol o hyrwyddo ymddiriedaeth a hyder yn y berthynas
P8 rhoi gwybodaeth amserol, briodol a chryno i alluogi ymarferwyr eraill i roi eu cymorth i ddisgyblion
P9 ymateb i geisiadau ymarferwyr eraill am wybodaeth a chymorth mewn modd sy'n dangos parodrwydd i gydweithio lle bo hynny'n rhesymol ac yn briodol
P10 egluro'n glir unrhyw ffactorau sy'n cyfyngu ar eich gallu i gydweithio
P11 cyfrannu'n effeithiol at gynllunio a rhoi camau gweithredu ar y cyd ar waith
P12 cyflawni ymrwymiadau y cytunwyd arnynt mewn modd dibynadwy i ymgymryd â gweithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr eraill
P13 chwilio am gyfleoedd i fanteisio ar sgiliau a gwybodaeth ymarferwyr eraill a’u defnyddio’n effeithiol i gynorthwyo eich rôl eich hun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 sut i sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol ag ymarferwyr eraill
K2 egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut i'w cymhwyso er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag ymarferwyr eraill
K3 pwysigrwydd cyfnewid gwybodaeth ac adnoddau ag ymarferwyr eraill
K4 polisi'r ysgol o ran cyfrinachedd gwybodaeth – pwy sydd â hawl i drosglwyddo pa wybodaeth ac i bwy
K5 protocolau a gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer cofnodi a rhannu gwybodaeth
K6 eich rôl o fewn yr ysgol a’r cyfyngiadau o ran eich cymhwysedd a'ch maes cyfrifoldeb eich hun
K7 eich rôl mewn gwahanol sefyllfaoedd grŵp, gan gynnwys gweithio amlasiantaethol, a sut rydych chi’n cyfrannu at broses gyffredinol y grŵp
K8 rolau a chyfrifoldebau staff yn yr ysgol ac ymarferwyr eraill sydd mewn cysylltiad â'r ysgol
K9 eich ffiniau chi a ffiniau gweithwyr proffesiynol eraill
K10 pwysigrwydd gweithio mewn modd sy’n cadw at werthoedd, credoau a diwylliant yr ysgol
K11 pwysigrwydd parchu sgiliau ac arbenigedd
ymarferwyr eraill
K12 gwerth rhannu sut rydych chi'n ymdrin â'ch rôl gydag ymarferwyr eraill
K13 polisïau a gweithdrefnau’r ysgolion ar gyfer creu a chynnal cysylltiad ag ymarferwyr y tu allan i'r ysgol
K14 sut i benderfynu pryd y dylech roi gwybodaeth a/neu gymorth eich hun a phryd y dylech gyfeirio'r sefyllfa at ymarferydd arall
K15 y cymorth a'r cyngor arbenigol sydd ar gael i chi yn yr ysgol a chan ymarferwyr eraill sydd mewn cysylltiad â'r ysgol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfrinachedd
rhoi gwybodaeth i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i’w derbyn yn unig.
Ymarferwyr
cydweithwyr yn yr ysgol neu gysylltiadau o sefydliadau allanol y mae eu gwaith yn effeithio ar eich rôl, megis:
- staff addysgu, e.e. athrawon, arweinwyr pwnc, athrawon arbenigol, athrawon cyflenwi
- staff cymorth
- athrawon dan hyfforddiant
- rhieni cynorthwyol a gwirfoddolwyr cymunedol
- cysylltiadau’r ysgol o broffesiynau nad ydynt yn addysgu, e.e. seicolegydd addysgol, therapydd iaith a lleferydd, cynghorydd addysg awyr agored, pobl fusnes leol.
Cymorth
yr amser, yr adnoddau a'r cyngor rydych chi'n eu rhoi i ymarferwyr eraill a'u gweithgareddau, a'r rhai maen nhw'n eu rhoi i chi a'ch gweithgareddau chi.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL4 Cyfrannu at berthnasoedd cadarnhaol
TDASTL5 Rhoi cymorth effeithiol i'ch cydweithwyr
TDASTL20 Datblygu a hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol
TDASTL21 Cynorthwyo datblygiad ac effeithiolrwydd timau gwaith